Dyddiad cyhoeddi
Mewn ymateb i gyhoeddiad y Gweinidog Addysg ar ysgolion yn ailagor ym mis Medi, dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, Shavanah Taj:

"Rydym yn croesawu'r eglurder y mae'r Gweinidog Addysg wedi'i ddarparu heddiw. Mae ein gweithlu ysgolion wedi bod yn gweithio'n ddiflino fel y gallai plant ddychwelyd i'r ystafell ddosbarth yn ddiogel y tymor hwn ar gyfer diwrnodau 'cadw mewn cysylltiad '. Bydd y cyhoeddiad hwn yn golygu y gallant orffen y tymor gyda pheth sicrwydd am y flwyddyn ysgol newydd.

"Fel undebau llafur, rydym wedi gorfod gweithio'n ofalus i sicrhau bod iechyd a diogelwch dysgwyr a staff yn cael eu diogelu, bod lles dysgwyr a staff yn cael ei ystyried, ac y gallai addysg plant a phobl ifanc barhau mewn amgylchiadau mor wahanol. Hoffem dynnu sylw at y rolau y mae'r gweithlu wedi'u chwarae mewn cadw’r ysgolion hwb ar agor yn ystod y pandemig, a hefyd y gwaith y maent wedi'u gwneud i barhau i addysgu a chefnogi plant a phobl ifanc yn eu cartrefi.

"Nid oes yr un ohonom yn gwybod beth fydd y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd ym mis Medi, ond byddwn yn parhau i roi blaenoriaeth i iechyd a diogelwch disgyblion a'r gweithlu. Bydd y Fforwm Iechyd a Diogelwch Cenedlaethol sydd newydd ei sefydlu yn fecanwaith allweddol ar gyfer goruchwylio hyn, cydlynu negeseuon a gweithgarwch gorfodi, a sicrhau bod mesurau'n cael eu llywio gan y ddealltwriaeth ddiweddaraf o'r firws yn ogystal â realiti beth sy'n digwydd ar lawr gwlad. "