Dyddiad cyhoeddi
Mae TUC Cymru wedi croesawu dychweliad cynnig gofal plant Llywodraeth Cymru ar ôl torri ar draws cynllun cymorth gofal plant coronafeirws, ond mae'n rhybuddio bod yma heriau difrifol o hyd i weithwyr yng Nghymru.

Cadarnhaodd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Julie Morgan, yn gynharach yr wythnos hon y bydd y cynnig gofal plant i Gymru yn ailagor ar gyfer ceisiadau newydd o ganol mis Awst ymlaen.  Bydd hyn yn rhyddhad i rieni sy'n gweithio efo plant 3 a 4 oed.

Fodd bynnag, mae TUC Cymru wedi codi pryderon am ddyfodol y gweithle gan fod yr ystadegau swyddogol diweddaraf yn dangos bod 58% o fusnesau Cymru wedi gweld gostyngiad mewn trosiant oherwydd coronafeirws.  Mae hyn yn debygol o gael ei waethygu wrth i gynllun furlough Llywodraeth y DU dod i ben ym mis Hydref, a fydd yn ychwanegu at y straen i fusnesau.

Mae TUC Cymru yn gweithio gydag undebau i sefydlu system rhybudd cynnar a fydd yn caniatáu iddynt ymgysylltu â gweithleoedd lle mae bygythiad o ddiswyddiadau cyn gynted â phosibl. Bydden nhw’n gweithio gyda chyflogwyr i wneud yn siŵr y bod diswyddiadau yn cael eu hasesu o ran effaith ar gydraddoldeb er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu'n deg ar draws gweithwyr a dim yn effeithio'n annheg ar weithwyr anabl, y rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu neu'r rhai sy’n gwarchod eu hunain.

Mae TUC Cymru yn annog cyflogwyr i gynnal asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb cyn cymryd camau i ddileu swyddi.

Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:

"Rwy'n falch bod sicrwydd yn awr i rieni sy'n gweithio bydd yn eu galluogi i fynd yn ôl i'r gwaith a gwybod eu bod yn cael y cymorth ariannol yr oeddent yn ei ddisgwyl ar gyfer eu plant."

"Mae gofal plant yn rhwystr mawr i rieni sy'n gweithio a gwarcheidwaid ac mae'n hanfodol ei fod ar gael i alluogi gweithwyr i allu gwneud eu gwaith. Mae'r SYG wedi adrodd ei bod yn ymddangos bod rhieni wedi bod yn ffitio eu gwaith o gwmpas eu rhwymedigaethau gofal plant yn ystod argyfwng Covid, gan weithio ymhell y tu hwnt i'w horiau gwaith arferol.  All hyn ddim dod yn batrwm. Mae gwaith ond yn gynhyrchiol pan fyddwn hefyd efo’r amser i orffwys ac yn ymlacio. "

"Yr hyn y mae angen i ni weithio tuag ato nawr yw gweithle tecach.  Mae hyn yn cynnwys rhoi'r hawl i bob aelod o staff weithio mor hyblyg â phosibl o'u diwrnod cyntaf yn y swydd a sicrhau bod ein  polisïau absenoldeb rhiant yn addas i'r diben."

"Gyda llawer o fusnesau'n cael trafferth, rydym yn pryderu am y gweithwyr a fydd yn wynebu diswyddiadau. Rydyn ni'n gweithio ar gynlluniau i helpu gweithwyr sydd mewn perygl o golli eu swyddi, ond rydyn ni am wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael eu defnyddio'n deg ac yn gyfartal hefyd."

Nodyn y golygyddion

TUC Cymru yw llais Cymru yn y gwaith. Gyda 48 o undebau, mae TUC Cymru yn cynrychioli ychydig dros 400,000 o weithwyr. Rydym yn ymgyrchu dros fargen deg yn y gwaith ac ar gyfer cyfiawnder cymdeithasol gartref a thramor.

Gellir gweld yr ystadegau y cyfeirir atynt uchod yn: