Dyddiad cyhoeddi
Mae TUC Cymru yn croesawu'n gynnes ddatganiad pwysig gan Lywodraeth Cymru ar bwysigrwydd hanfodol amser cyfleuster ar gyfer gweithgarwch undebau llafur yn y sector cyhoeddus.

Mewn llythyr digynsail at brif weithredwyr cyrff cyhoeddus datganoledig, dywedodd Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol:

“Mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod manteision amser cyfleuster yn bellgyrhaeddol ac yn cynnwys:

• Cynorthwyo i nodi a datrys materion yn gynnar.

• Gwella ymgysylltiad gweithwyr a chreu diwylliannau cydweithredol yn y gweithle.

• Cefnogi iechyd a diogelwch a lleihau'r risg o anafiadau sy'n gysylltiedig â gwaith a salwch galwedigaethol.

• Cynorthwyo â hyfforddiant yn ogystal â dysgu a datblygiad y gweithlu.

• Hwyluso prosesau trafod effeithiol.

“Rwy'n eich annog i gadw'r manteision hyn mewn cof wrth wneud penderfyniadau ar amser cyfleuster ac yn disgwyl y byddwch yn trafod ac yn cytuno ar unrhyw newidiadau gyda'ch undebau llafur.

“Dylai amseroedd anodd, fel yr ydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd, ddyfnhau ein hymrwymiad i bartneriaeth gymdeithasol a gwneud penderfyniadau ar y cyd yn hytrach na thanseilio'r berthynas rhwng cyflogwyr ac undebau llafur.”

Mae undebau yn negodi’r hawl am gyfleusterau (megis TG a swyddfeydd) ag amser efo cyflogwyr.  Defnyddir yr adnoddau hyn i gynrychioli aelodau yn unigol ac ar y cyd mewn trafodaethau. 

Roedd undebau llafur wedi codi pryderon gyda Gweinidogion Cymru bod rhai cyrff cyhoeddus yn bwriadu cwtogi amser cyfleuster ar gyfer undebau llafur, er gwaethaf pwysigrwydd eu rôl.

Mae gan gynrychiolwyr undebau hawl statudol i gael amser rhesymol i ffwrdd â thâl i gyflawni dyletswyddau undebau llafur ers 1975, ac mae'r rhan fwyaf o'r darpariaethau presennol yn dod o dan Ddeddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992, a gyflwynwyd gan y llywodraeth Geidwadol ar y pryd.

Darperir canllawiau ar gymhwyso'r darpariaethau hyn yn ymarferol yng Nghod Ymarfer ACAS diwygiedig yn ddiweddar, sef 'Time Off for Trade Union Duties and Activities'.

.