Dyddiad cyhoeddi
dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:

"Rydym wedi croesawu'n frwd ymagwedd ofalus Llywodraeth Cymru at leddfu'r cyfyngiadau coronafeirws. Mae cyhoeddiad heddiw yn gam arall a fydd yn galluogi mwy o bobl i ddychwelyd i'w gweithle arferol, ond mae'n hollbwysig o hyd bod hyn yn cael ei wneud yn ddiogel. Ni ddylid rhoi unrhyw weithiwr mewn perygl.

“Mae gwaith undebau llafur gyda Llywodraeth Cymru yn allweddol i ddeall lle nad yw cyflogwyr yn cydymffurfio â chanllawiau ac yn rhoi gweithwyr a'r cyhoedd mewn perygl.

"Bydd llawer o gyflogwyr yn cymryd y mesurau angenrheidiol i gadw eu gweithwyr yn ddiogel. Ond ni fydd pob gweithiwr yng Nghymru yn hyderus bod eu cyflogwyr yn meddwl bod eu hiechyd a diogelwch yn bwysig. Dylai eich cyflogwr gynnal asesiad risg cywir cyn gofyn i chi ddychwelyd i'r gweithle. Os nad ydych yn credu bod hyn wedi digwydd, neu os nad ydych yn teimlo'n ddiogel yn y gwaith siaradwch â'ch undeb llafur neu cysylltwch â TUC Cymru drwy ein ffurflen chwythu'r chwiban."