Dyddiad cyhoeddi
Gan ymateb i gyhoeddiad y Prif Weinidog Mark Drakeford heddiw fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu creu deddfwriaeth i’w gwneud yn ofynnol i weithwyr gadw pellter o 2 fedr yn y gweithle, meddai Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, Shavanah Taj:

“Rydyn ni wir yn croesawu cynllun Llywodraeth Cymru i ddeddfu ar y gofyn i gadw pellter o 2 fedr yn y gweithle. Mae hwn yn mynd gam ymhellach nag unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig a bydd yn gwneud gweithleoedd yng Nghymru yn fwy diogel wrth inni frwydro yn erbyn pandemig COVID-19.

“Y cam nesaf fydd ei gorfodi – gan wneud yn siŵr bod pobl yn gwybod bod ganddynt hawl i fynnu bod eu cyflogwr yn cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y rheol 2 fedr yn cael ei hymarfer. Mae’n hanfodol ein bod yn lledaenu’r neges mor eang â phosibl. Bydd yr undebau yn gweithio â Llywodraeth Cymru ac eraill i gyflawni hyn.

“Ni ddylai neb orfod peryglu ei fywyd ei hun na rhoi ei deulu na’r gymuned ehangach mewn perygl drwy fod y feirws yn lledaenu. Dyna pam rydym wedi lansio ffurflen chwythu’r chwiban ar-lein i bobl sydd â phryderon am iechyd a diogelwch, fel y gallwn warchod hawliau gweithwyr i gael gweithleoedd diogel”.

Mae gwifren gweithwyr Chwythu Chwiban TUC Cymru i’w chael yn https://www.tuc.org.uk/cymru