Dyddiad cyhoeddi

Ymatebodd dros 1,200 o famau sy’n gweithio yng Nghymru i arolwg TUC a Mother Pukka ar heriau rheoli gwaith a gofal plant yn ystod gwyliau’r haf

Dywedodd mamau eu bod yn ei chael yn anodd iawn dod o hyd i ofal plant digonol ar ôl y pandemig

Mae TUC Cymru yn galw am 10 diwrnod o wyliau â thâl i bob rhiant – a hawl gyfreithiol i weithio’n hyblyg i bob gweithiwr.

Nid oes gan bron i ddwy ran o dair (63%) o famau i blant oed ysgol gynradd ac sy'n gweithio yng Nghymru ddigon o ofal plant ar gyfer chwe wythnos gwyliau haf yr ysgolion, yn ôl arolwg newydd a gyhoeddwyd gan TUC Cymru a’r ymgyrchydd, Mother Pukka heddiw (dydd Iau).

Ac mae’r sefyllfa hyd yn oed yn waeth i famau sengl yng Nghymru, gyda mwy na dwy ran o dair (68%) yn dweud wrth TUC Cymru nad oes ganddynt ddigon o ofal plant ar gyfer y gwyliau sydd i ddod.

‘Heriau enfawr’ i famau sy’n gweithio

Ddiwedd mis Mehefin, lansiodd y TUC a’r ymgyrchydd, Mother Pukka, gais am dystiolaeth i famau sy’n gweithio rannu eu profiadau o sut byddant yn rheoli eu hymrwymiadau gwaith a gofal plant yn ystod gwyliau haf ysgolion.

Cysylltodd dros 36,000 o famau, gyda dros 1,200 ohonynt o Gymru.

Soniodd mamau sy’n gweithio ar draws y sector cyhoeddus a phreifat yng Nghymru am yr heriau enfawr o gydbwyso eu gwaith a’u gofal plant, gyda bron i ddwy ran o dair (64%) yn dweud y byddent yn ei chael hi’n anoddach rheoli gofal plant yn ystod y gwyliau eleni nag o’r blaen.

Ymhlith y mamau hynny a oedd yn byw yng Nghymru, a ddywedodd y byddent yn gweld gofal plant dros yr haf yn anoddach eleni:

  • Dywedodd bron i un o bob pump (18%) eu bod wedi defnyddio eu holl lwfans gwyliau blynyddol yn barod er mwyn gallu dysgu plant gartref yn ystod y cyfyngiadau symud blaenorol.
  • Nid oes gan fwy nag un o bob pump (22%) eu rhwydwaith arferol o ffrindiau neu deulu y gallant ddibynnu arnynt i helpu gyda’u gofal plant eleni.
  • Dywedodd un o bob chwech (17%) wrth TUC Cymru nad oes ganddynt fynediad at eu clybiau haf arferol yn ystod gwyliau’r ysgol.

Rheoli gwaith a gofal plant yr haf hwn

Mae ymchwil flaenorol gan y TUC wedi dangos mai mamau sy’n gweithio oedd yn ysgwyddo’r rhan fwyaf o’r cyfrifoldeb gofalu yn ystod cyfyngiadau symud Covid-19 a phan oedd ysgolion wedi cau. Ac mae’r arolwg hwn yn dangos y bydd y gwyliau ysgol hyn yn anodd iawn i famau sy’n gweithio unwaith eto.

Mae mamau yng Nghymru yn dweud eu bod yn jyglo amrywiaeth o ffyrdd i geisio rheoli eu cyfrifoldebau gofal plant yn ystod gwyliau’r ysgol – ac mae llawer yn dibynnu ar allu gweithio’n fwy hyblyg nag o’r blaen i’w helpu i ymdopi:

  • Dywedodd hanner (50%) y mamau eu bod yn rheoli cyfrifoldebau gofalu drwy ryw fath o weithio hyblyg.
  • Bydd yn rhaid i ddwy o bob pump (41%) gyfuno gweithio gartref â gofal plant.
  • Bydd chwarter (26%) yn gweithio’n fwy hyblyg nag arfer.
  • Bydd yn rhaid i tua un o bob wyth (12%) leihau eu horiau yn y gwaith.
  • Bydd yn rhaid i tua un o bob wyth (12%) gymryd absenoldeb di-dâl.

Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:

“Mamau sy’n gweithio wnaeth ysgwyddo'r rhan fwyaf o’r cyfrifoldebau gofalu tra roedd yr ysgolion wedi cau, gyda llawer yn aberthu oriau a thâl er mwyn gwneud hynny.

“Dywedodd y rhan fwyaf o famau wrthym nad oes ganddyn nhw ddigon o ofal plant ar gyfer gwyliau’r ysgol sydd i ddod, ac erbyn hyn maen nhw’n wynebu her enfawr o ran rheoli eu cyfrifoldebau gofalu a gwaith yr haf hwn.

“Ddylai pethau ddim bod mor anodd â hyn. Heb weithredu, mae perygl i ni droi’r cloc yn ôl ar genedlaethau o gynnydd y mae menywod wedi’i wneud yn y gwaith. 

“Mae’n amlwg bod rhieni’n dibynnu ar hyblygrwydd yn fwy nag erioed i ymdopi â’r gofynion ychwanegol yn sgil yr argyfwng. Gadewch i ni sicrhau bod gan bawb hawliau cyfreithiol cryfach i drefniadau gweithio hyblyg.

“A byddwn yn annog cyflogwyr i fod mor gefnogol â phosib i’w staff sydd â phlant, a pheidio â’u gorfodi i ddychwelyd i’r swyddfa os yw gweithio gartref yn eu helpu i gydbwyso eu gwaith a’u gofal plant.”

Dywedodd sylfaenydd Mother Pukka Anna Whitehouse:

"Mae tua 62 diwrnod o wyliau y flwyddyn, a’r lwfans gwyliau cyfartalog i weithwyr yw 25 diwrnod.

Dydy’r fathemateg ddim yn gwneud synnwyr.

“Os ydyn ni’n mynd i adfer ar ôl y pandemig hwn a sicrhau bod tegwch a chydraddoldeb i ddynion a menywod rywbryd yn y dyfodol, mae angen gofal plant arnom i fod yn rhan o’n seilwaith – mae’r un mor bwysig â ffyrdd, rheilffyrdd ac arwyddbyst.

“Os yw’n anodd i deulu dau riant, beth am i ni ystyried teulu un rhiant. Mae rhieni ar ben eu tennyn gyda’r system bresennol.

“Ar y cyd â’r TUC, rwyf am dorri’r cylch yn ogystal ag ailadeiladu ffordd newydd sbon o weithio i rieni sy’n golygu nad ydyn nhw’n gorfod gadael eu gyrfa na theimlo eu bod yn cael eu datgysylltu oddi wrth eu teulu.”

Camau’r Llywodraeth

Mae TUC Cymru yn galw ar lywodraeth nesaf y DU i wneud y canlynol:

  • Cyflwyno hawl gyfreithiol i weithio’n hyblyg i’r holl weithwyr o’u diwrnod cyntaf mewn swydd a dyletswydd i gynnwys hyblygrwydd mewn hysbysebion swyddi. Gall gweithio hyblyg fod ar sawl ffurf wahanol, gan gynnwys cael oriau set neu batrwm disgwyliedig, gweithio gartref, rhannu swydd, oriau cywasgedig a gweithio yn ystod y tymor.
  • Cyflwyno 10 diwrnod o absenoldeb gofalwr gyda thâl llawn, o'r diwrnod cyntaf mewn swydd, ar gyfer pob rhiant. Ar hyn o bryd nid oes gan rieni hawl statudol i gael gwyliau gyda thâl i ofalu am eu plant.
  • Darparu cyllid i Gymru er mwyn buddsoddi mewn gofal plant. Mae angen rhagor o gyllid arnom er mwyn sicrhau gofal plant fforddiadwy o ansawdd da drwy gydol y flwyddyn, i gefnogi rhieni a helpu’r sector i wella ar ôl y pandemig.
Nodyn y golygyddion

- Arolwg TUC: Roedd arolwg y TUC a Mother Pukka yn ddewisol ac roedd yn rhedeg rhwng dydd Mercher 23 Mehefin a dydd Sul 4 Gorffennaf. Cafwyd 38,959 o ymatebion. Roedd 36,108 (92%) o’r ymatebwyr yn fenywod, ac roedd 3,027 (bron i 8%) yn rhieni sengl. Cafodd ymatebwyr eu recriwtio drwy undebau llafur a chyfryngau cymdeithasol.
- Mae crynodeb o ganfyddiadau’r arolwg ar gael yn: https://www.tuc.org.uk/sites/default/files/2021-07/SummerholidayReport.pdf

Cysylltiadau:

Swyddfa’r wasg TUC 

media@tuc.org.uk  

020 7467 1248