Mae pedwar gweithiwr anabl o bob pump (79%) yng Nghymru yn ennill llai na £15 yr awr, yn ôl dadansoddiad newydd o ystadegau swyddogol a gyhoeddwyd gan TUC Cymru heddiw (dydd Mercher).
Mae’r dadansoddiad – a gyhoeddwyd heddiw yn ystod mis hanes anabledd – yn datgelu bod tâl 3.09 miliwn o weithwyr anabl ledled y DU yn is na’r cyflog canolrifol o tua £15 yr awr.
Llai na thri o bob pump (57%) o weithwyr nad ydynt yn anabl yng Nghymru sy’n cael tâl sy’n llai na’r swm hwn.
Mae’r TUC yn dadlau bod gweithwyr anabl yn cael eu gorgynrychioli mewn gwaith ar gyflog isel – ac yn dweud nad yw’r cynnydd newydd yn yr isafswm cyflog a gyhoeddwyd gan y Canghellor yn natganiad yr Hydref yn mynd yn ddigon pell i godi gweithwyr allan o dlodi.
Canfu’r dadansoddiad fod gweithwyr anabl yn fwy tebygol na gweithwyr nad ydynt yn anabl o gael eu cyflogi ar gontract dim oriau (4.4% o’i gymharu â 2.9%) heb unrhyw sicrwydd y byddant yn cael shifftiau o un wythnos i’r llall.
Mae TUC Cymru yn dweud bod contractau dim oriau yn rhoi rheolaeth lwyr i’r cyflogwr dros oriau eu gweithwyr a’u gallu i ennill cyflog.
Mae hyn yn golygu nad yw gweithwyr byth yn gwybod faint y byddant yn ei ennill bob wythnos, ac mae eu hincwm yn llwyr ddibynnol ar fympwyon rheolwyr.
Mae’r corff undebau’n dadlau bod hyn yn ei gwneud yn anodd i weithwyr gynllunio eu bywydau, gofalu am eu plant a mynd i apwyntiadau meddygol.
Ac mae’n ei gwneud yn anoddach i weithwyr herio ymddygiad annerbyniol gan benaethiaid oherwydd eu bod yn pryderu y byddant yn cael eu cosbi drwy beidio â chael cymaint o oriau yn y dyfodol.
Nid yn unig y mae gweithwyr anabl yn cael llai o dâl na gweithwyr nad ydynt yn anabl, maent hefyd yn fwy tebygol o gael eu heithrio o’r farchnad swyddi.
Mae gweithwyr anabl bellach ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith na gweithwyr nad ydynt yn anabl (6.8% o’i gymharu â 3.4%).
Ym mis Tachwedd, cyhoeddodd y TUC ddadansoddiad yn dangos bod y bwlch cyflog rhwng gweithwyr nad ydynt yn anabl a gweithwyr anabl wedi ehangu a’i fod bellach yn 17.2%, neu’n £3,700 y flwyddyn.
Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru: “Mae pob un ohonom yn haeddu swydd deilwng gyda thâl teilwng. Ni ddylech chi gael eich cyflogi ar gyflog is neu ar delerau ac amodau gwaeth oherwydd eich bod chi’n anabl.
“Wrth i’r argyfwng costau byw ddwysáu, mae llawer o weithwyr Anabl yng Nghymru yn ei chael hi’n anodd ymdopi.
“Rydym eisoes yn gwybod bod pobl Anabl yn wynebu costau byw uwch na phobl nad ydynt yn anabl. Nawr maen nhw’n cael eu gwthio i’r pen gyda biliau brawychus o uchel ac yn gorfod dewis a ydyn nhw am roi bwyd ar y bwrdd neu dalu eu biliau.
“Cyhoeddodd Gweinidogion y mymryn lleiaf o gynnydd i’r isafswm cyflog cenedlaethol a chredyd cynhwysol yn natganiad yr Hydref. Gyda chostau byw yn codi’n sylweddol, mae angen inni sicrhau bod gan bawb ddigon i ddod drwyddi.
“Beth am roi terfyn ar Brydain lle mae cyflogau’n isel a chael isafswm cyflog o £15 yr awr cyn gynted â phosibl.
“Ac mae hefyd yn hen bryd cyflwyno adroddiadau gorfodol ar y bwlch cyflog anabledd er mwyn tynnu sylw at anghydraddoldeb yn y gwaith. Heb hyn, bydd miliynau o weithwyr Anabl yn wynebu blynyddoedd o gyflogau is a thlodi mewn gwaith.”
Er mwyn mynd i’r afael â chyflogau isel, mae TUC Cymru yn galw am godi’r isafswm cyflog i £15 yr awr cyn gynted â phosibl.
Ym mis Awst, cyflwynodd y corff undebau drywydd ffurfiol at isafswm cyflog o £15 yr awr ac economi gyda chyflogau uchel.
Ac i roi mwy o gefnogaeth i weithwyr anabl, mae TUC Cymru am i’r llywodraeth gyflwyno adroddiadau gorfodol ar y bwlch cyflog anabledd ar gyfer pob cyflogwr sydd â dros 50 o weithwyr.
Dywed y corff undebau y dylai’r ddeddfwriaeth hefyd roi dyletswydd ar gyflogwyr i lunio cynlluniau gweithredu sy’n nodi’r camau y byddant yn eu cymryd i fynd i’r afael ag unrhyw fylchau a gofnodir.
- Disabled workers earning less than £15 an hour (figures from LFS Q3 2021-Q2 2022)
|
Disabled |
Non-disabled |
Total employees |
4,298,328 |
23,810,496 |
Earning less than £15ph |
3,089,678 |
12,880,030 |
% |
72 |
54 |
- Disabled workers earning less than £15 an hour (figures from LFS Q3 2021-Q2 2022) by REGION
Disability: equality act (GSS harmonised) |
Equality Act Disabled |
Not Equality Act Disabled |
North East |
83 |
64 |
North West |
80 |
60 |
Yorkshire and Humberside |
78 |
63 |
East Midlands |
77 |
61 |
West Midlands |
85 |
58 |
East of England |
69 |
52 |
London |
45 |
39 |
South East |
65 |
48 |
South West |
76 |
57 |
Wales |
79 |
57 |
Scotland |
73 |
54 |
Northern Ireland |
82 |
67 |
- ZHC data is taken from the Q2 2022 of the LFS.
- Minimum wage: On 17 November the Chancellor announced that from 1 April 2023, the government will increase the National Living Wage (NLW) by 9.7% to £10.42 an hour, for those aged 23 and over: https://www.gov.uk/government/publications/autumn-statement-2022-documents/autumn-statement-2022-html
- Disability pay gap: Analysis published by the TUC found that non-disabled workers now earn a sixth (17.2%) more than disabled workers. The analysis found that the pay gap for disabled workers currently stands at £2.05 an hour – or £3,731 per year for someone working a 35-hour week: https://www.tuc.org.uk/news/non-disabled-workers-paid-17-more-disabled-peers-tuc
- £15 an hour minimum wage: In August the TUC set out a roadmap to a £15 an hour minimum wage and a high wage economy: https://www.tuc.org.uk/news/tuc-sets-out-roadmap-minimum-wage-and-high-wage-economy
The TUC report ‘Raising pay for everyone: A plan for a high wage economy and a £15 minimum wage’ is available here: https://www.tuc.org.uk/sites/default/files/2022-08/Raisingpayforeveryone.pdf
- Higher cost of living: Research shows that disabled people face higher than average household costs than non-disabled people: https://www.scope.org.uk/campaigns/extra-costs/disability-price-tag/ and disabled adults are more likely than non-disabled adults to be struggling to pay their bills: https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/personalandhouseholdfinances/expenditure/articles/impactofincreasedcostoflivingonadultsacrossgreatbritain/junetoseptember2022
- The median wage is £14.70 an hour.
- TUC event: The analysis is published ahead of a TUC event on Monday (12 December) which focuses on disabled workers and the cost-of-living crisis.
- Disability history month: For more information please visit: https://ukdhm.org/
- About the Wales TUC: The Wales TUC is the voice of Wales at work. With 48 member unions, the Wales TUC represents around 400,000 workers. We campaign for a fair deal at work and for social justice at home and abroad.
Cysylltu:
029 2034 7010