Dyddiad cyhoeddi
Ddydd Sul yma (7 Gorffennaf) yn Nhredegar, bydd TUC Cymru yn dathlu bywyd Aneurin Bevan fel prif noddwyr Diwrnod Bevan 2019.

Ymhlith y siaradwyr ar Ddiwrnod Bevan 2019 bydd:

  • Ruth Brady, Llywydd TUC Cymru
  • Keir Starmer AS, Ysgrifennydd Brexit yr Wrthblaid
  • Mark Drakeford AC, Prif Weinidog Cymru
  • Vaughan Gething AC, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Tanya Palmer, Ysgrifennydd Rhanbarthol Unsain Cymru

Bydd Diwrnod Bevan, sy’n ddigwyddiad blynyddol wedi’i drefnu gan Gyngor Tref Tredegar, yn dathlu penllanw Gŵyl Bevan. Bydd yr Ŵyl yn cael ei chynnal rhwng 1 a 7 Gorffennaf a bydd yn cynnwys digwyddiadau er cof anrhydeddus am sylfaenydd y GIG.    

Dywedodd Martin Mansfield, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:

“Mae TUC Cymru yn falch iawn o fod yn brif noddwyr Diwrnod Bevan eleni. Dangosodd llwyddiant ysgubol y digwyddiad y llynedd gymaint mae etifeddiaeth Bevan yn parhau i ysbrydoli pobl. 

“Roedd Nye Bevan yn undebwr llafur balch drwy gydol ei oes. Brwydrodd dros gytundeb gwell i weithwyr. Mae undebau llafur yng Nghymru yn parhau i frwydro hyd heddiw.  

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at ymuno â phobl ddydd Sul i ddathlu bywyd a chyflawniadau rhyfeddol Bevan”      

Bydd rhaglen dydd Sul yn dechrau gyda TUC Cymru yn arwain gorymdaith baner yr undeb llafur o gartref Bevan gynt yn Stryd Charles i Barc Bedwellte.

Ar ôl yr orymdaith, bydd prynhawn o weithgareddau di-ri ym Mharc Bedwellte yn cynnwys areithiau, cystadlaethau dadlau a pherfformiadau cerddorol gan Gantorion Cân Aderyn a Band Tref Tredegar. 

Bydd yno hefyd ystod eang o stondinau a gweithgareddau i bobl o bob oed.

Bydd stondin TUC Cymru yn rhoi'r cyfle i bobl drafod yr ymgyrch i wneud Cymru yn wlad o waith teg a’r ymdrechion i fynd i’r afael ag esgyniad y dde eithafol. Bydd staff TUC Cymru hefyd ar gael i roi gwybodaeth i unrhyw un sy’n awyddus i wybod mwy am sut gall undebau llafur eu helpu yn y gwaith.       

Nodyn y golygyddion

Bydd gorymdaith baner yr undeb llafur yn cychwyn ar Stryd Charles, Tredegar am 11am ac yn gorffen ym Mharc Bedwellte.

Bydd yr areithiau’n dechrau am 12pm yn y Bandstand ym Mharc Bedwellte.

Mae amserlen lawn ar gyfer Diwrnod Bevan 2019 ar gael yma: http://www.tredegartowncouncil.co.uk/whats-on

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â

Gareth Hathway

ghathway@tuc.org.uk

029 2034 7010