Dyddiad cyhoeddi
Mae TUC Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i ehangu mynediad i'w Chynllun Cymorth Hunanynysu oherwydd ofnau nad oes digon o weithwyr yn gallu cael gafael ar y taliadau o £500.

Ar hyn o bryd dim ond 1 o bob 8 gweithiwr yng Nghymru sy'n gymwys i gael cymorth drwy'r cynllun ac mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos mai dim ond 30% o geisiadau am y gronfa sydd wedi'u derbyn. Mae ymchwil newydd gan y TUC ar sut mae'r rhaglen sydd bron yn union yr un fath yn gweithredu yn Lloegr hefyd wedi codi pryderon pellach.

Yn ogystal, mae ymchwil newydd gan TUC Cymru/YouGov wedi canfod bod un o bob pump o bobl yng Nghymru wedi dweud y byddai gofyn iddynt hunanynysu am 10 diwrnod yn cael effaith negyddol ar eu cyllid personol. Mae'r ffigur hwn yn codi i 43% ar gyfer rhai gweithwyr ar gyflogau is.

Mae Llywodraeth yr Alban yr wythnos hon wedi ymrwymo i ehangu eu cynllun taliadau ynysu i bob gweithiwr sy'n ennill y Cyflog Byw Go Iawn (£9.50 yr awr) neu lai. Bydd y symudiad hwn yn golygu y bydd 200,000 yn fwy o bobl yn gallu cael help.

Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:

"Dylai sicrhau bod gweithwyr sy'n gorfod ynysu fforddio gwneud hynny yn cael ei ystyried yn rhan ganolog o gynllun rheoli heintiau'r Llywodraeth. Rydym yn ofni bod y dull presennol yn gadael gormod o aelwydydd incwm isel yn fwyfwy agored i niwed a heb y cymorth sydd ei angen arnynt yn ddybryd.

"Yn y pen draw, Llywodraeth Geidwadol San Steffan sy'n gyfrifol am ein system tâl salwch sydd wedi torri – sef y taliad lleiaf hael yn Ewrop. Ond os na fydd San Steffan yn gweithredu yna dylai Llywodraeth Cymru.

"Dylid dilyn ymrwymiad Llywodraeth yr Alban i ehangu mynediad i bawb sy'n cael eu talu ar Gyflog Byw Go Iawn neu is – mae'n ddull tecach a symlach na'n model presennol. Mae angen i ni hefyd sicrhau bod yr help sydd ar gael yn cael ei gyfleu'n effeithiol i bawb sydd ei angen."

Nodyn y golygyddion
  1. Cymhwysedd: Resolution Foundation (27 August 2020) “Self-isolation payments will help up to four million workers in low-income families – but vast majority of workers will miss out” www.resolutionfoundation.org/press-releases/self-isolation-payments-will-help-up-to-four-millionworkers-in-low-income-families-but-vast-majority-of-workers-will-miss-out/
  2. Data SISS Cymru: Cwestiwn Ysgrifenedig - WQ81967 - Senedd Cymru (senedd.cymru)
  3. Effaith Ariannol: Gofynnwyd, "Fyddech chi'n disgwyl i aros gartref a hunanynysu am 10 diwrnod neu fwy cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar eich arian, neu a fyddai'n cael unrhyw effaith y naill ffordd na'r llall? ". Dywedodd 21% y byddai effaith ariannol. Mae'r ffigur hwnnw'n codi i 43% ar gyfer y rhai sy'n cael eu categoreiddio fel rhai sy'n gweithio mewn swyddi 'llaw lled-fedrus/di-grefft'.

Mae'r holl ffigurau, oni nodir yn wahanol, yn dod o YouGov Plc.  Cyfanswm maint y sampl oedd 1,059 o oedolion. Cynhaliwyd gwaith maes rhwng 18 a 21 Ionawr 2021. Cynhaliwyd yr arolwg ar-lein. Mae'r ffigurau wedi'u pwysoli ac maent yn gynrychioliadol o'r holl oedolion yng Nghymru (16+ oed).

  1. Ymchwil TUC ar gyfer Lloegr: Sick pay that works | TUC   – gweler t9 ymlaen. Erthygl The Guardian: Majority in England turned down for self-isolation support, data shows | World news | The Guardian
  2. Cyhoeddiad Llywodraeth yr Alban: More people supported to self isolate - gov.scot (www.gov.scot)