Ar 10 Medi pleidleisiodd Cyngres yr Undebau Llafur i gefnogi’r streiciau ysgol fyd-eang dros yr hinsawdd ar 20 Medi 2019.
Pleidleisiodd cannoedd o gynrychiolwyr, sy’n cynrychioli 5,600,000 o aelodau undeb, i gefnogi ymgyrch 30 munud o weithgaredd.
Mae Rhwydwaith Hinsawdd Myfyrwyr y DU wedi trefnu ralïau ledled y DU, gan gynnwys y canlynol yng Nghymru:
Bydd y streiciau hyn yn digwydd ychydig cyn uwchgynhadledd hinsawdd frys y Cenhedloedd Unedig ar 23 Medi i ddatblygu cefnogaeth i'r agenda uchelgeisiol sydd ei hangen i fynd i'r afael at yr argyfwng hinsawdd.
Fel undebwyr llafur byddwn yn cefnogi'r frwydr yn erbyn newid hinsawdd i helpu i warchod y blaned i'n plant a'n hwyrion yn ogystal â sefyll dros weithwyr sydd efo’u swyddi mewn perygl. Mae angen i ni gymryd camau i wneud y trawsnewidiad i economi wyrddach yn un cyfiawn sy'n rhoi lle canolog i weithwyr.
Ni fydd pawb yn gallu mynd ar streic. Ond mae'n dal yn bosib i chi ddangos i'n llywodraethau bod gweithwyr ym mhobman eisiau gweithredu nawr drwy ymgyrchu yn eich gweithleoedd.
P'un a ydych yn mynychu streic ysgol neu n trefnu digwyddiad arall yn eich gweithle, cymerwch lun ar y diwrnod a rhannwch ef gyda ni.
Os yw miloedd ohonom yn dangos undod, bydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn.
Beth yw 'trawsnewidiad cyfiawn'?
Mae'r mudiad undebau llafur yn cydnabod bod tystiolaeth wyddonol lethol o'r angen i ddatgarboneiddio ein heconomi. Bydd diwydiannau sy'n defnyddio ynni'n ddwys, gan gynnwys y sectorau ynni, trafnidiaeth, gweithgynhyrchu ac adeiladu, yn allweddol i gyflawni'r newid hwn. Ond mae hwn yn brosiect bydd angen newidiadau ym mhob rhan o'n heconomi, ac mae gan aelodau undebau llafur yr arbenigedd i'w gyflawni. Mae'n rhaid i leisiau gweithwyr sydd ar flaen y gad wrth ddelio â her newid hinsawdd fod yn ganolog i'r broses o drawsnewid yn llwyddiannus i'r economi y bydd ei hangen arnom yn y dyfodol.
Darllenwch fwy yn adroddiad y TUC o' r enw A just transition to a greener, fairer economy (ar gael yn Saesneg yn unig).