Dyddiad cyhoeddi
Shavanah Taj yw Ysgrifennydd Cyffredinol BME cyntaf TUC Cymru. Mae hi'n addo sefyll dros weithwyr yng Nghymru sydd dan fygythiad effaith Brexit, newid hinsawdd ac awtomeiddio.

Shavanah Taj yw Ysgrifennydd Cyffredinol dros dro Cyngres Undebau Llafur Cymru, gan gymryd drosodd oddi wrth Martin Mansfield. 

Mae Shavanah Taj yn ymuno â TUC Cymru o Undeb y gwasanaethau cyhoeddus a masnachol (PCS), lle bu'n Ysgrifennydd Cymru ers 2013. 

Mae Martin Mansfield wedi gadael ar secondiad i Lywodraeth Cymru, gan ymuno â'r Gyfarwyddiaeth Partneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg newydd. 

Cyfnod dyngedfennol i fudiad yr undebau llafur

Shavanah Taj, Wales TUC General Secretary
Shavanah Taj. Credit: Fio theatre company

Dywedodd Shavanah Taj : "Mae hyn yn anrhydedd mawr. Dyma adeg pryd mae cael mudiad undebau llafur cryf, trefnus, ymatebol yn holl bwysig. 

"Mae hyn yn teimlo fel cyfnod dyngedfennol i'n mudiad ni. Bydd Brexit ac effaith newid yn yr hinsawdd ac awtomeiddio yn effeithio’n fawr ar fywydau pobl a theuluoedd sy’n gweithio, i enwi dim ond rhai o’r brif faterion. Mae angen i ni fod yn llais cryf, uchel a chyfunol i sicrhau ein bod yn cael y canlyniadau gorau posibl. 

"Ac mae hefyd yn gyfnod cyffrous iawn. Rydyn ni'n gwneud yn siŵr bod pobl yn cael eu diogelu'n well yn y gwaith nag erioed o'r blaen drwy ganllawiau a chytundebau ar faterion fel mynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol, oriau heb eu gwarantu, brwydro'r dde eithafol a chreu gweithleoedd sy'n ymwybodol o'r menopôs. 

"Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn bwrw ymlaen â deddfwriaeth partneriaeth gymdeithasol a fydd yn cynnig amddiffyniad gwirioneddol i hawliau gweithwyr a chyflawni argymhellion y Comisiwn Gwaith Teg, sef rhywbeth yr ydym yn ei gefnogi'n llwyr. Bydd hyn yn rhoi undebau llafur a chydfargeinio wrth wraidd gwaith tecach yng Nghymru." 

 

Angerdd a gonestrwydd Shavanah

Shavanah Taj, Wales TUC General Secretary, with Frances O'Grady, TUC General Secretary
Shavanah Taj & Frances O'Grady

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol y TUC, Frances O’Grady  : 

"Rydym yn falch iawn bod Shavanah yn camu i arweinyddiaeth yn TUC Cymru. 

"Dwi wedi nabod Shavanah amser maith. Bydd yn rhoi ei chalon a'i enaid i mewn i ennill ar gyfer teuluoedd sy'n gweithio yng Nghymru, gan brwydro yn erbyn contractau ansicr a gweithio i wneud gwaith yn decach i bawb. 

"Ar adeg pan fo tyfu ein mudiad yn bwysicach nag erioed, bydd hi’n dod â'r deallusrwydd, yr angerdd a'r gonestrwydd sydd eu hangen ar bobl sy’n gweithio." 

 

Ynglyn â Shavanah Taj 

Cyn ymuno â PCS fel swyddog llawn amser yn 2002, gweithiodd Shavanah mewn adwerthu, canolfannau galwadau a'r trydydd sector. O 2018 i 2019 hi oedd Llywydd TUC Cymru. 

Wedi'i eni a'i fagu yng Nghaerdydd, tyfodd Shavanah i fyny o fewn y mudiad undebau llafur. Roedd ei thad yn gynrychiolydd iechyd a diogelwch yn y gwaith dur.  

"Roedd e bob amser yn ein hannog i sefyll drosom ein hunain a sefyll gydag eraill yn eu hamser anghenus" meddai Shavanah. 

Mae gyda Shavanah angerdd mawr dros gydraddoldeb, cyfiawnder cymdeithasol a hawliau dynol. Mae hi'n Noddwr i Show Racism the Red Card Wales, ac yn Ymddiriedolwr ar gyfer  y Sefydliad Henna sy'n cefnogi dioddefwyr a goroeswyr o gam-drin domestig. Mae hi hefyd yn Ymddiriedolwr i Fio, grŵp theatr llawr gwlad sy'n annog pobl ifanc dosbarth gweithiol i ymgysylltu â'r celfyddydau a diwylliant. 

Mae Shavanah yn dal i fyw yng Nghaerdydd ac yn briod gyda dau o blant ifanc, 6 a 8 oed. 

Gwyliwch Shavanah yn siarad efo Wales.Pol am bwysicrwydd undebau a pam ddylech chi ymuno ag undeb

 

Nodyn y golygyddion
  • Mae apwyntiad Shavanah yn rhagflaenu wythnos nefoedd flynyddol y TUC. Caiff wythnos y nefoedd ei marcio gan y TUC yn wythnos dydd Sant Ffolant fel cyfle i ddathlu ac arddangos y gwaith y mae undebau llafur yn ei wneud i helpu pobl sy'n gweithio ar hyd a lled y wlad bob dydd. Yn ystod wythnos y nefoedd bydd TUC Cymru yn cefnogi gweithwyr undebol i recriwtio, a byddant yn cynnal ymgyrch ar aflonyddu rhywiol yn y lle gwaith. Am fwy o wybodaeth ewch i https://www.tuc.org.uk/cy/caruundebau

  • Cyn bo hir, bydd Shavanah yn un o bedair menyw bydd yn arwain cynghreiriau undebau llafur ym Mhrydain ac Iwerddon. Frances O’Grady yw Ysgrifennydd Cyffredinol y TUC, Patricia King yw Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngres Undebau Llafur Iwerddon a chyhoeddodd Cyngres Undebau Llafur yr Alban yn ddiweddar y bydd Rozanne Foyer yn cymryd lle Grahame Smith fel ei Ysgrifennydd Cyffredinol yn ddiweddarach eleni.   

  • Cyngres Undebau Llafur Cymru yw llais Cymru yn y gwaith, sy'n cynrychioli tua 400,000 o weithwyr ar draws 48 o undebau cysylltiedig. Rydym yn ymgyrchu dros fargen deg yn y gwaith ac ar gyfer cyfiawnder cymdeithasol gartref a thramor. Mae'n rhan gyfansoddol o'r TUC.