Dyddiad cyhoeddi
Rydym yn bryderus iawn gydag adroddiadau bod nifer cynyddol o gyflogwyr yn derbyn rhybuddion diswyddo yn eu miloedd. Mae hyn yn cynnwys sawl cyflogwr sydd wedi derbyn grantiau a chefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru a’r Deyrnas Unedig. Rydym yn gofyn i’r cwmnïau hyn weithio â’r undebau i roi cefnogaeth weithredol i weithwyr yn ystod yr amser hwn o straen ac ansicrwydd.

Help ar gyfer gweithwyr sy’n poeni ynglŷn â chael eu diswyddo

Os ydych chi’n poeni am gael eich diswyddo, cofiwch fod eich undeb ar gael i’ch helpu chi drwy hyn.  Gallwch chi:

Mae angen i lywodraethau weithredu er mwyn arbed swyddi

Os nad yw Llywodraethau’r DU a Chymru yn gweithredu yn gadarn yn awr, bydd yr arafu economaidd yn achosi risgiau anferth i swyddi a bywoliaethau pobl.  Rydym yn wynebu’r posibilrwydd o raddfa ddiweithdra o 11 y cant eleni a bydd ein cymunedau tlotaf yn cael eu taro galetaf.

Dylai Llywodraethau’r DU a Chymru fuddsoddi yn awr er mwyn creu swyddi. Dylai hyn gynnwys swyddi:

  • band-eang cyflym
  • ymchwil a datblygu mewn technoleg datgarboneiddio mewn gweithgynhyrchu
  • ymestyn ac uwchraddio rhwydwaith y rheilffordd
  • adeiladu tai cymdeithasol newydd ac ôl-osod tai cymdeithasol presennol.

Mae TUC Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod ein hadferiad mor deg, cynhwysol a chyfiawn ag y gall fod.  Bydd hyn angen gweithredu uchelgeisiol, cadarn er mwyn sicrhau bod cymaint o swyddi yn cael eu cadw ag sy’n bosibl.  Mae’n rhaid i’r rhai hynny sy’n colli eu swyddi allu ailhyfforddi neu ddod o hyd i waith newydd mor gyflym ag sy’n bosibl.  Yn ogystal, rydym yn lobïo am becyn ysgogi economaidd a fydd yn rhoi blaenoriaeth i swyddi gwyrdd a chyrraedd pob rhan o Gymru, fel nad oes yr un gymuned yn cael ei gadael ar ôl.

Ar lefel y DU, rydym yn gweithio gyda’n cydweithwyr yn y TUC i wthio Llywodraeth y DU i ddarparu’r cyllid angenrheidiol ar gyfer Cymru er mwyn gwireddu hyn.  Roeddem yn siomedig iawn bod y Prif Weinidog wedi methu â chyhoeddi unrhyw gefnogaeth weladwy ar gyfer Cymru ar 30ain Mehefin.  Byddwn yn parhau i frwydro dros y buddsoddiad hwn ynghyd â system nawdd cymdeithasol decach.

Darllenwch ein cyngor ar gyfer gweithwyr sy’n wynebu cael eu diswyddo