Mae gweithwyr yng Nghymru mewn perygl o golli eu swydd neu gael eu rhoi ar ffyrlo oherwydd y coronafeirws. Dyma ein gwybodaeth a’n cyngor i weithwyr sy’n wynebu colli eu swyddi.
Two workers in discussion
Mae gweithwyr yng Nghymru mewn perygl o golli eu swyddi

Mae TUC Cymru wedi ymrwymo i roi cyngor ac arweiniad clir i weithwyr, cynrychiolwyr a swyddogion undeb yn ystod yr argyfwng hwn. Mae darparu gwybodaeth a chymorth i’r rheini sydd fwyaf ei angen yn anoddach ar y foment, ond mae’n bwysicach nag erioed.

Drwy’r cynlluniau i gyflogwyr megis y Cynllun Cynnal Swyddi a chyflwyno’r cynllun ffyrlo gellir arbed y rhan fwyaf o swyddi yn y tymor byr ar draws Cymru. Ond mae pobl yn dal i golli eu swyddi. A gellid bod gwaeth i ddod wrth i’r argyfwng ddatblygu ac effeithio ar ein heconomi.

Mae’r dudalen hon yn rhoi ichi wybodaeth i’ch helpu i gynghori aelodau ynglŷn â’u hawliau os ydynt yn wynebu colli eu swyddi. Mae’n rhoi trosolwg ar y rhaglenni a’r asiantaethau perthnasol a all helpu.

Mae llawer o’r cymorth sydd ar gael yng Nghymru wedi cael ei addasu fel bod modd cael gafael arno yn ystod yr argyfwng ac mae’r mwyafrif helaeth o’r cymorth yn dal ar gael i weithwyr ar yr adeg hon. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu os hoffech inni eich helpu i gysylltu â’r asiantaethau cymorth perthnasol ar eich rhan yna cysylltwch â ni ar wtuc@tuc.org.uk neu 029 2034 7010.

Canllawiau rhyngweithiol i gynrychiolwyr sy'n cefnogi aelodau sydd wedi colli eu swyddi

Hanfodion dileu swyddi i gynrychiolwyr undeb

Pan fydd swyddi dan fygythiad, mae cynrychiolwyr yno i gefnogi aelodau. Gallwch baratoi drwy wneud yn siŵr eich bod yn gwybod sut mae dileu swyddi’n gweithio a beth yw eich rôl chi. Ar ddiwedd yr adran hon byddwch yn gallu ateb cwestiynau sylfaenol gan aelodau, paratoi ar gyfer eich rhan mewn negodiadau, cymryd camau ymarferol i helpu i ddiogelu swyddi a buddiannau aelodau.

 

Dewisiadau eraill yn lle dileu swyddi

Dylai dileu swyddi fod yn ddewis olaf, felly rhaid i gyflogwyr drafod dewisiadau eraill. Bydd yr adran hon yn eich helpu i baratoi i chwarae rhan weithredol. Byddwch yn dysgu am ddewisiadau y gallech eu hawgrymu, neu y gallai eich cyflogwr eu cynnig, a sut y gallwch negodi i gael y canlyniad gorau posibl i aelodau.

Cydraddoldeb, tegwch a hawliau

Mae gennych ran hanfodol i’w chwarae wrth wneud yn siŵr bod y broses ddileu swyddi yn deg ac yn trin pawb yn gyfartal. Bydd yr adran hon yn dweud wrthych sut i wneud yn siŵr bod proses ddethol a dileu swyddi eich cyflogwr yn deg, a sut i’w herio os nad yw’n deg. Cewch eich cyfeirio at fwy o wybodaeth wrth i chi fynd yn eich blaen, a chofiwch fod y canllaw llawn (saesneg yn unig) gennych os oes arnoch angen mwy o fanylion.

Rhoi cymorth i’n haelodau ar ôl colli swydd

Os yw diswyddiadau yn anochel, gallwch chi helpu aelodau i ailhyfforddi a dod o hyd i waith newydd. Ar ddiwedd yr adran hon, byddwch chi’n ymwybodol o rai dewisiadau sydd ar gael i aelodau a fydd yn cael eu diswyddo, a ffyrdd ymarferol i chi a chyflogwyr roi cymorth i aelodau.

Gwyliwch ein gweminar ar gynorthwyo aelodau sy’n wynebu colli eu swyddi:

Eich hawliau os ydych yn wynebu colli eich swydd a’r cynllun cynnal swyddi:

Blog y TUC (yn Saesneg): The coronavirus job scheme gives bosses a range of options

Blog y TUC (yn Saesneg): Persuading bosses to avoid redundancies

Gweminar y TUC (yn Saesneg): Coronavirus: the wage subsidy

Gwefan ACAS (yn Saesneg): Coronavirus: advice for employers and employees

A ydych chi'n dod dan gynllun cynnal swyddi y coronafeirws - cyngor gan Lywodraeth y DU

Cymorth i unigolion

Mae gan Cymru'n Gweithio gynghorwyr arbenigol sy’n barod i gynnig cyngor a chymorth am ddim i unrhyw un sy’n wynebu colli ei swydd.

Gallwch gysylltu â nhw drwy:

Mae Gyrfa Cymru wedi cynhyrchu fideo sy’n esbonio’r cymorth sydd ar gael i bobl sy’n colli eu swyddi:

Maent hefyd yn dal i allu cynnig cyngor ar yrfaoedd a chyngor un-wrth-un. Mae cymorth ar gael dros y ffôn, yr e-bost a drwy we-sgwrs yn ystod yr amser hwn. Cysylltwch dros:

Coronafeirws: cymorth i gael gwaith - tudalennau gwybodaeth ar wefan Llywodraeth Cymru

Mae’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol wedi llunio tudalennau cynghori ar Coronafeirws a'ch arian a Coronafirws - beth mae yn ei olygu a beth mae gennych hawl iddo.

ReAct

Gallai gweithwyr sy’n wynebu colli eu swydd fod â hawl i gyllid React i ailhyfforddi a diweddaru eu sgiliau. Mae grant hyfforddiant o hyd a £1,500 ar gael i feithrin sgiliau newydd, ailhyfforddi neu newid gyrfa. Rhaid ichi fodloni’r meini prawf cymhwyso i gael y cyllid.

Darllenwch ragor o wybodaeth am gyllid ReAct neu e-bostio reactenquiries@wales.gov

Cymorth gan eich undeb

Mae cyngor a chymorth ar golli swyddi ar gael drwy eich undeb. Gallwch gysylltu â’ch cynrychiolydd neu’r swyddog amser llawn.

Gall TUC Cymru eich helpu drwy roi gwybodaeth a chyngor ar yr hyfforddiant a’r cymorth sydd ar gael i bobl sy’n wynebu colli eu swyddi. 

Cronfa Ddysgu Undebau Cymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru ac fe’i cyflwynir drwy brosiectau dan arweiniad gwahanol undebau. Mae’r prosiectau’n helpu gweithwyr mewn amrywiol sectorau a gweithleoedd i wella eu sgiliau a chael cyfleoedd dysgu perthnasol. Mae’r prosiectau yn addasu eu rhaglenni i ganolbwyntio ar gyfleoedd dysgu hygyrch a chefnogol yn ystod pandemig y coronafeirws (bydd rhagor o fanylion ar gael yn fuan).

I gael gwybodaeth bellach am WULF ac am ddysgu dan arweiniad undebau yn ystod pandemig y coronafeirws, cysylltwch â’ch Swyddog Dysgu a Chymorth agosaf:

Gogledd Cymru: Gareth Hathway ghathway@tuc.org.uk

De Ddwyrain Cymru: Deri Bevan dbevan@tuc.org.uk; Kevin Williams kwilliams@tuc.org.uk

De Orllewin Cymru: Linsey Imms limms@tuc.org.uk

Canolbarth Cymru: Mark Rees mrees@tuc.org.uk