Dyddiad cyhoeddi
Mae gwaith diogel yn hawl, nid yn fraint. Bob blwyddyn ar 28 Ebrill bydd undebwyr llafur yn marcio diwrnod coffa gweithwyr.

Mae'n frawychus nodi fod mwy o bobl yn cael eu lladd, bob blwyddyn ar draws y byd, yn eu gwaith nag mewn rhyfeloedd. Bob blwyddyn, mae 28 Ebrill wedi'i ddynodi'n Ddiwrnod Coffa Gweithwyr, gan roi'r cyfle i fyfyrio ar y nifer fawr o bobl sy'n cael eu lladd, eu hanafu'n ddifrifol neu eu gwneud yn sâl wrth wneud eu gwaith.

Mae Llywydd TUC Cymru Shavanah Taj yn anrhydeddu'r rhai sydd wedi dioddef drwy alw ar bobl i ymuno ag Undeb i frwydro dros lais cryfach yn y gwaith a gwella iechyd a diogelwch yn y gweithle.

Dydy'r rhan fwyaf o weithwyr ddim yn marw o ryw salwch dirgel, neu mewn damwain drasig. Maen nhw'n marw am fod eu cyflogwr wedi penderfynu nad oedd eu diogelwch yn bwysig. Mae'r Diwrnod i Gofio Gweithwyr yn coffáu'r gweithwyr hynny, felly os nad ydych chi'n aelod o undeb, ymunwch ag undeb. Os ydych chi'n aelod o undeb, cymrwch ran a beth am fod yn gynrychiolydd iechyd a diogelwch. Gallwch chi helpu i newid diogelwch a lles eich cydweithwyr. Mae gweithleoedd lle mae'r staff yn aelodau o undeb yn weithleoedd mwy diogel, a heddiw ar y Diwrnod Rhyngwladol i Gofio Gweithwyr rydyn ni'n cofio am weithwyr sydd wedi marw, ac rydyn ni'n brwydro dros y rhai sy'n dal yn fyw.

Shavanah Taj, Wales TUC  President

Ymunwch ag undeb llafur

Gwyliwch neges lawn Shavanah ar Ddiwrnod Coffa Gweithwyr 2019:

Cymerwch ran yn Niwrnod Coffa Gweithwyr 2019

Eleni mae Diwrnod Coffa Gweithwyr ar ddydd Sul felly efallai y byddwch am drefnu digwyddiad yn eich gweithle ar y dydd Llun canlynol, 29 Ebrill. Gallai eich digwyddiad chi fod yn funud o dawelwch, rali coffa, cyfarfod yn y gweithle neu gyfle anffurfiol i ddod at eich gilydd. Gallech hefyd drefnu digwyddiad coffa mwy o faint fel plannu coeden goffa mewn man cyhoeddus, gosod plac, cyflwyno cerflun, darn o gelfyddyd, neu fainc, i gofio gweithwyr sydd wedi cael eu lladd yn y gweithle neu yn y gymuned.

Dywedwch wrthym sut rydych yn marcio Diwrnod Coffa Gweithwyr ar Twitter (gan ddefnyddio #IWMD19) neu Facebook.

Sylweddau peryglus

Y thema ar gyfer Diwrnod Coffa Gweithwyr 2019 yw: "sylweddau peryglus - eu cael allan o'r gweithle".

Cymerwch olwg ar ganllawiau'r TUC (yn Saesneg) ar asbestos, diesel a chanser.