Mae Cymru mewn degawd o drawsnewid diwydiannol enfawr a fydd yn effeithio ar bob gweithiwr, yn ôl adroddiad newydd a gomisiynwyd gan TUC Cymru.
Mae’n egluro bod angen gwneud mwy o ymdrech ar lefel y gweithle er mwyn bod yn sero-net yn unol â thargedau Llywodraeth Cymru, ac y dylai diwydiannau carbon-ddwys gael eu blaenoriaethu mewn cynlluniau er mwyn diogelu’r gweithlu.
Cynhaliwyd yr ymchwil gan yr LRD ar ran TUC Cymru, i ddarparu tystiolaeth o gytundebau trawsnewid yn y DU ac yn rhyngwladol y gallai undebau llafur, cyflogwyr a’r Llywodraeth yng Nghymru ddysgu ohonynt.
Gan ddefnyddio enghreifftiau fel Plan del Carbón – sy’n helpu glowyr mewn mwyngloddiau anhyfyw i ailhyfforddi – a chreu rôl cynrychiolwyr Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd yn Greggs, daw’r adroddiad i’r casgliad bod angen i undebau llafur sicrhau bod gan weithwyr lais ar lefel y gweithle ac ar lefel polisïau strategol, ac y dylai fod gan bob gweithle ‘gynllun trawsnewid’ y mae’r cyflogwyr a'r undebau wedi cytuno arno, er mwyn sicrhau na fydd unrhyw weithiwr yn cael ei adael ar ôl.
Mae’r adroddiad yn adeiladu ar ymgyrch TUC Cymru i gyrraedd y targedau sero-net yn unol â’r egwyddor ‘trawsnewid cyfiawn’. Bydd uchelgais Llywodraeth Cymru i gyrraedd sero-net erbyn 2050, ac yn y sector cyhoeddus datganoledig erbyn 2030, yn cael effaith enfawr ar swyddi, ac mae undebau llafur eisiau sicrhau bod cynifer o weithwyr â phosibl yn elwa o hynny – ac na fydd unrhyw un o dan anfantais.
Mae trawsnewid cyfiawn yn golygu gweithwyr yn cael llais canolog yn y broses o gynllunio’r trawsnewid, fel bod hynny’n rhywbeth sy’n digwydd gyda nhw ac nid iddyn nhw. Mae’n deillio o Gytundeb Paris, sy’n mynnu bod partïon yn gwneud mwy i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, gan ystyried yr angen i sicrhau trawsnewid cyfiawn yn y gweithlu ac i greu gwaith teilwng a swyddi o ansawdd da. Fel llais unedig ar ran gweithwyr, mae undebau llafur a phartneriaeth gymdeithasol yn rhan annatod o drawsnewid cyfiawn.
Roedd y corff undebau llafur yn croesawu ymrwymiad cryf Llywodraeth Cymru i drawsnewid cyfiawn yng nghynllun cyflawni Cymru Sero-Net, ac mae’n awyddus i weithio gyda’r llywodraeth a gyda chyrff cyflogwyr i wneud hyn yn realiti i bob gweithiwr, gan ddysgu’r gwersi o’r adroddiad hwn.
Mae TUC Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y canlynol:
Yn ôl Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, sydd wedi bod yn rhan o ddirprwyaeth ryngwladol yr undebau llafur ar gyfer COP26:
“Mae’r adroddiad hwn yn agoriad llygad i undebau, cyflogwyr a’r llywodraeth o ran yr angen i ni weithio gyda’n gilydd i drawsnewid ein gwasanaethau cyhoeddus a’n heconomi er mwyn cyrraedd y nodau sero-net.
“Mae angen i drawsnewid cyfiawn fod yn rhan annatod o bob un ymyriad gan y llywodraeth, ac mae cynllunio’n gwbl ganolog i hynny. Mae angen i’r gweithlu gael eu cynnwys mewn penderfyniadau am y gweithlu – o’r sgiliau y bydd eu hangen arnynt, i’r mathau o swyddi y bydd eu hangen mewn Cymru sero-net – yn hytrach na bod y penderfyniadau'n rhywbeth sydd dim ond yn digwydd i’r gweithlu.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i drawsnewid cyfiawn, ond nawr mae’r gwaith caled yn dechrau – mae angen i ni sicrhau cyn gynted â phosibl bod gan bob gweithle gynllun trawsnewid, er mwyn gwneud yn siŵr na fydd unrhyw weithiwr yn cael ei adael ar ôl o ganlyniad i’r targedau hyn.”
Mae TUC Cymru wedi cyhoeddi adroddiadau blaenorol ynghylch “Adferiad Gwyrdd a Thrawsnewidiad Cyfiawn”, ac mae ymchwil diweddar a wnaed ar ran TUC Cymru gan Transition Economics wedi canfod y gallai bron i 60,000 o swyddi gael eu creu yng Nghymru yn ystod y ddwy flynedd nesaf drwy fuddsoddiad y Llywodraeth mewn prosiectau seilwaith allweddol. Mae TUC Cymru hefyd wedi cyhoeddi pecyn cymorth i gynrychiolwyr undebau llafur, sy’n egluro sut gallan nhw wneud eu gweithleoedd yn fwy gwyrdd a chyfrannu at y nod sero-net. Mae hefyd yn darparu hyfforddiant ar hynny i gynrychiolwyr undebau llafur.
Hefyd, mae copi o adroddiad yr LRD, Negotiating the Future of Work: Net Zero, ar gael yma: Negotiating the future of work: Net-zero | TUC. Bydd yn cael ei lansio’n ffurfiol mewn digwyddiad ar gyfer Wythnos Hinsawdd Cymru ar 22 Tachwedd 2021. Cysylltwch â wtuc@tuc.org.uk i gofrestru.
Gwybodaeth am TUC Cymru
Mae TUC Cymru yn bodoli i wella amodau economaidd a chymdeithasol gweithwyr yng Nghymru, ni waeth a ydynt mewn swydd ai peidio ar hyn o bryd. Mae ei fandad a’i bwrpas yn adeiladu ar rôl undebau llafur cysylltiedig unigol. Mae gweithwyr yn ymuno ag undebau llafur i gynrychioli eu buddiannau, ac mae’r undebau hyn yn cysylltu â’r TUC i greu agenda ar y cyd, y cytunwyd arni’n ddemocrataidd mewn Cyngres a gynhelir bob dwy flynedd ac sy’n cael ei rheoli gan y Cyngor Cyffredinol sy’n cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn. Mae tua 400,000 o bobl yn aelodau o undebau llafur yng Nghymru. Mae’r mwyafrif helaeth o’r bobl hyn yn aelodau o undebau llafur sy’n gysylltiedig â TUC Cymru.
Cysylltu:
Joe Allen
07877529568