Mae undebau wedi cytuno â phenaethiaid awdurdodau lleol a byrddau iechyd bod yn rhaid i weithwyr gael llais cryf pan gyflwynir technolegau newydd.
Mae cyflogwyr wedi cytuno i bum safon gwaith teg y mae’n rhaid iddynt fod yn berthnasol pan fydd offer a systemau digidol yn cael eu cyflwyno i’r gweithle.
Dyma’r pum egwyddor:
Mae technoleg newydd yn gallu cynnig llawer o fanteision i weithwyr. Yn benodol, gallai tasgau cyffredin ac ailadroddus fod yn bethau sy’n perthyn i’r gorffennol. Gallai hyn roi mwy o amser i staff wasanaethu’r cyhoedd yn uniongyrchol a chymryd rhan mewn gwaith sy’n rhoi mwy o foddhad.
Ar y llaw arall, gall technoleg newydd roi gweithwyr mewn perygl. Mae'r problemau yn cynnwys:
Daethpwyd i’r cytundeb yng Nghyngor Partneriaeth y Gweithlu, dan gadeiryddiaeth Hannah Blythyn, AS, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, ac fe’i cymeradwywyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyflogwyr y GIG, Llywodraeth Cymru a’i hasiantaethau. Bydd yr egwyddorion yn rhan o gytundeb ‘Partneriaeth a Rheoli Newid’ sydd eisoes yn bodoli.
Dywedodd Hannah Blythyn AS:
“Yn y gweithle modern, mae sawl ffurf ar ddigidoleiddio, o ddefnyddio peiriannau awtomatig, i ddadansoddi data mewn ffyrdd soffistigedig neu ddefnyddio systemau cyfrifiadurol cymhleth a deallus. Er ei bod hi’n bosibl i dechnoleg arwain at lawer o fanteision i sefydliadau ac i weithwyr, mae hefyd yn codi nifer o gwestiynau sylfaenol am ddyfodol gwaith. Rwy’n gobeithio y bydd yr egwyddorion newydd hyn ar gyfer digidoleiddio yn cael eu mabwysiadu’n eang ac yn helpu i sicrhau bod gweithwyr yn elwa pan fydd technolegau newydd yn cael eu cyflwyno.”
Yn ôl ymchwil TUC, mae agweddau ar y berthynas gyflogaeth – er enghraifft, penderfyniadau ar recriwtio, rheoli llinell, monitro a hyfforddi – yn cael eu rheoli fwyfwy gan ddeallusrwydd artiffisial.
Pan ofynnodd y TUC i weithwyr am eu profiad o dechnolegau’n gwneud neu’n llywio penderfyniadau amdanynt yn y gwaith, dywedodd 22 y cant fod ganddynt brofiad o ddefnyddio’r technolegau hyn ar gyfer rheoli absenoldeb, 15 y cant ar gyfer graddio, 14 y cant ar gyfer dyrannu gwaith, 14 y cant ar gyfer trefnu shifftiau, a 14 y cant ar gyfer asesu anghenion hyfforddi a dyrannu.
Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol, TUC Cymru:
“Gallai’r cytundeb cenedlaethol newydd hwn ar ddigidoleiddio fod o fudd gwirioneddol i weithwyr. Gall sicrhau eu bod nhw ac aelodau’r cyhoedd i gyd yn elwa o’r dechnoleg ddiweddaraf.
“Y cam nesaf fydd rhoi’r fargen ar waith. Mae gan weithwyr ym mhob corff cyhoeddus sy’n dod o dan lywodraeth Cymru hawl yn awr i ofyn i’w rheolwr gytuno i’r safonau hyn. Bydd TUC Cymru yn gweithio gydag undebau i annog pobl i ymuno ar hyd a lled y wlad.”
Mae’r Egwyddorion Digidoleiddio yn atodiad newydd i’r Cytundeb Cyngor Partneriaeth y Gweithlu a Rheoli Newid sydd wedi cael ei ddiweddaru ac sydd ar gael ar dudalennau gwe Cyngor Partneriaeth y Gweithlu.
Ym mis Tachwedd 2020, cyhoeddodd y TUC Technology managing people - The worker experience. Roedd yr adroddiad yn codi ymwybyddiaeth o brofiad gweithwyr ac undebau llafur pan fydd deallusrwydd artiffisial (AI) yn cael ei defnyddio gan gyflogwyr i gyflawni swyddogaethau rheoli pobl, ac i nodi amcanion i sicrhau nad yw buddiannau gweithwyr yn cael eu hanwybyddu wrth ddefnyddio AI. Cynhaliodd BritainThinks arolwg ar-lein o 2133 o weithwyr yng Nghymru a Lloegr rhwng 31 Gorffennaf a 5 Awst 2020. Roedd yr holl ymatebwyr naill ai mewn gwaith, ar ffyrlo neu wedi colli eu swyddi’n ddiweddar. Y gwaith ymchwil hwn yw ffynonellau’r ystadegau a ddyfynnir uchod.