Dyddiad cyhoeddi
Mae’r bylchau cyflog mwyaf rhwng y rhywiau yn Nhorfaen, Blaenau Gwent a’r Rhondda

Mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau mor uchel â 25% mewn rhai rhannau o Gymru, yn ôl dadansoddiad newydd gan y TUC a gyhoeddwyd heddiw.

Mae’r dadansoddiad – a gyhoeddwyd cyn Diwrnod Rhyngwladol y Menywod – yn datgelu’r awdurdodau lleol sydd â’r lefelau uchaf o anghydraddoldeb cyflog yn y wlad.

Dyma ble mae’r bylchau cyflog mwyaf rhwng y rhywiau yng Nghymru:

  • Torfaen: 25.6% yw’r bwlch cyflog.
  • Blaenau Gwent: 23.8% yw’r bwlch cyflog. 
  • Y Rhondda: 21.9% yw’r bwlch cyflog.

Mae’r TUC yn amcangyfrif ei fod yn cymryd blwyddyn (366 o ddiwrnodau) i’r fenyw gyffredin yng Nghymru ennill yr un cyflog ag y mae’r dyn cyffredin yn ei ennill mewn ychydig dros 10 mis (313).

Fodd bynnag, mewn rhai rhannau o Gymru mae’r bwlch hwn yn waeth. Yn Nhorfaen mae’n cymryd blwyddyn i’r fenyw gyffredin ennill yr hyn mae’r dyn cyffredin yn ei ennill mewn cyn lleied â 9 mis.

Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru: “Mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn syndod o uchel mewn rhai rhannau o Gymru. Dydy hyn ddim yn iawn.

“Dylai fod yn ofynnol i gwmnïau a chyflogwyr esbonio pa gamau byddant yn eu cymryd i gau’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau - a dylid codi dirwy ar reolwyr nad ydynt yn cydymffurfio â’r gyfraith a’u dwyn i gyfrif.

“Mae angen i gyflogwyr roi chwarae teg i fenywod yn y gweithle.  Dylai gweithio’n hyblyg fod yn hawl i bawb yn y gwaith, o’r cychwyn cyntaf. 

“Bob blwyddyn, mae undebau’n helpu miloedd o fenywod i gael tâl maent yn ei haeddu. Ac mae gweithleoedd sy’n cydnabod undebau yn fwy tebygol o fod â pholisïau ar waith sy’n ystyriol o deuluoedd ac yn sicrhau chwarae teg.  Dyna pam y dylai pob menyw fod mewn undeb.