Dyddiad cyhoeddi
• Mae corff yr undeb yn lansio canllawiau gweithle newydd ar Ddiwrnod Rhyngwladol yn Erbyn Homoffobia, Deuffobia a Thrawsffobia
• Mae cynrychiolydd o fforwm LHDTC+ TUC Cymru ar gael i'w gyfweld

Heddiw, mae TUC Cymru wedi lansio canllawiau newydd ar gyfer gweithleoedd, i geisio gwneud gweithleoedd yn decach ac yn fwy diogel i weithwyr LHDTC+ yng Nghymru.

Mae'r canllaw yn cynnwys 10 cam i gynrychiolwyr undebau a chyflogwyr eu dilyn i gynyddu cynwysoldeb yn y gwaith.

Mae corff yr undeb wedi penderfynu cyhoeddi’r canllawiau yn dilyn lansio cynllun gweithredu LHDTC+ Llywodraeth Cymru ac mae’n cael ei ystyried yn adnodd allweddol er mwyn gwireddu polisïau'r Llywodraeth.

Yng Nghymru, ar hyn o bryd, mae pobl LHDTC+ yn fwy tebygol o wynebu casineb ar ffurf trawsffobia, homoffobia, deuffobia neu fathau eraill o gasineb a gwahaniaethu.  Gall hyn effeithio ar eu iechyd meddwl, eu hyder i ddatblygu yn y gweithle, a'u perfformiad.

Hefyd, mae llawer o bobl draws, rhyngrywiol a phobl nad ydynt yn cydymffurfio â rhywedd yn dweud eu bod yn profi trawsffobia parhaus, triniaeth negyddol, ac ymddygiad ymosodol tra byddant yn gweithio neu'n chwilio am waith.

Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:

"Mae mudiad yr undebau llafur yng Nghymru wedi ymrwymo i frwydro dros hawliau pob gweithiwr.  Rydym eisiau i bob gweithiwr LHDTC+, gan gynnwys y rhai sydd â hunaniaethau croestoriadol, deimlo’n falch ac yn ddiogel yn y gweithle.  Mae pawb yn haeddu gweithio mewn amgylchedd cynhwysol, parchus a diogel.

"Mae ein cynrychiolwyr undeb llafur ymroddedig yn y sector cyhoeddus, y sector preifat, y trydydd sector a’r sector hunangyflogaeth yn parhau i weithio tuag at wireddu hyn.  Mae'n bryd i gyflogwyr newid y modd y maent yn cefnogi pobl LHDTC+ yn sylweddol."

Dywedodd Phil Jones, Cadeirydd fforwm LHDTC+ TUC Cymru:

"Yn anffodus, mae casineb a gwahaniaethu’n bodoli mewn llawer o weithleoedd o hyd, gan ei gwneud yn anodd i unigolion LHDTC+ deimlo'n saff ac yn ddiogel.

Fel undebwyr llafur, rydym yn ymwybodol bod cael triniaeth deg yn y gweithle yn hanfodol.  Felly, rydym eisiau sicrhau bod Cymru'n lle croesawgar a chynhwysol i'w holl drigolion a gweithwyr, lle gall pawb fod yn nhw eu hunain a theimlo'n ddiogel wrth wneud hynny."

Mae'r canllawiau gweithle newydd yn tywys y cynrychiolwyr drwy'r 10 pwynt canlynol:

  1. Ymgorffori iaith niwtral o ran rhywedd er mwyn creu gweithleoedd sydd yn fwy croesawgar i bob gweithiwr.
  2. Caniatáu i weithwyr fynegi eu rhagenwau er mwyn creu’r amgylchedd mwyaf cyfforddus posib ar gyfer gweithwyr traws ac anneuaidd.
  3. Cefnogi gweithwyr sy'n trawsnewid drwy greu diwylliant croesawgar a chynhwysol, a gweithredu’n ataliol yn erbyn trawsffobia.
  4. Datblygu polisïau yn y gweithle mewn ymgynghoriad â’r gweithwyr i wneud y gwaith yn decach i bawb.
  5. Cydnabod y gall datblygiad yn y gweithle fod yn broblem i bobl LHDTC+ oherwydd gwahaniaethu, a chreu cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a datblygiad gyrfa.
  6. Cymell cyflogwyr i adrodd ar fylchau cyflog LHDTC+.
  7. Gweithredoli arferion gwrth-fwlio a chymryd camau yn erbyn gwahaniaethu neu aflonyddu tuag at weithwyr LHDTC+.
  8. Sefydlu grŵp neu rwydwaith LHDTC+ wedi’i gefnogi gan staff yr undeb sydd yn annog cefnogaeth, cydsafiad a chyfeillgarwch.
  9. Dathlu Mis Hanes LHDTC+, ond hefyd cymryd camau ystyrlon i gefnogi pobl LHDTC+ drwy gydol y flwyddyn.
  10. Creu undeb cryf i sicrhau cynrychiolaeth o bobl LHDTC+ ar bob lefel.
Nodyn y golygyddion
  • Lawrlwythwch y cynllun gweithredu LHDTC+ 
  • Mae Phil Jones, Cadeirydd fforwm LHDTC+ TUC Cymru, ar gael i'w gyfweld
  • Am TUC Cymru: TUC Cymru yw llais Cymru yn y gwaith. Gyda 48 o undebau aelodaeth, mae TUC Cymru yn cynrychioli tua 400,000 o weithwyr. Rydym yn ymgyrchu dros fargen deg yn y gweithle a thros gyfiawnder cymdeithasol yn wladol a thramor

Cyswllt

Rhianydd Williams, Swyddog Polisi Cydraddoldeb TUC Cymru

rwilliams@tuc.org.uk

029 2034 7010