Helo! Rhiannon Jones ydw i ac rwy’n gynorthwyydd dysgu mewn ysgol anghenion arbennig yng Nghymru.
Rydw i wedi bod yn aelod o UNSAIN ers tua 3 blynedd a hanner bellach, a chyda lwc, erioed wedi bod angen eu cefnogaeth.
Yn ddiweddar, gofynnodd ein cynrychiolydd ysgolion UNSAIN lleol imi a fyddai gen i ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn cwrs Cyfathrebu Cyfnewid Lluniau (PECS). Dywedodd wrthyf fod ein Prosiect UNSAIN WULF yn ariannu lleoedd i wneud y gweithdai ar-lein Lefel 1 – felly dyma neisio at y cyfle!
Roeddwn i eisiau gwneud y cwrs oherwydd fy mod yn gweithio mewn ysgol anghenion arbennig - i helpu'r plant rydw i'n gweithio gyda nhw.
Mae'n debyg na fyddwn wedi ei wneud oni bai am UNSAIN a'u cefnogaeth. Rwyf eisoes yn cynilo i barhau gyda fy ngradd Prifysgol Agored ran amser, ac nid yw fy ysgol yn gallu ariannu'r math hwn o hyfforddiant.
Rhoddodd UNSAIN yr holl fanylion yr oeddwn eu hangen i mi ac roedden nhw’n gallu fy helpu i ymgeisio am y cwrs... yn ogystal â thalu amdano!
Mae Covid 19 wedi golygu nad wyf wedi gallu ei ddefnyddio yn yr ysgol eto, ond rwy'n edrych ymlaen at roi'r hyn rydw i wedi'i ddysgu ar waith! Byddwn yn argymell yn frwd y cwrs PECS i eraill - rwyf wedi dweud wrth gydweithwyr eraill amdano ac mae rhai yn ymchwilio i'r cwrs eu hunain.
Gan edrych i'r dyfodol, rwyf wedi bod yn siarad â Rheolwyr Prosiect WULF i archwilio cyrsiau eraill (tebyg i hyn) a all helpu gyda'r swydd rydw i'n gweithio ynddi. Rydw i'n mynd i edrych i mewn i hyfforddiant PECS lefel 2 ac ymchwilio i sut y gallaf gwblhau fy astudiaethau Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch - gobeithio y gall UNSAIN fy helpu gyda hyn hefyd!
Rwyf wedi cael profiad gwael o ddysgu yn y gorffennol, sydd wedi fy nhroi yn erbyn dilyn fy mreuddwydion addysgu, ond mae'r profiad hwn wedi fy ysbrydoli i barhau â'm hastudiaethau.
P'un a oes gennych ddiddordeb mewn ffotograffiaeth neu sgiliau cyfrifiadurol, Cymraeg neu electroneg, gall Gronfa Dysgu Undebau Cymru eich cefnogi ar eich taith ddysgu. Edrychwch ar sut y gallwch gael hyfforddiant WULF yn ystod coronafeirws neu siaradwch â chynrychiolydd addysg yr undeb lle rydych yn gweithio i gael rhagor o wybodaeth.