Yn ystod y digwyddiad ‘20 Mlynedd – 20 Stori’, arddangoswyd ugain mlynedd o Gronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF).
Mae WULF yn cefnogi mentrau dysgu mewn gweithleoedd lle mae’r staff yn aelodau o undeb ledled Cymru. Ers 1999, mae wedi cefnogi miloedd o weithwyr i gymryd rhan mewn 200 a mwy o brosiectau dysgu.
Roedd y dathliad yn cynnwys straeon gan gyn-ddysgwyr a dysgwyr presennol. Un ohonynt oedd Mark Church a benderfynodd yn ei 40au i ofyn am gymorth gyda’i broblemau darllen.
Dilynodd gwrs Sgiliau Hanfodol a ariannwyd gan WULF. Disgrifiodd Mark y profiad “fel cael fy rhyddhau o gell.” Soniodd am yr hyder newydd y mae'r cwrs wedi’i roi iddo ac am yr amrywiaeth o sgiliau newydd y mae’n eu defnyddio yn y swyddfa a gartref. Yn ychwanegol at weld ei yrfa yn mynd o nerth i nerth mae Mark wedi gallu helpu ei ferch gyda’i gwaith ysgol.
Yn y digwyddiad, siaradodd Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, a llongyfarch yr undebau llafur a Chynrychiolwyr Dysgu Undebau ledled Cymru. Diolchodd iddynt am ysbrydoli cydweithwyr i fanteisio ar yr hyfforddiant a’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt drwy WULF.
“Mae ein byd yn newid yn gyflym, a disgwylir i berson newid swyddi deuddeg gwaith ar gyfartaledd yn eu bywyd gwaith. Mae hynny’n adlewyrchu ein heconomi fodern. Mae prosiectau WULF yn allweddol i wella cyflogadwyedd a lefelau sgiliau hanfodol yn y gweithle.
Maent yn enghraifft o’r hyn gall partneriaeth go iawn rhwng undebau llafur, cyflogwyr, a’r llywodraeth ei chyflawni.”
Derbyniwyd neges wedi’i recordio gan Mark Drakeford AC, Prif Weinidog Cymru. Yn y neges, diolchodd i undebau llafur yng Nghymru am helpu gweithwyr i oresgyn rhwystrau dysgu.
“Gydag ychydig dros fil o Gynrychiolwyr Dysgu Undebau ledled Cymru, mae eich gwaith yn rhan allweddol o’n darpariaeth sgiliau.
Diolch am eich holl waith caled a’ch ymrwymiad dros yr ugain mlynedd ddiwethaf.
Heboch chi, ni fyddai’r Rhaglen hon yn llwyddiannus heddiw, a gyda’ch help chi bydd yn sicr yn parhau i fod yn llwyddiannus yn y dyfodol.“
Gwyliwch neges lawn y Prif Weinidog:
Siaradodd Ruth Brady, Llywydd TUC Cymru â'r Aelodau Cynulliad hefyd (mae hithau’n Gyn-gynrychiolwr Dysgu Undebau ac yn gyn-ddysgwr WULF).
“Ni fyddwn byth yn gallu mesur yn llawn yr effaith mae WULF wedi’i chael dros yr ugain mlynedd ddiwethaf. Rydyn ni’n gwybod bod llawer o bobl nawr yn fwy cymwys, yn fwy hyderus ac mewn swyddi sy’n talu’n well, diolch i’w hundebau a’r gefnogaeth a gawsant drwy WULF.
Mae’n enghraifft wych o bartneriaeth yr ydym ni yn y mudiad undebau llafur yn falch iawn ohoni.
Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth barhaus dros yr ugain mlynedd diwethaf, i’r undebau llafur am fuddsoddi’n fawr ynddi, i’r holl gynrychiolwyr undebau sy’n gwneud i’r holl beth weithio ac yn olaf, i’r dysgwyr eu hunain am wneud hyn yn llwyddiant parhaus.
Does dim rhaid i ddysgwyr fod yn aelodau o undeb i fanteisio ar WULF, cyhyd â bod eu cyflogwr yn cydnabod undebau llafur.
Dylai darpar ddysgwyr gysylltu â’u cynrychiolydd undeb, eu trefnydd rhanbarthol neu eu swyddog undeb.
Nodiadau i olygyddion
Tîm y wasg TUC Cymru - 029 2034 7010