Dyddiad cyhoeddi
Ers degawdau, mae gyrwyr bysiau ledled Cymru wedi wynebu amodau gwaith sy’n gwaethygu. Mae preifateiddio trafnidiaeth gyhoeddus yn golygu bod 86 o gwmnïau bysiau’n gweithredu ledled Cymru heddiw. Mae gan bob depo bysiau delerau ac amodau gwahanol ar gyfer gyrwyr bysiau.

Mae Mark Murphy yn yrrwr bws ac yn Ysgrifennydd Cangen GMB ar gyfer depo Stagecoach ym Merthyr Tudful yn Ne Cymru. Mae’n dweud bod gyrwyr wedi cael digon.

“Yr hyn rydyn ni wedi’i weld dros y blynyddoedd yw lleihau costau ac israddio telerau ac amodau. Mae ein gwyliau di-dâl wedi cynyddu, ac nid oes gennym gyfraddau goramser/oriau anghymdeithasol gwell mewn gwirionedd (ac eithrio ar ddydd Sul). Bob blwyddyn, mae’n rhaid i ni wneud consesiynau ar gynigion cyflog. Mae staff newydd yn wynebu contractau 2il a 3ydd cenhedlaeth. Rydyn ni’n colli gyrwyr yn rheolaidd, ac mae angen gwneud rhywbeth i ddenu staff newydd ac, yn bwysicach, i gadw’r gyrwyr profiadol presennol”.

Galw am well i yrwyr bysiau Cymru

Mae gyrwyr bysiau yng Nghymru yn ennill rhai o’r cyflogau isaf yn y sector ledled y DU. Yn Ne Cymru, gall gyrwyr ennill cyn lleied â £9.50 yr awr o’i gymharu â £12.50 yn ne orllewin Lloegr. Felly, yn 2021, dechreuodd GMB ac Unite yng Nghymru ymgyrch ar y cyd i wella amodau gyrwyr bysiau. Roedd yr undebau’n mynnu telerau ac amodau unffurf ar draws pob depo bysiau.

Yn ystod y pandemig Covid-19, cafodd gyrwyr bysiau eu galw’n weithwyr hanfodol. Ond ym mis Ebrill 2021, roedd gyrwyr Stagecoach wedi dysgu y byddai eu cyflog yn cael ei rewi am yr ail flwyddyn yn olynol. Digwyddodd hyn ar ôl i drafodaethau cyflog fethu rhwng GMB, Unite, a Stagecoach.

I frwydro’n ôl, anfonodd GMB ac Unite lythyr at Stagecoach yn mynnu cydfargeinio a chodiadau cyflog ar draws depos yn Ne Cymru. Ond gwrthododd cyfarwyddwr Stagecoach eu gofynion. Yn hytrach, mynnodd negodi telerau ac amodau yn unigol gyda phob depo.

Dywedodd Mark Murphy: “Cysylltodd y cwmni â’n depo ni a depo Cwmbrân ar wahân – gan dorri ein dull gorau o gydfargeinio. Fe wnaethom ddweud wrthynt fod depo Porth ychydig filltiroedd i lawr y ffordd, gyda’r un undeb, yn talu tua 60c yn fwy yr awr i yrwyr. Yn wreiddiol, roedden ni’n...dymuno cael cyflog cyfartal, ond dywedodd y cwmni nad oedden nhw’n gallu ei fforddio.”

Yn ystod haf 2021, cynhaliodd GMB ac Unite bleidlais i’w haelodau am streicio ar y cyd dros gyfraddau cyflog cyfartal ar draws y chwe depo yn y cymoedd.

Cynllunio tactegau streicio ar gyfer yr effaith fwyaf bosibl

Yn depo Stagecoach Merthyr Tudful, mae dwysedd undebau yn 99%. Pleidleisiodd y mwyafrif o yrwyr y depo hwn o blaid gweithredu diwydiannol. Mae Stagecoach yn cael ei gontractio gan y cyngor lleol i ddarparu cludiant i’r ysgol. Felly roedd aelodau’r GMB wedi cynllunio eu streic i gyd-fynd ag wythnos gyntaf tymor yr ysgol. Roedd hyn yn rhoi pwysau ar Stagecoach.

Dywedodd Gareth Morgans, trefnydd GMB De Cymru: “Fe wnaethon ni dargedu wythnos gyntaf mis Medi ar gyfer y diwrnod cyntaf o weithredu. Roedd hyn yn gweithio’n dda am fod y cwmni wedi cael ei wthio i gornel.”

Mae effeithiau Brexit ac amodau gwaith gwael ar draws y sector yn golygu bod amcangyfrif bod prinder o 4,000 o yrwyr bysiau yn y DU. Roedd yr undeb yn gwybod nad oedd llawer o bosibilrwydd i Stagecoach ddisodli’r gyrwyr a oedd yn streicio.

Undebau’n ennill ar gyfer gyrwyr bysiau ym Merthyr Tudful

Roedd y bygythiad o streicio yn golygu bod Stagecoach wedi cwrdd â galw’r gweithwyr am godiad cyflog o 10% cyn i’r streic hyd yn oed ddechrau. Ym mis Medi 2021, cynyddwyd cyflog gyrwyr depo Merthyr Tudful o £10 i £11 yr awr.

Stagecoach bus drivers in South Wales win £1 per hour pay rise

Y fuddugoliaeth ym Merthyr Tudful oedd y cyntaf o sawl llwyddiant i weithwyr ar draws depos Stagecoach yng Nghymru. Fis yn ddiweddarach, pleidleisiodd aelodau Unite o blaid streicio hefyd. Aeth aelodau Unite yn depos Cwmbrân, Bryn-mawr a Choed-duon ar streic barhaus, gan amharu ar 50 o lwybrau. O fewn mis, enillodd gyrwyr godiad cyflog o £1 yr awr.

Ar gyfartaledd, mae gweithwyr sy’n aelod o undeb yn cael mwy o dâl na gweithwyr nad ydynt yn aelod o undeb. Felly, os nad ydych chi’n aelod eto, ymunwch ag undeb heddiw

Undebau’n cydweithio â Llywodraeth Cymru

Yn ogystal â chymryd camau ar y cyd i gynyddu cyflogau, mae Unite a GMB yn parhau i gydweithio i gynrychioli gyrwyr bysiau ledled Cymru. Mae cynrychiolwyr GMB ac Unite yn cymryd rhan yn fforwm misol Trafnidiaeth Cymru gan Lywodraeth Cymru.

Maent yn defnyddio’r fforwm i bwyso am fewnbwn gan yr undeb a gyrwyr bysiau wrth wneud penderfyniadau’r llywodraeth ynghylch trafnidiaeth gyhoeddus. Dywedodd Mark Murphy “Mae’r fforwm yn ddefnyddiol i Drafnidiaeth Cymru ac i ni. Ond mae angen i’r undebau weithio’n uniongyrchol â Llywodraeth Cymru.”

“Nid yw fy aelodau eisiau preifateiddio. Byddai’n well gennym ni fel aelodau ac undebau wladoli’r diwydiant yn llawn... i wisgo gwisg Trafnidiaeth Cymru, gyrru bysiau sydd â logo TrC... Fodd bynnag, rydyn ni’n deall bod gan Lywodraeth Cymru gynlluniau ar gyfer masnachfreinio bysiau. Dyma lle mai’r bartneriaeth gyhoeddus/preifat yw’r dewis sy’n cael ei ffafrio. Nid hwn yw’r opsiwn delfrydol i’m haelodau, ond mae’n newid y fformat o redeg gwasanaethau bysiau i anghenion y cyhoedd yn hytrach nag er mwyn gwneud elw masnachol.”

Uchelgais ar gyfer dyfodol gyrwyr bysiau yn Ne Cymru

Mae Mark Murphy yn gweld y fuddugoliaeth o ran cyflogau ac ymgyrchu ar y cyd fel y cyntaf o lawer o newidiadau i’r sector bysiau.

“Mae angen i ni newid telerau ac amodau oherwydd ei fod yn swydd wych sy’n rhoi boddhad, yn enwedig os ydych chi’n hoffi gyrru a rhyngweithio â phobl. Ac mae angen i ni ddenu pawb...mae angen i ni ddod â mwy o fenywod i’r diwydiant. Dyna un peth y gallwn ni fel undeb wneud mwy ohono. Yn ein depo, dim ond 7% o yrwyr sy’n fenywod, sy’n ffigur isel. Ond gyda’n gilydd gallwn ei wneud yn yrfa i bawb.”