Hawliodd cyflogwyr yng Nghymru gwerth £692 miliwn o lafur am ddim y llynedd oherwydd bod gweithwyr wedi bod yn gweithio goramser heb dâl, yn ôl dadansoddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw (dydd Gwener) gan TUC Cymru.
Heddiw yw’r 18fed tro i Ddiwrnod Gweithio Eich Oriau Go Iawn blynyddol y TUC gael ei gynnal. Ar y diwrnod hwn, mae gweithwyr yn cael eu hannog i orffen eu shifftiau ar amser. A chaiff rheolwyr eu hannog i gefnogi staff drwy osod llwyth gwaith rhesymol a sefydlu polisïau yn y gweithle i ddiogelu rhag gorweithio.
Ar draws y DU, roedd 3.8 miliwn o bobl wedi gweithio goramser heb dâl yn 2021, sy’n 7.6 awr o waith di-dâl yr wythnos ar gyfartaledd. Ar gyfartaledd, mae hynny’n cyfateb i £7,100 y flwyddyn o gyflog nad yw’n cael ei dalu am waith a wneir.
Yng Nghymru, roedd 9.4% o weithwyr yn gweithio goramser heb dâl, gan weithio 7.1 awr yr wythnos dros eu horiau ar gyfartaledd. Mae hynny’n cyfateb i £5,801 y flwyddyn o gyflog nad yw’n cael ei dalu. (gweler Tabl 3 yn y nodiadau)
Roedd y tarfu ar batrymau gweithio yn ystod y pandemig yn golygu bod hon yn ail flwyddyn o batrymau gweithio anarferol, gyda llawer o weithwyr ar ffyrlo. Mae hyn wedi ei gwneud yn anoddach deall tueddiadau tymor hwy o ran goramser di-dâl. Ond mae’r ffigurau’n dangos nad yw addewidion i ‘ailgodi’n gryfach’ yn cael eu cyflawni o ran sicrhau bod gweithwyr yn cael eu talu am yr holl oriau maent yn eu gweithio.
Yn dilyn cwymp mewn oriau gwaith yn ystod blwyddyn gyntaf y pandemig, mae goramser heb dâl wedi dechrau tyfu eto yn 2021. Rhwng 2020 a 2021 bu cynnydd o 427,000 yn nifer y gweithwyr yn y DU sy’n gweithio goramser heb dâl, a chynyddodd cyfran y gweithwyr yn y DU sy’n gweithio goramser heb dâl o 12.1% i 13.5%. (gweler Tabl 1 yn y nodiadau)
Mae’r rhan fwyaf o’r deg grŵp galwedigaethol sy’n gwneud y mwyaf o oramser heb dâl yn swyddi sy’n debygol o fod yn bosibl eu gwneud gartref. Mae rheolwyr a chyfarwyddwyr yn amlwg iawn, sy’n awgrymu nad yw cyflogwyr yn rheoli cyfrifoldebau ychwanegol staff lefel uwch yn briodol. Ac mae athrawon yn uchel ar y rhestr. Mae’r her o gadw ysgolion yn agored i blant gweithwyr allweddol, tra’n darparu dysgu gartref hefyd, wedi cynyddu eu dwysedd gwaith. (gweler Tabl 2 yn y nodiadau)
Dywed TUC Cymru fod y cyfuniad o brinder llafur mewn rhannau o’r economi a’r argyfwng costau byw yn debygol o olygu bod llawer o bobl yn gweithio’n fwy dwys er bod eu cyflog go iawn yn lleihau.
Yn y sector cyhoeddus, mae problemau o orweithio a llwyth gwaith gormodol yn cael eu sbarduno gan argyfwng recriwtio a chadw staff sydd wedi cael ei waethygu gan ddegawd o gyfyngiadau cyflogau a osodwyd gan y llywodraeth.
Mae TUC Cymru yn galw ar lywodraeth y DU i wneud y canlynol:
Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:
“Mae’r rhan fwyaf ohonom yn fodlon gweithio ychydig o amser ychwanegol pan fydd ei angen, ond dylem gael yr amser hwnnw’n ôl pan fydd yn dawelach. Ni ddylai neb fod yn gwneud gwaith nad ydynt yn cael eu talu amdano.
“Felly rydyn ni’n galw heddiw ar bobl yng Nghymru i gymryd eich amser cinio llawn a mynd adref ar amser. Ac rydyn ni’n galw ar reolwyr i annog eu staff i orffen ar amser ac arwain drwy esiampl.
“Mae Cymru nawr yn wynebu prinder llafur ac argyfwng costau byw. Os na fydd llywodraeth y DU yn gweithredu i gefnogi gweithwyr, byddant yn gweithio oriau hirach am lai o gyflog yn y pen draw.
“Dylai’r Canghellor ddefnyddio ei ddatganiad yn y gwanwyn i nodi cynlluniau i fynd i’r afael â phrinder llafur mewn gwasanaethau cyhoeddus, ac i ariannu hyfforddiant lle mae prinder sgiliau. A dylai gyflwyno cynllun i sicrhau bod cyflogau’n codi ar draws yr economi.”
- Dadansoddiad o’r oriau di-dâl a weithiwyd yn 2021
Tabl 1 – cymhariaeth o’r prif ddata ar gyfer 2020 â’r blynyddoedd diwethaf
|
2021 |
2020 |
2019 |
2018 |
Nifer y gweithwyr sy’n gweithio goramser heb dâl |
3,792,450 |
3,365,668 |
5,127,469 |
5,013,434 |
% y gweithwyr sy’n gweithio goramser heb dâl |
13.5% |
12.1% |
18.5% |
18.2% |
Cyfanswm yr oriau wythnosol o oramser heb dâl |
28,810,577 |
26044365 |
39031340 |
37637328 |
Cyfanswm blynyddol y goramser (oriau) heb dâl |
1,498,150,018 |
1354306965 |
2029629667 |
1957141061 |
Oriau di-dâl wythnosol ar gyfartaledd y gweithwyr sy’n gweithio goramser heb dâl |
7.6 |
7.7 |
7.6 |
7.5 |
Cyfanswm gwerth blynyddol goramser heb ei dalu |
£26,921,755,824
|
£23,795,173,383 |
£35,011,111,756 |
£32,703,827,133 |
Colled flynyddol ar gyfartaledd i weithiwr sy’n gweithio goramser heb dâl |
£7,099 |
£7,070 |
£6,828 |
£6,523 |
Tabl 2 – y 10 prif alwedigaeth ar gyfer y mwyaf o oriau goramser heb dâl
Galwedigaeth |
Cyfartaledd oriau goramser di-dâl yr wythnos ar draws: |
Cyfran sy’n gweithio goramser heb dâl |
Cyfanswm yr oriau goramser heb dâl wythnosol yn ôl galwedigaeth |
|
Pob gweithiwr |
Gweithwyr sy’n gweithio goramser heb dâl |
|||
Cyfarwyddwyr ym maes Logisteg, Gwaith Warws a Thrafnidiaeth |
7.5 |
12.3 |
61% |
61585 |
Gweithwyr Cyfreithiol Proffesiynol |
3.7 |
10.8 |
34% |
810133
|
Prif Weithredwyr ac Uwch Swyddogion |
3.5 |
11.5 |
30% |
324838
|
Gweithwyr Proffesiynol ym maes Addysgu |
3.4 |
11.2 |
31% |
4358145
|
Rheolwyr a Chyfarwyddwyr Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol |
3.3 |
7.8 |
42% |
308914
|
Rheolwyr a Chyfarwyddwyr Swyddogaethol |
2.9 |
9.3 |
32% |
3291262
|
Rheolwyr ym maes Logisteg, Gwaith Warws a Thrafnidiaeth |
2.9 |
9.6 |
30% |
764405
|
Gweithwyr milfeddygol proffesiynol |
2.6 |
6.8 |
39% |
47538
|
Ymchwil a Datblygu a Phroffesiynau Eraill ym maes Ymchwil |
2.5 |
7.3 |
34% |
350330
|
Gweithwyr Addysg Proffesiynol Eraill |
2.4 |
9.5 |
25% |
497983
|
Tabl 3 – goramser heb dâl yn ôl rhanbarth yn y Deyrnas Unedig
Rhanbarth |
Cyfartaledd oriau goramser heb dâl yr wythnos, ar gyfer y rhai sy’n gweithio goramser heb dâl |
Cyfran y gweithwyr sy’n gweithio goramser heb dâl |
Cyfanswm y golled flynyddol |
Colled flynyddol ar gyfartaledd i'r rhai sy'n gweithio goramser heb dâl |
Gogledd-ddwyrain Lloegr |
8.2 |
9.7% |
£683,947,011 |
£6,754 |
Gogledd-orllewin Lloegr |
7.4 |
11.3% |
£2,172,350,466 |
£6,373 |
Swydd Efrog a Humberside |
7.7 |
12.5% |
£1,788,397,980 |
£6,440 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr |
8.2 |
12.3% |
£1,692,750,113 |
£6,748 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr |
7.5 |
11.8% |
£1,946,508,880 |
£6,644 |
Dwyrain Lloegr |
7.1 |
13.8% |
£2,375,809,739 |
£6,392 |
Llundain |
8.1 |
18.1% |
£7,322,540,835 |
£10,150 |
De-ddwyrain Lloegr |
7.4 |
15.9% |
£4,386,272,962 |
£7,084 |
De-orllewin Lloegr |
7.2 |
14.2% |
£2,047,590,099 |
£6,107 |
Cymru |
7.1 |
9.4% |
£691,739,526 |
£5,801 |
Yr Alban |
7.7 |
13.1% |
£2,174,271,381 |
£6,993 |
Gogledd Iwerddon |
7.6 |
6.8% |
£323,155,542 |
£6,328 |
- Rhyw: Mae menywod ychydig yn llai tebygol o weithio goramser heb dâl na dynion (13.4% o fenywod, a 13.5% o ddynion). Mae menywod sy’n gweithio goramser heb dâl yn gweithio 0.8 awr yr wythnos yn llai na dynion (7.2 awr i fenywod, ac 8.0 awr i ddynion).
- Gweithwyr BME: Mae gweithwyr BME ychydig yn llai tebygol o weithio goramser heb dâl na gweithwyr gwyn (10.2% o weithwyr BME, a 14.0% o weithwyr gwyn). Mae gweithwyr BME sy’n gweithio goramser heb dâl yn gweithio oriau tebyg i weithwyr gwyn (7.5 awr i weithwyr BME, ac 8.1 awr i weithwyr gwyn).
- Methodoleg ar gyfer y dadansoddiad: Mae’r dadansoddiad hwn gan TUC Cymru yn seiliedig ar ddata Arolwg Gweithlu Llafur y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Gorffennaf-Medi 2021. Mae’r TUC yn defnyddio chwarter Gorffennaf-Medi i gyfrifo cyfraddau goramser heb eu talu bob blwyddyn ar Ddiwrnod Gweithio Eich Oriau Go Iawn.
- Dewis dyddiad ar gyfer Diwrnod Gweithio Eich Oriau Go Iawn: Mae dyddiad y Diwrnod Gweithio Eich Oriau Go Iawn fel arfer yn seiliedig ar gyfrifiad. Rydyn ni’n nodi’r diwrnod yn y flwyddyn pan fydd y gweithiwr cyffredin sy’n gweithio goramser di-dâl yn rhoi’r gorau i weithio am ddim i bob pwrpas – ac mae’r Diwrnod yn disgyn ar y dydd Gwener agosaf.
Dros y blynyddoedd diwethaf cyn y pandemig, mae hwn bob amser wedi disgyn ar y dydd Gwener olaf ym mis Chwefror. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r cyfrifiad yn cael ei effeithio’n sylweddol gan bobl sy’n gweithio llai o oriau yn ystod y pandemig. Mae hynny’n newid y gymhareb rhwng goramser heb dâl ac oriau cyflogedig, gan arwain at ddyddiad diweddarach.
Fodd bynnag, penderfynasom beidio â symud y dyddiad i fis Mawrth, gan fod disgwyliad eang erbyn hyn y bydd y Diwrnod yn disgyn ddiwedd mis Chwefror. Byddwn yn adolygu penderfyniadau ar ddyddiadau yn y dyfodol gan gyfeirio at unrhyw batrwm cyson sy’n dod i’r amlwg ar ôl y pandemig.
Cysylltiadau:
TUC Cymru
Liam Perry
07917 193257