Dyddiad cyhoeddi
Mae Gemma Davies yn gweithio fel Rheolwr Mannau Talu yn Tesco. Rhai blynyddoedd yn ôl, cafodd gyfnod lle’r oedd ei hiechyd meddwl yn wael, ac roedd hi i ffwrdd o'r gwaith am chwe mis. Ar ôl iddi ddychwelyd i'r gwaith, newidiodd ei bywyd.

“Pan ddes i yn ôl i weithio, doeddwn i ddim yn teimlo bod yna unrhyw un ar gael i mi siarad â nhw. Roeddwn yn siarad â chynrychiolydd dysgu, ac yn sôn mai ychydig iawn o gefnogaeth iechyd meddwl oedd ar gael yn y siop. Nid yn y siop yma yn unig, ond yn Tesco ar y cyfan.”

Ar ôl cael trafodaethau â’i hundeb, USDAW, a gyda’i rheolwr personél, cafodd Gemma gynnig i fynd ar gwrs cymorth cyntaf iechyd meddwl.

Beth yw swyddog cymorth cyntaf iechyd meddwl?

Roedd y cwrs cymorth cyntaf iechyd meddwl yr aeth Gemma arno yn gwrs tri diwrnod achrededig. Roedd yn cynnwys llawer o agweddau ar iechyd meddwl, gan gynnwys:

  • Symptomau cyffredin iechyd meddwl gwael
  • Y gwahanol fathau o faterion iechyd meddwl y mae pobl yn eu profi gan gynnwys Sgitsoffrenia
  • Pa gymorth sydd ar gael i bobl â phroblemau iechyd meddwl

Dywedodd Gemma ei bod hi bellach yn swyddog cymorth cyntaf iechyd meddwl cymwysedig, ond nad ydy hynny’n golygu ei bod hi’n weithiwr meddygol proffesiynol.

“Dydyn ni ddim yn gallu bod yn feddygon teulu, ond rydyn ni’n gallu adnabod yr arwyddion a'r symptomau pan mae rhywun yn ei chael hi’n anodd.”

Rhannu ei gwybodaeth ynglŷn ag iechyd meddwl

Ar ôl iddi orffen y cwrs, rhannodd Gemma yr wybodaeth newydd roedd hi wedi’i chael gyda’i chydweithwyr a gyda’i rheolwyr.

“Doeddwn i heb feddwl y byddwn i’n cael ymateb mor emosiynol ganddyn nhw. Roedd rhai rheolwyr yn galed iawn, a ni fyddai neb wedi dyfalu eu bod nhw wedi cael profiad o faterion iechyd meddwl. Ond cymrodd llawer ohonynt y cyfle i rannu eu profiadau. Mae hyn wedi’u helpu nhw i gefnogi staff sy’n profi problemau iechyd meddwl.”

Mae Gemma yn teimlo mor frwdfrydig ynglŷn ag iechyd meddwl ei bod hi bellach yn ystyried newid gyrfa. “Dydw i heb feddwl erioed am fod yn weithiwr iechyd meddwl, ond oherwydd fy mhrofiad fy hun ac wrth helpu fy nghydweithwyr, mi fyddwn i’n hoffi rhoi rhywbeth yn ôl. Felly rwy’n credu y byddaf yn dilyn trywydd iechyd meddwl. Yn sicr. A dydw i ddim yn meddwl y byddwn i’n gwneud hynny oni bai bod cyllid WULF a’r undeb wedi galluogi i mi fynd ar gwrs cymorth cyntaf iechyd meddwl.”

Dod yn arweinydd ac yn Gynrychiolydd Dysgu Undebau

Yn ogystal â'r boddhad y mae Gemma yn ei gael drwy helpu ei chydweithwyr sy’n wynebu problemau iechyd meddwl, mae mynd ar y cwrs wedi cael effaith gadarnhaol arni hefyd. Ers cymhwyso fel swyddog cymorth cyntaf iechyd meddwl, mae hi hefyd wedi dod yn Gynrychiolydd Dysgu Undebau.

Bu hi gwrdd â menyw o elusen Chwarae Teg a soniodd wrthi am eu rhaglen Menywod mewn Arweinyddiaeth.

Dywedodd Gemma: “Meddyliais ‘Mae hyn yn wych! Rwy’n fenyw, rwyf mewn rôl arweinyddiaeth, rwyf eisiau datblygu yn y cwmni, ac rwy’n sicr bod yna unigolion eraill yn y siop a fyddai’n hoffi gwneud hyn hefyd.’ Mae yna lawer o fenywod yn y siop nad oedd yn gwybod i ble oedden nhw’n mynd. Roeddwn i’n meddwl efallai y byddai'r rhaglen Menywod mewn Arweinyddiaeth yn eu helpu nhw i ddod o hyd i’r hyn roedden nhw eisiau ei wneud. Mae gan lawer ohonyn nhw blant, ond nid yw hynny’n golygu nad yw hi'n bosib iddyn nhw gael gyrfa.”

Gyda chymorth Gemma a chyllid gan WULF, mae 14 o fenywod yn y siop wedi cwblhau’r cwrs arweinyddiaeth ac wedi graddio ym Mhrifysgol Caerdydd. Gall Gemma fod yn falch iawn o’r hyn mae hi wedi’i gyflawni. “Roedd un fenyw yn gweithio fel rheolwr stoc yn Tesco, ac mae hi bellach wedi gadael ac yn gweithio fel cynorthwyydd addysgu. Roedd menyw arall yn gweithio y swyddfa arian parod ac mae ganddi ei busnes gwerthu blodau ei hun erbyn hyn. Mae eraill wedi datblygu – roedden nhw’n arfer bod yn gynorthwywyr cyffredinol ac maen nhw bellach yn rheolwyr. Maen nhw wedi dysgu llawer amdanyn nhw eu hunain, ac wedi dod o hyd i’r hyn maen nhw eisiau ei wneud.”

Mae Gemma yn parhau i fwynhau helpu pobl eraill yn ei rôl fel Cynrychiolydd Dysgu Undebau: “Mae llawer o bobl yn dod ataf ac rwy’n ceisio eu cefnogi nhw cymaint ag y gallaf. Hyd yn oed os nad ydw i’n gwybod yr ateb, rwy’n ceisio dod o hyd i’r ateb neu’n eu rhoi nw ar y trywydd cywir. Nid yw hynny bob amser yn golygu eu cyfeirio at brosiectau WULF, ond os ydw i’n gallu eu helpu nhw i ddysgu mewn unrhyw ffordd, rwy’n gwneud fy ngorau i wneud hynny.”

Ymwneud ag iechyd meddwl yn eich gweithle

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn swyddog cymorth cyntaf iechyd meddwl fel Gemma, siaradwch â’ch Cynrychiolwr Dysgu Undebau.

Mae TUC Cymru yn cynnal arolwg ar hyn o bryd er mwyn darganfod mwy am iechyd meddwl yn y gweithle yng Nghymru. Bydd eich ymatebion yn ein helpu ni i greu adnoddau ynghylch sut gall gweithleoedd wella iechyd meddwl a llesiant pawb.

Os gwelwch yn dda, llenwch a rhannu’r arolwg iechyd meddwl sydd ar gael yn Saesneg ac yn Gymraeg .