Dyddiad cyhoeddi
• Dim ond 23% o'r rhai a holwyd a ddywedodd fod eu cyflogwr wedi ymgynghori â staff ar asesiad risg, yn unol â chyngor Llywodraeth Cymru
• Roedd llai na hanner y gweithwyr (46%) yn ymwybodol bod eu cyflogwr wedi cynnal asesiad risg Covid o gwbl
• Mae TUC Cymru yn galw ar bob cyflogwr yng Nghymru i gyflawni ei ddyletswydd gyfreithiol ar asesiadau risg Covid ac i ganllawiau Llywodraeth Cymru gael eu hadolygu a'u hatgyfnerthu mewn ymateb i straen newydd

Mae canfyddiadau brawychus yn dangos bod ychydig o dan chwarter y cyflogwyr yng Nghymru wedi cynnal asesiad risg o Covid mewn ymgynghoriad â staff, yn ôl ymchwil newydd gan TUC Cymru.

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn nodi'n glir bod yn rhaid i gyflogwyr “gynnal asesiad risg COVID-19 priodol, yn union fel y byddech chi’n ei wneud ar gyfer peryglon Iechyd a Diogelwch eraill. Dylid ymgynghori â’r undeb llafur cydnabyddedig wrth gynnal yr asesiad risg neu, os nad oes un yn bodoli, dylid ymgynghori â chynrychiolydd sydd wedi cael ei ddewis gan y gweithwyr.”

Mae'r canfyddiadau diweddaraf yn dangos bod llai nag un o bob pedwar pennaeth yn cydymffurfio â'r canllawiau'n llawn. Mae'n codi pryderon nad yw cyflogwyr yn gwneud digon i amddiffyn eu staff, a bod angen gwneud mwy i'w gorfodi i gydymffurfio â chanllawiau a rheoliadau.

Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru: "Mae'r canfyddiadau hyn yn frawychus ac yn peri pryder mawr. Mae'n ymddangos bellach nad yw'r rhan fwyaf o gyflogwyr yng Nghymru yn cydymffurfio â hyd yn oed y camau sylfaenol o reoli'r risg o Covid yn y gweithle, gyda'r rhai mewn swyddi â chyflog is yn llai tebygol o gael eu diogelu. Mae hyn yn ychwanegu at y pryderon parhaus sydd gennym i grwpiau penodol o weithwyr na allant wneud eu gwaith gartref, fel y rhai sy'n gweithio mewn canolfannau dosbarthu a phrosesu bwyd."

Mae'r corff undebau llafur hefyd yn galw am adolygu a chryfhau canllawiau Llywodraeth Cymru mewn ymateb i gyfraddau firysau uchel a'r straen newydd, mwy heintus.

Dywedodd Shavanah Taj: "Mae'r straen newydd yn golygu bod yn rhaid i ni ystyried ble mae angen i gamau gweithredu fynd ymhellach – mae hyn yn golygu rheolau clir am awyru yn y gweithle, lle dylid gwisgo gorchuddion wyneb, ansawdd y cyfarpar diogelu personol, a nifer y bobl y caniateir iddynt fod mewn lle penodol ac am ba hyd. Mae hefyd yn golygu bod angen neges llawer cryfach arnom i gyflogwyr bod dyletswydd arnynt i hwyluso gweithio gartref, gan na ddylai unrhyw un barhau i fynd allan i weithio os yw'n bosibl gweithio gartref."

"Ac yn hollbwysig, mae'n rhaid i gyflogwyr fabwysiadu'r cyngor newydd hwn. Rheoleiddio bydd y ffordd gyflymaf o sicrhau hyn a diogelu'r nifer fwyaf o weithwyr. Arweiniodd Llywodraeth Cymru'r ffordd ar amddiffyn gweithwyr gyda'r gyfraith dau fetr, ac yn awr mae angen iddynt wneud hynny eto drwy reoleiddio ar gyfer safonau gofynnol eraill i amddiffyn gweithwyr rhag Covid."

Mae TUC Cymru yn galw am i'r mesurau canlynol ddod yn orfodol mewn gweithleoedd i helpu i atal lledaeniad y coronafeirws:

  • trothwy diogelwch ar gyfer awyru gweithleoedd dan do gydag aer o’r tu allan
  • gorchuddion wyneb i fod yn orfodol ym mhob gweithle dan do, ac eithrio'r gweithwyr hynny sydd wedi'u heithrio
  • canllawiau wedi'u diweddaru ar orchuddion wyneb yn y gweithle i safon Sefydliad Iechyd y Byd o dair haen amddiffynnol
  • ehangu nifer y swyddi lle dylai gweithwyr ddefnyddio masgiau wyneb FFP3, sy’n eich gwarchod rhag 99 y cant o ronynnau
  • gostyngiad yn nifer y bobl a ganiateir mewn lle ar unrhyw un adeg, i gynorthwyo awyru a chadw pellter cymdeithasol
  • unrhyw weithgaredd gwaith y gellir ei gwblhau'n ddiogel y tu allan i'w gynnal y tu allan

Ydych chi'n poeni am iechyd a diogelwch yn eich gweithle? 

Os ydych yn aelod o undeb gall eich undeb helpu chi i siarad efo'r cyflogwr am eich pryderon yn y gweithle. Os nad ydych yn aelod, dewch o hyd i undeb ac ymunwch heddiw

Gallwch hefyd cysylltu â TUC Cymru ar wtuc@tuc.org.uk 

Nodyn y golygyddion

Comisiynodd TUC Cymru YouGov i gynnal arolwg ar ddiwedd 2020. Mae'r holl ffigurau, oni nodir yn wahanol, yn dod o YouGov Plc.  Cyfanswm maint y sampl oedd 1,030 o oedolion. Cynhaliwyd y gwaith maes rhwng 26 Tachwedd a 3 Rhagfyr 2020. Cynhaliwyd yr arolwg ar-lein. Mae'r ffigurau wedi'u pwysoli ac maent yn gynrychioliadol o'r holl oedolion yng Nghymru (16+ oed).

Mae'r ffigurau a ddyfynnir uchod mewn ymateb i gwestiwn na ofynnwyd iddo i'r rhai sy'n gweithio'n gyfan gwbl o gartref, neu nad ydynt yn gweithio, felly maint y sampl oedd 655 o oedolion.