Dyddiad cyhoeddi
Mae Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, Shavanah Taj, wedi gwneud y datganiad canlynol mewn ymateb i gyhoeddiad Prif Weinidog y DU ddydd Sul 10 Mai

“Bydd datganiad anghyfrifol Boris Johnson yn achosi llawer o ddryswch a phryder i weithwyr.

“Mae’n hollbwysig bod y cyhoedd yn deall nad yw mesurau Johnson yn berthnasol yng Nghymru. Llywodraeth Cymru sy’n rheoli’r ymateb i’r argyfwng yng Nghymru, ac rydym yn croesawu'r agwedd fwy gofalus sydd wedi cael ei hamlinellu gan Brif Weinidog Cymru.

“Bydd undebau’n gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru dros y dyddiau nesaf, i sicrhau bod gweithwyr yn y meysydd y mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud a allai ailagor o bosib – fel llyfrgelloedd a chanolfannau garddio – yn gallu ailddechrau gweithio mewn ffordd ddiogel.

“Mae undebau am gefnogi ffordd ddiogel o ddychwelyd i’r gwaith, er mwyn i ni allu dechrau ailadeiladu’r economi. Ond mae’n rhaid i weithwyr wybod na fyddant yn rhoi eu hunain, na’u teuluoedd, mewn perygl diangen.

“Dyna pam mae angen i ni gyflwyno rheolau llym newydd ar ddiogelwch yn y gweithle, a chanllawiau clir ar gyfer pob sector, sy’n egluro sut bydd gweithwyr yn cael eu gwarchod.

“Rydym yn gwybod bod gweithleoedd sy’n cydnabod undebau llafur yn weithleoedd mwy diogel, a byddem yn annog pawb i ymuno ag undeb os nad ydyn nhw’n aelod yn barod.

“Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau mai diogelwch gweithwyr yw'r brif flaenoriaeth o hyd. Dyna’r unig ffordd o ennyn hyder y cyhoedd yng nghynlluniau’r Llywodraeth, ac i aildanio’r economi.”