Dyddiad cyhoeddi
Mae cynrychiolydd amgylcheddol yr Undeb Prifysgolion a Cholegau (UCU) Paul Rock wedi chwarae rôl allweddol wrth wneud Prifysgol Caerdydd yn lle gwyrddach i weithio ac astudio.
Cynrychiolydd amgylcheddol yr Undeb Prifysgolion a Cholegau yn dangos y ffordd i ddyfodol gwyrddach ym Mhrifysgol Caerdydd

Drwy gydweithio â myfyrwyr, cynhaliodd yr UCU ymgyrch lwyddiannus y llynedd yn galw ar y brifysgol i ddatgan argyfwng hinsawdd.

Ochr yn ochr â’r datganiad argyfwng hinsawdd, mae’r brifysgol wedi ymrwymo i ddod yn carbon niwtral erbyn 2030. Y tu ôl i’r llenni, mae Paul wedi bod yn gweithio am nifer o flynyddoedd yn ei rôl fel cynrychiolydd amgylcheddol yr undeb llafur i geisio gwneud y brifysgol yn fwy cynaliadwy.

Arolwg yn dangos ymchwydd o gefnogaeth

Mae Paul, sy’n gweithio mewn TG o ddydd i ddydd, wastad wedi bod yn angerddol am faterion amgylcheddol. Ac roedd yn awyddus i gymryd y rôl fel cynrychiolydd amgylcheddol o fewn ei undeb pan ddaeth y swydd yn rhydd.

Dywedodd Paul: “Fy ngham cyntaf oedd cynnal arolwg, i ofyn i staff beth oedd yn bwysig iddyn nhw o ran materion gwyrdd a lle roedden nhw eisiau gweld yr undeb yn gwthio am newid. Roedd yn agored i aelodau’r undeb a’r rheini oedd ddim yn aelodau. Cafwyd nifer fawr o ymatebion, digon i wneud y canlyniadau'n bwerus. Cafwyd nifer o syniadau ac ymchwydd o gefnogaeth o blaid newid.

“Ar y pryd, doedd staff ddim yn teimlo bod y brifysgol yn edrych neu’n teimlo fel sefydliad gwyrdd iawn. Roedd yn gwneud pethau fel gosod pympiau gwres a phaneli solar ond nid oedd y rhain yn weladwy iawn. Doedd y rhan fwyaf o bobl ddim yn gwybod amdanyn nhw. Roedd yn amlwg bod angen i staff deimlo bod y sefydliad yn gwneud y peth iawn o safbwynt amgylcheddol - a bod eu newidiadau personol yn cyd-fynd â newidiadau sefydliadol o fewn y brifysgol.”

Cydnabod rôl y cynrychiolydd amgylcheddol

Gyda chefnogaeth staff o'r wybodaeth a gasglwyd o'r arolwg, roedd Paul yn llwyddiannus wrth sicrhau cynrychiolaeth undeb ar grŵp llywio amgylcheddol y brifysgol. Gofynnodd Paul am gyfarfod hefyd gyda rheolwr amgylcheddol y brifysgol a’r dirprwy is-ganghellor. Cytunwyd ar restr o bethau ymarferol i wella cynaliadwyedd y gallent weithio arnyn nhw gyda'i gilydd.

Cydnabu’r Brifysgol fod angen amser cyfleuster ar Paul i gyflawni ei rôl yn effeithiol. Mae hyn yn golygu ei fod yn cael ei ryddhau â thâl o'i swydd bob dydd am ran o'i amser gwaith i gyflawni ei ddyletswyddau undeb llafur fel cynrychiolydd amgylcheddol.

Bargeinio ar gyfer teithio gwyrddach

Un maes newid allweddol roedd staff eisiau ei weld oedd gweithredu i gefnogi teithiol cynaliadwy.

Eglurodd Paul: “Ar y pryd, roedd cynlluniau seiclo i’r gwaith yn dirwyn i ben, a doedd y brifysgol ddim yn dangos ei chefnogaeth i'r seilwaith teithio carbon isel. Fel undeb, gwnaethom drafod yn frwd i gael y brifysgol i gynnig benthyciadau tocyn tymor i staff ac i gael y cynllun seiclo i’r gwaith yn ôl.

“Mae’r cynllun seiclo i’r gwaith nôl erbyn hyn gyda thelerau llawer gwell i staff a siopau beics annibynnol. Mae’r brifysgol hefyd wedi darparu aelodaeth am ddim i’r cynllun hurio beics ar y stryd yn lleol i bob aelod o staff a myfyrwyr. Ac mae bellach yn cynnig benthyciadau tocyn tymor i staff ar fysiau a threnau.

“Mater arall i ni oedd y ffaith nad oedd y broses o neilltuo llefydd parcio yn dryloyw iawn. Yn aml, mae’n ymwneud â’ch lefel yn hytrach nag angen ac nid yw'n annog teithio cynaliadwy na theithio llesol. Mae rhai wedi galw am gau’r meysydd parcio, ond fel undeb, rydym yn dadlau bod angen proses bontio sy’n deg. Mae bywydau rhai pobl yn gyfan gwbl ddibynnol ar gar, ac mae rhai o’r rheini sy’n defnyddio’r llefydd parcio ymhlith y staff sy’n cael eu talu leiaf. Felly, byddai cael gwared ar y parcio yn annheg. Mae’n rhaid i ni ddod o hyd i ffordd o bontio sydd ddim yn effeithio ar y bobl hynny yn annheg ac yn sydyn”.

Mwy o lefydd gwyrdd

Dywedodd Paul mai thema arall y soniodd staff amdani yn yr arolwg oedd y ffordd roedd y brifysgol yn edrych ac yn teimlo.

More green spaces

“Dyw’r campws dal ddim yn teimlo mor wyrdd ag yr hoffem iddo fod. Ond erbyn hyn mae yna grŵp bioamrywiaeth poblogaidd sy'n edrych ar ddulliau plannu naturiol. Mae pobl eisiau gwneud y peth iawn. Os ydyn nhw’n gallu gweld bod gennym gyfleusterau ailgylchu ar wahân a’i bod yn amlwg ein bod yn gwneud mwy i gefnogi natur ar y campws, mae’n annog pobl i wneud mwy eu hunain.”

Buddsoddiad cynaliadwy

Mae’r undeb hefyd wedi bod yn gysylltiedig ag ymgyrchoedd i annog buddsoddiad mwy cyfrifol a gwyrddach drwy edrych ar ddulliau gwell o adrodd a rheoli risgiau newid hinsawdd gan gronfeydd buddsoddi a phensiwn. “O ganlyniad, mae’r brifysgol wedi ymwrthod â chwmnïau tanwydd ffosil,” dywedodd Paul.

Gweithiodd yr undeb yn agos â myfyrwyr ar hyn a’r ymgyrch i gael y brifysgol i ddatgan argyfwng hinsawdd. Mae hefyd yn cefnogi ymgyrch y Cynllun Blwydd-dâl Prifysgolion i ymwrthod â  thanwydd ffosil, tybaco a ffrwydron tir.

Effaith y datganiad argyfwng hinsawdd

Ers y datganiad ym mis Tachwedd 2019, dywedodd Paul fod lefel y gweithgareddau wedi cynyddu:

“Mae’r brifysgol wedi penodi Deon cynaliadwyedd amgylcheddol, ac mae wedi bod yn awyddus i sicrhau bod undebau yn chwarae rhan lawn gyda’r gwaith hwn. Hoffem weld cynaliadwyedd yn rhan o holl raglenni cyrsiau academaidd. A sefydlwyd grŵp gorchwyl a gorffen i ddod o hyd i syniadau o ran beth ddylem ei wneud i wireddu ymrwymiadau’r brifysgol yn sgil ein datganiad Argyfwng Hinsawdd. Rwy’n credu y dylai’r argyfwng Covid-19 helpu i egluro ein gwaith ar hynny.”

Dyfodol gwyrddach, tecach

Eglurodd Paul: “Mae dal materion sydd angen edrych arnyn nhw – fel nifer yr hediadau sy’n cael eu cymryd gan staff y brifysgol ac effaith uchelgeisiau rhyngwladol y brifysgol ar ei ôl troed carbon.

“Mae rôl yr undebau yn hollbwysig o ran y newidiadau sydd ar y gweill oherwydd mae angen i ni hefyd ystyried yr effaith ar bobl. Nid yw'n fater o fod yn bencampwr amgylcheddol yn unig. Mae angen i ni ddweud, arhoswch am eiliad, ydy hyn yn dda neu'n ddrwg i'r bobl sy'n gweithio yma a'r bobl yn y gadwyn gyflenwi?

“Mae angen i ni hefyd feddwl am gyfiawnder hinsawdd byd-eang. Mae’n bwysig gwneud cysylltiadau gydag ymgyrchoedd fel y Cyflog Byw Gwirioneddol a Masnach Deg, i sicrhau bod pobl yn cael eu trin yn deg drwy’r gadwyn gyflenwi gyfan.”

Allech chi fod yn gynrychiolydd amgylcheddol neu’n gynrychiolydd ‘gwyrdd’ yr undebau llafur?

Os yw stori Paul wedi’ch ysbrydoli chi, mae sawl ffordd y gallwch gymryd rhan mewn ymgyrchoedd amgylcheddol yr undebau llafur.

Mae’r amgylchedd yn flaenoriaeth ymgyrchu allweddol ar gyfer UCU. Mae cynrychiolwyr UCU mewn prifysgolion a cholegau AB ledled Cymru yn ymgyrchu am gamau brys i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

Mae nifer o undebau eraill a chynrychiolwyr gweithle yn gweithredu hefyd. Darllenwch sut mae undebau yn chwarae rôl yn y broses bontio deg

Neu darllenwch sut gallwch chi ddod yn gynrychiolydd amgylcheddol neu gynrychiolydd ‘gwyrdd’ eich hun – mae hyfforddiant a chefnogaeth ar gael.