Dyddiad cyhoeddi
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn dangos faint o talent sydd ym mhob rhan o Gymru. Ond, sut allwn sicrhau fod ddigon o bobl talentog efo’r sgiliau cywir i fanteisio ar swyddi newydd yn y sector creadigol yng Nghymru a thu hwnt?

Dyna gwestiwn mawr ar gyfer panel o weithwyr ifanc yn y sector fydd yn cwrdd yn yr Eisteddfod ar 4 Awst.

Mae’r digwyddiad yn yr Eisteddfod wedi’i drefnu ar y cyd rhwng yr undebau creadigol, Prifysgol De Cymru a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  Amcan y digwyddiad fydd annog pobl ifanc i ddilyn gyrfa yn y sector, gan bwysleisio fod lle i bawb yn y diwydiant.  Bydd pwyslais hefyd ar bwysigrwydd yr undebau creadigol wrth cefnogi gweithwyr.

Bydd Manon Eames, yr ysgrifenwr, actores a cyflwynydd yn cadeirio’r cyfarfod.  Wrth drafod y digwyddiad dywedodd:

"Mae gyrfa yn y diwydiannau creadigol yn gallu bod yn heriol, yn enwedig dyddiau yma, ond mae’n gallu bod yn gyffrous, yn amrywiol, yn foddhaus, yn ddiddorol ac yn llawn cyfleoedd - yn cynnwys gweithio gydag artistiaid talentog ac unigryw. Mae cefnogaeth ac arweiniad Undeb yn hanfodol o bwysig, yn enwedig i’r rhai sy'n newydd i’r diwydiant, yn sicrhau chwarae teg ac yn gwarchod eu hawliau bob amser."

Mae Owain Talfryn yn gweithio fel cynhyrchydd i gwmni teledu Cymreig ac fe ddywedodd:

“Mae’r diwydiannau creadigol yn faes sydd yn agored i bob math o bosibiliadau, ac mae’r cyfle i fod yn greadigol yn fy swydd yn rhywbeth oedd yn apelgar tu hwnt imi ar ddechrau fy ngyrfa. Byswn yn annog unrhywun sydd â diddordeb cychwyn yn y maes i fynd amdani gan fod y swydd yn un amrywiol, llawn hwyl ond hefyd yn rhoi’r cyfle i wthio ffiniau mewn tir newydd. Serch hynny, mae’r diwydiant yn gallu bod yn heriol ac mae cael Bectu tu cefn i mi yn gysur petai ei hangen.”

Dywedodd Gwenllian Beynon, sy’n uwch darlithydd yng ngholeg Celf Abertawe:

“Mae dilyn gyrfa greadigol weithiau yn medru bod yn heriol ond i fi mae gweithio yn greadigol yn hynod o bwysig mae yn bwysig i wneud fi’n berson cyflawn. Weithiau dwi’n clywed pobl yn dweud nad oes arian i’w wneud yn greadigol, wel dwi ddim yn meddwl bod hynny yn wir- mae llawr o fy ffrindiau yn gweithio’n greadigol ac mae’n yn llwyddo i wneud mwy na bywoliaeth dwi’n meddwl. Mae gwahanol fathau o yrfaoedd i’w dilyn ac astudio ar gwrs celfyddydol yw dechrau daith.”

Cynhelir y digwyddiad am 4pm ar stondin y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar ddydd Iau 4 Awst yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Nodyn y golygyddion

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Ceri Williams, TUC Cymru, cwilliams@tuc.org.uk