Dyddiad cyhoeddi
Mae TUC Cymru yn rhannu pryderon cyffredinol am yr amodau ar gyfer gweithwyr mudol yn Qatar. Pan enillodd Qatar yr hawl i gynnal Cwpan y Byd yn 2010, mynegodd y mudiad undebau llafur byd-eang, dan arweiniad ITUC, bryderon am y dewis.

Ers hynny, mae undebau wedi bod yn ymgyrchu dros newidiadau i’r gyfraith yn Qatar. Gwelwyd enillion sylweddol o ran gwelliannau i gyfreithiau hawliau llafur – a allai ddarparu hawliau diogelu ychwanegol pwysig i weithwyr.

Er hynny, mae TUC Cymru yn poeni am adroddiadau parhaus am gam-drin gweithwyr mudol.

Mae adroddiad newydd gan y TUC wedi canfod tystiolaeth nad yw’r cyfreithiau newydd yn cael eu gweithredu’n llawn. Mae’r adroddiad yn cynnwys tystiolaeth sy’n ymwneud â:

  • Dwyn cyflog a thâl tlodi
  • Ffioedd recriwtio anghyfreithlon
  • Cyfyngu ar y rhyddid i newid swyddi
  • Anawsterau o ran mynediad at gyfiawnder

Mae TUC Cymru yn cydnabod y camau a gymerwyd hyd yma i wella’r sefyllfa ac mae’n galw ar awdurdodau Qatar i gwblhau’r gwaith.  Rydyn ni eisiau gweld y gwelliannau canlynol:

  • Codi’r isafswm cyflog
  • Mwy o orfodi ar gyfreithiau llafur
  • Gwella’r system mynediad at gyfiawnder
  • Pwyllgorau cyd-weithwyr gorfodol ar gyfer pob cwmni a gweithio tuag at sefydlu’r hawl i weithwyr gael y rhyddid i ddewis ymuno â sefydliad o’u dewis

Rydym hefyd yn cefnogi:

Rydym yn croesawu'r ffaith i

  • Weinidogion Cymreig cyfarfod â'r TUC Rhyngwladol i dderbyn sesiwn friffio ar y materion hyn ochr yn ochr â Chymdeithas Bêl-droed Cymru
  • Weinidogion Cymreig codi mater hawliau llafur a hawliau dynol gydag awdurdodau Qatari

Rydym yn cefnogi parhau i drafod o'r fath ar y materion hyn.

Yn ogystal â hynny, hoffem sicrhau diogelwch a thriniaeth deg i bobl LHDTC+.  Mae bod yn hoyw yn anghyfreithlon yn Qatar, ac er i Lywodraeth Qatar gyhoeddi bod ‘croeso i bawb’, rydyn ni eisiau gweld sicrwydd bod croeso i bobl LHDTC+ yno, a’u bod yn cael bod yn nhw’u hunain yn Qatar.

Rydyn ni’n falch o dîm Cymru yn cystadlu yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf ers 64 o flynyddoedd ac rydyn ni’n sefyll gyda’r rheini sy’n ceisio sicrhau cyfiawnder cymdeithasol. Mae TUC am hyrwyddo Cymru flaengar agored sydd wedi ymrwymo i werthoedd cynhwysiant a chydraddoldeb.