Dyddiad cyhoeddi
Rydym yn falch i lansio ein canllaw rhyngweithiol newydd sbon ar Hanfodion Partneriaeth Gymdeithasol.

Mae’r canllaw digidol cryno hwn, sydd wedi’i anelu at swyddogion undebau llafur ac uwch gynrychiolwyr, yn cynnwys:

• Cyd-destun partneriaeth gymdeithasol
• Cynnwys Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)
• Y Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol
• Y Ddeddf a’ch undeb chi – sut mae gwneud y gorau o’r Ddeddf ar gyfer eich aelodau chi
 

Gwelwch y canllaw arlein ar Hanfodion Partneriaeth Gymdeithasol

Mae'r canllaw ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Gall swyddogion a chynrychiolwyr sy’n cwblhau’r canllaw ennill bathodyn digidol ar ‘Hanfodion Partneriaeth Gymdeithasol’.

Digwyddiad lansio arlein  

Ym mis Gorffennaf 2024 cynhaliwyd digwyddiad lansio ar-lein ar gyfer y canllaw newydd. Gallwch wylio'r digwyddiad eto (gan ddefnyddio’r cod 9urwV!PP i gael mynediad at y recordiad).

Byddwch yn clywed: 

  • Sarah Murphy AS, y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol ar y pryd, yn siarad am gefndir y Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol 
  • Sut mae undebau eisoes yn rhoi partneriaeth gymdeithasol ar waith yng Nghyngor Caerdydd gan y cynrychiolydd Emma Richards
  • Sut i ddefnyddio’r canllaw newydd 
  • Pa hyfforddiant sydd ar gael i gynrychiolwyr yn y gweithle ar bwnc Partneriaeth Gymdeithasol.

 

Cwrs Partneriaeth Gymdeithasol i gynrychiolwyr

Yn ogystal â’r canllaw rhyngweithiol, rydyn ni’n cynnig cyrsiau mwy manwl i gynrychiolwyr ar bartneriaeth gymdeithasol lle gallwch ddysgu ochr yn ochr â chynrychiolwyr eraill naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein.

Mae’r cwrs hwn yn adeiladu ar yr wybodaeth graidd sydd wedi’i chynnwys yn y canllaw rhyngweithiol ond mae’n rhoi cyfle i gynrychiolwyr archwilio partneriaeth gymdeithasol yn fanylach o lawer a gweithio gyda chynrychiolwyr eraill i archwilio’r heriau a’r cyfleoedd a ddaw yn sgil gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol.

Bydd cynrychiolwyr sy’n mynychu’r cwrs yn cael cyfle i ddatblygu cynllun gweithredu ymarferol ar gyfer eu gweithle eu hunain. 

Cynhelir y cwrs yng Nghasnewydd ym Medi 2024 ac wedyn ar-lein ym misoedd Tachwedd 2024, Ionawr 2025 a Mawrth 2025.


Darllenwch mwy am ein cwrs newydd i gynrychiolwyr ar bartneriaeth gymdeithasol