Mae TUC Cymru wedi trefnu rali ar 1 Chwefror i alw ar lywodraeth y DU i dynnu’r bil lefelau sylfaenol o wasanaeth yn ôl a’i “hymosodiad diweddaraf ar yr hawl i streicio”.
Cynhelir y rali am 11.30 ar 1 Chwefror y tu allan i Dŷ William Morgan yng Nghaerdydd. Mae’r adeilad yn gartref i Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru, sy’n hyrwyddo barn Cabinet y DU yng Nghymru.
Byddai’r bil lefelau sylfaenol o wasanaeth – sy’n cael ei alw’n “fil diswyddo gweithwyr allweddol” – yn golygu, pan fydd gweithwyr yn pleidleisio’n ddemocrataidd ac yn gyfreithlon i streicio ym meysydd iechyd, addysg, tân, trafnidiaeth, diogelwch ar y ffin a datgomisiynu niwclear, y gellir eu gorfodi i weithio a’u diswyddo os nad ydyn nhw’n cydymffurfio.
Mae TUC Cymru yn dweud bod y ddeddfwriaeth hon yn dangos bod llywodraeth y DU yn benderfynol o ymosod ar hawl sylfaenol gweithwyr i streicio.
Mae’r corff undebau’n dweud y byddai’r ddeddfwriaeth arfaethedig yn ei gwneud yn anoddach datrys anghydfodau – gan gyfeirio at asesiad effaith y llywodraeth ei hun, sy’n awgrymu bod lefelau sylfaenol o wasanaeth yn ymestyn anghydfodau ac yn arwain at streiciau amlach.
Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:
“Mae’r hawl i streicio yn rhyddid sylfaenol yng Nghymru, ac mae nifer o genedlaethau wedi brwydro’n galed i gael y rhyddid hwnnw – ond mae’n ymddangos bod llywodraeth y DU yn benderfynol o ymosod ar hynny.
“Byddai’r ddeddfwriaeth hon yn golygu, pan fydd gweithwyr yn pleidleisio’n ddemocrataidd i streicio, y gellir eu gorfodi i weithio a’u diswyddo os nad ydyn nhw’n cydymffurfio.
“Dydy hynny ddim yn ddemocrataidd, ddim yn ymarferol, a bron yn sicr ddim yn gyfreithlon.
“Mae gweinidogion y DU wedi mynd o glapio gweithwyr allweddol i ddiswyddo gweithwyr allweddol. Mae’n ymddangos bod ganddyn nhw fwy o ddiddordeb mewn llunio cyfyngiadau didostur newydd ar yr hawl i streicio na mynd i’r afael â phryderon go iawn gweithwyr y sector cyhoeddus.
“Gadewch i ni fod yn glir. Os caiff y bil hwn ei basio, bydd yn ymestyn anghydfodau ac yn gwenwyno cysylltiadau diwydiannol – gan arwain at streiciau amlach.
“Dyna pam mae’n rhaid i bob AS yng Nghymru wneud y peth iawn a gwrthod y ‘bil diswyddo gweithwyr allweddol’ sinigaidd yma.
“Mae’n hen bryd i lywodraeth y DU ddangos ei bod ar ochr y nyrsys, y diffoddwyr tân a’n holl weithwyr allweddol am weithio mor galed yn y pedair gwlad drwy gydol y pandemig – ddim gweithio yn eu herbyn.”
Manylion digwyddiad Rali'r Hawl i Streicio
Dyddiad: Dydd Mercher, 1 Chwefror 2023, - 11:30 tan 13:00
Lleoliad: Y tu allan i Dŷ William Morgan, Swyddfeydd Llywodraeth y DU, Stryd Wood, Caerdydd, CF10 1EP
Siaradwyr i'w cadarnhau