Mae pandemig y coronafeirws yn effeithio ar bobl LHDT+ mewn sawl ffordd. Mae homoffobia, deuffobia a thrawsffobia yn dal i fodoli yn y gweithle, yn y cartref ac yn ein cymunedau. Mae troseddau casineb tuag at bobl LHDT+ wedi cynyddu eto yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae pobl LHDT+ yn dal i wynebu gwahaniaethu a stigma.
LGBT+ workers in Wales and Covid-19

Yn ystod y pandemig hwn, mae’n bosibl bod gwasanaethau cynnal hanfodol wedi cael eu symud ar-lein, eu gohirio neu eu canslo, a gall yr effaith fod yn ddinistriol.  Rydym ni wedi paratoi canllaw ar rai o’r problemau sy'n wynebu pobl LHDT+ yng Nghymru, a’r camau y gall gweithleoedd eu cymryd i wneud gwaith yn well.

Problemau sy'n wynebu gweithwyr LHDT+ yng Nghymru

  • Dywed pobl drawsryweddol fod lefelau uchel o wahaniaethu a stigma mewn lleoliadau gofal iechyd. Mae llawer yn dweud wrthym eu bod wedi cael eu camryweddu’n rheolaidd mewn ysbytai, yn enwedig y rhai sy'n byw fel unigolion trawsryweddol amlwg a’r rhai lle nad yw eu henwau a’u rhywedd yn cael eu hadlewyrchu’n gywir ar bapurau meddygol. 
  • Mae toiledau (lle dylai pob un ohonom fod yn golchi ein dwylo’n drwyadl) yn fannau sy'n cael eu plismona’n helaeth i bobl drawsryweddol.  Gall golchi dwylo mewn mannau gwaith neu fannau cyhoeddus roi pobl drawsryweddol mewn perygl o aflonyddu a thrais. 
  • Gall pobl drawsryweddol brofi trawsffobia gan staff a chleifion eraill pan fyddant yn aros yn yr ysbyty. 
  • Mae cyfraddau HIV a chanser yn uwch ymysg pobl LHDT+, gan gynnwys pobl drawsryweddol ac amrywiol o ran rhywedd, a gall eu system imiwnedd fod o dan fygythiad. 
  • Gall arferion cyffredin ymysg dynion Trawsryweddol fel rhwymo bronnau waethygu cyflyrau anadlol. Ond efallai nad yw hyn yn adnabyddus yn y gymuned neu’r tu hwnt. 
  • Mae effaith Covid-19 ar wasanaethau iechyd meddwl i bobl LHDT+ yn achosi pryder. Mae llawer o’r gwasanaethau hyn yn cael eu rhedeg yn wirfoddol gan elusennau bach a grwpiau cymunedol sy'n ei chael yn anodd goroesi hyd yn oed pan nad oes pandemig iechyd byd-eang.  Mae llawer o apwyntiadau iechyd meddwl ac apwyntiadau wyneb yn wyneb rheolaidd wedi cael eu canslo.  
  • Gall pobl LHDT+ brofi cam-drin domestig gan bartner, yn ogystal â chan bobl maen nhw’n byw gyda nhw.  Gall byw mewn cwarantin gydag aelodau homoffobig o’r teulu neu rannu fflat gyda phobl homoffobig gynyddu’r risg o droseddau casineb a cham-drin domestig.

Eich hawliau fel gweithiwr LHDT+

Mae Adran 44 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 yn rhoi hawl i weithwyr adael gweithle sy'n anniogel a gwrthod dychwelyd.

Mae sawl enghraifft o ganghennau undebau yn cerdded allan gan ddyfynnu’r ddeddf hon.

Os ydych chi’n teimlo bod eich gweithle’n anniogel oherwydd Covid-19, dylech gysylltu â thîm cyfreithiol eich undeb am gyngor ar frys.   

Darllen mwy am eich hawliau os ydych chi’n gwrthod gweithio oherwydd pryderon diogelwch yn gysylltiedig â’r coronafeirws.

Equality Act 2010

Deddf Cydraddoldeb 2010 yw’r darn o ddeddfwriaeth allweddol sy’n ymdrin â gwahaniaethu yn y gweithle. Mae’n gwarchod gweithwyr rhag gwahaniaethu ar sail oedran, rhywedd, anabledd, hil, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, neu ailbennu rhywedd.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio cyfeiriadedd rhywiol fel cyfeiriadedd rhywiol rhywun tuag at—  

(a) pobl o’r un rhyw, 

(b) pobl o’r rhyw arall, neu  

(c) pobl o'r naill ryw neu’r llall. 

Mae’n diffinio ailbennu rhywedd fel—

bwriadu cyflawni, wrthi’n cyflawni neu wedi cyflawni proses (neu ran o broses) i ailbennu ei rywedd drwy newid nodweddion ffisiolegol neu nodweddion eraill ei ryw.

Mae gan gynrychiolwyr undebau ran bwysig i'w chwarae:

  • hybu hawliau cyfartal i bob aelod. Gall cynrychiolwyr ddod i gytundeb gyda chyflogwyr ynghylch polisïau a gweithdrefnau sy'n hyrwyddo cydraddoldeb a ddim yn arwain at roi un grŵp dan anfantais 
  • creu awyrgylch cefnogol yn y gwaith ac yn yr undeb lle mae pob aelod yn teimlo’i fod yn gallu cymryd rhan ac y gwerthfawrogir eu safbwyntiau 
  • herio achosion o aflonyddu a gwahaniaethu a gwneud yn siŵr yr ymdrinnir yn effeithiol â chwynion 
  • ymddwyn fel model rôl o ran trin pawb yn deg.

I gael mwy o wybodaeth am sut gall y Ddeddf Cydraddoldeb warchod gweithwyr, ewch i wefan EHRC.

Beth ddylai eich cyflogwr ei wneud

  • Mae dyletswydd gyfreithiol ar eich cyflogwr i amddiffyn eich iechyd a diogelwch yn y gwaith.  Cyn gweithio, dylech gael asesiad risg sy'n tynnu sylw at risgiau penodol Covid-19.  Dylai’r asesiad hwn gynnwys cwestiynau ynghylch pwy rydych chi’n byw gyda nhw, ac a ydych chi neu aelodau o’ch aelwyd yn fregus, sut rydych chi’n bwriadu mynd i'r gweithle os nad ydych yn gallu gweithio gartref.  Pa addasiadau y gall fod eu hangen arnoch i wneud eich swydd.
  • Os ydy eich cyflogwr wedi gwneud popeth y gall ei wneud i gael gwared ar bob risg arall, a bod angen o hyd i chi weithio, yna mae dyletswydd ar eich cyflogwr i ddarparu’r cyfarpar diogelu personol priodol i chi allu gwneud eich gwaith.  Nid yn unig mae hyn yn wir mewn gweithleoedd meddygol ond ym mhob gweithle arall gan gynnwys cartrefi gofal, siopau, warysau a cherbydau cludo.  I gael mwy o wybodaeth am gyfarpar diogelu personol a’r gweithle ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
  • Os ydych chi wedi dechrau gweithio o'ch cartref, mae’n rhaid i’ch cyflogwr eich diogelu o hyd.  Mae hyn yn golygu gwneud yn siŵr bod gennych chi amgylchedd diogel i weithio ynddo, a bod gennych chi’r cyfarpar priodol i’ch galluogi i wneud eich gwaith.  Dylai eich cyflogwr eich cynorthwyo wrth i chi addasu i weithio o’ch cartref, a pharhau i gynnig cymorth i’ch galluogi i wneud eich gwaith, hyd yn oed os yw gweithio gartref yn golygu eich bod yn gwneud hynny mewn ffordd wahanol.
  • Os oes gennych chi gyfrifoldebau gofal plant neu gyfrifoldebau gofalu eraill, os ydych chi angen addasiadau oherwydd eich anabledd neu gyflwr iechyd tymor hir neu os oes gennych chi unrhyw anghenion eraill, dylech drafod y rhain gyda’ch cyflogwr ac fe ddylai eu hystyried a gwneud addasiadau rhesymol.
LGBT+ workers in Wales and Covid-19

Os ydych chi’n feichiog ac yn gweithio, yna mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar eich cyflogwr i asesu risgiau’r gweithle i weithwyr beichiog a’u plant heb eu geni, a mamau sy'n bwydo ar y fron sydd wedi dychwelyd i weithio.  Mae'r TUC wedi cyhoeddi’r blog hwn ar gyfer gweithwyr beichiog, ac mae’n rhoi mwy o wybodaeth.

  • P’un a ydych chi’n weithiwr allweddol sy’n gweithio yn y gweithle yn ystod yr argyfwng hwn, neu’n gweithio gartref, mae’r pandemig hwn yn gyfnod anodd i lawer.  Mae iechyd meddwl a’ch llesiant yn hynod bwysig, ac fe ddylai eich cyflogwr eich cynorthwyo yn ystod yr argyfwng hwn.  Mae TUC Cymru wedi bod yn gweithio gydag arbenigwyr i baratoi sesiynau dysgu bach i rannu offer a thechnegau i’ch helpu i ofalu amdanoch chi eich hun yn ystod y cyfnod hwn.  Os hoffech chi gael gweld y rhain cliciwch yma
  • Os ydych chi’n wynebu newid yn eich sefyllfa o ran cartref, gall eich cyflogwr eich helpu a chynnig addasiadau yn ystod y cyfnod hwn. 
  • Mae gan sefydliadau cefnogi LHDT+ yng Nghymru ragor o wybodaeth a all fod yn ddefnyddiol - cliciwch yma am fwy o wybodaeth gan Stonewall Cymru

Beth rydym ni’n gofyn i’r Llywodraeth ei wneud i warchod gweithwyr LHDT+

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gwneud y canlynol:

  • Darparu cyllid priodol ar gyfer gwasanaethau LHDT+ sy’n cefnogi pobl sy'n profi cam-drin domestig a thrais.
  • Blaenoriaethu gwaith i fynd i’r afael â homoffobia, deuffobia a thrawsffobia o ystyried y lefelau presennol o elyniaeth mae pobl LHDT+ yn ei wynebu.
  • Gwneud yn siŵr bod gweithwyr LHDT+ sydd wedi cael eu pellhau oddi wrth strwythurau cymunedol cefnogol, ac sy'n wynebu’r cyfnod cyfyngiadau symud gydag aelodau gelyniaethus a gwahaniaethol o’r teulu, yn cael cymorth priodol drwy'r gwasanaethau tai ac iechyd meddwl.
  • Darparu rhagor o fanylion ar y cynlluniau am gymorth iechyd meddwl ar ôl Covid-19, yn enwedig mewn perthynas â chwnsela, therapi gwybyddol ymddygiadol ac apwyntiadau pobl drawsryweddol i drawsnewid yn cael eu canslo. 

Rydym yn argymell bod Llywodraeth y DU yn gwneud y canlynol:

  1. Os nad ydy gweithwyr yn gallu gweithio oherwydd risgiau iechyd a diogelwch, mae’r gyfraith yn nodi y dylid eu hatal o’r gwaith ar gyflog llawn. Dylai Llywodraeth y DU ymestyn y cynllun cadw swyddi fel bod cyflogwyr yn gallu hawlio 80% o gyflogau’r gweithwyr hyn. Fodd bynnag, mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith bod cyflogwyr yn parhau i dalu cyflog llawn i’r gweithiwr dan sylw.  Rydym am weld bod y mesurau hyn yn berthnasol i bob gweithiwr, gan gynnwys y rhai sy’n gweithio’n rhan-amser, y rhai sy’n gwneud gwaith asiantaeth neu waith ansicr a’r rhai sy’n gymwys fel gweithwyr hunangyflogedig.
  2. Cymryd camau gweithredol i godi ymwybyddiaeth o amddiffyniadau cyfreithiol presennol i weithwyr a rhoi sicrwydd i weithwyr LHDT+ y byddant yn cael eu gwarchod rhag cael eu gwahaniaethu

Rhaid i’r camau hyn fod yn rhan o strategaeth ehangach i ddiogelu iechyd a diogelwch pobl yn y gweithle, gan gynnwys canllawiau cryfach gan y llywodraeth (wedi’u hategu gan reoliadau) ynghylch y mesurau diogelwch y mae’n rhaid i bob cyflogwr eu hystyried nawr a phwerau newydd (drwy rwydwaith tridarn, sy'n cynnwys cyflogwyr, undebau a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch) i’r llywodraeth gymell cyflogwyr nad ydynt yn dilyn y camau hyn i gau.

Dysgu mwy yng nghanllaw’r TUC ar y coronafeirws 
 
Darllen ein hymateb i ymchwiliad ar y Coronafeirws a’r effaith ar bobl â nodweddion gwarchodedi

Rhowch wybod am eich profiad

Ydych chi’n poeni nad ydych chi’n gallu aros yn ddiogel rhag y coronafeirws yn eich gweithle?  Dywedwch wrthym am eich profiadau drwy ddefnyddio ein ffurflen datgelu.

Byddwn yn rhannu’r wybodaeth am eich pryderon iechyd a diogelwch yn ddienw â Llywodraeth Cymru a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Os byddwch yn rhoi caniatâd i rannu eich manylion, byddwn hefyd yn adrodd y mater i’ch undeb llafur ar eich rhan.

Llenwch ein ffurflen pryderon am iechyd a diogelwch 

Ymuno ag undeb

Mae undebau’n helpu pobl i ddod ynghyd, yn atal pobl rhag cael eu trin yn annheg ac yn cael gwell bargen gan eu cyflogwyr.

Maen nhw yno yn ystod cyfnodau anodd – yn rhoi cyngor cyfreithiol am ddim os oes angen. Gall aelodau o undeb fanteisio ar lawer o gynigion a gostyngiadau hefyd. A phob blwyddyn, bydd undebau’n helpu dros 200,000 o bobl i gael gafael ar y cyfleoedd dysgu a hyfforddi sydd eu hangen arnyn nhw i symud ymlaen yn eu gyrfa.

Onid ydy hi’n amser i chi ymuno ag undeb?

Dod o hyd i undeb nawr.