Two women workers taking water samples from a beach to assess environmental damage
i
SolStock (iStock)
Rhwydwaith Cynrychiolwyr Iechyd a Diogelwch
Manylion y digwyddiad
Dyddiad
Tue, 24 Nov 2026 - 10:00 to 12:00
Cost
Free
Trosolwg

 

Ymunwch â ni yn y rhwydwaith hwn sy’n dod â chynrychiolwyr iechyd a diogelwch, ac unrhyw undebwyr eraill gyda diddordeb mewn materion iechyd a diogelwch yn y gweithle ac amgylcheddol, at ei gilydd.

Mae’r rhwydwaith yn gyfle i glywed gan arbenigwyr, dysgu oddi wrth ein gilydd ac ennill gwybodaeth werthfawr i gyfoethogi eich rôl fel cynrychiolydd diogelwch.

Cynhelir cyfarfod nesaf y rhwydwaith ar-lein ar ddydd Mawrth 24 Tachwedd rhwng 10am a 12pm lle y byddwn yn trafod:  

Diweddariadau pwysig ar ddiogelwch adeiladau, cerbydau EV a diogelwch tân

'Cemegion am byth’ – sut allwn ni gael cyfiawnder i weithwyr ddaeth i gysylltiad â’r rhain yn y gorffennol, a diogelu gweithwyr a chymunedau heddiw?

Tanau gwyllt – sut allwn ni weithio gyda’n gilydd i ddiogelu gweithwyr a chymunedau rhag risg tân gwyllt yn y dyfodol, fel y rhai a welsom dros yr haf?

Bydd y siaradwyr yn cynnwys Dan Ashby, un o’r newyddiadurwyr ymchwilio y tu ôl i raglen ddogfen ‘Buried’ y BBC yn ddiweddar a’r gyfres podlediad R4 o’r un enw, Gareth Tovey, Aelod o Gyngor Gweithredol Cymru Undeb y Brigadau Tân, a Janet Newsham o’r Ymgyrch Hazards. Bydd gennym hefyd ddiweddariad ar ymgyrchoedd iechyd a diogelwch a gwaith polisi TUC Cymru, a bydd cyfle i rannu beth sy’n digwydd yn eich gweithle chi.

Cofiwch, mae’r digwyddiad hwn ar gyfer cynrychiolwyr undebol etholedig / penodedig (cynrychiolwyr iechyd a diogelwch, undebol, addysg undebol, gwyrdd a rolau cynrychiolwyr eraill). Mae hefyd ar agor i aelodau undebol presennol gyda diddordeb mewn dysgu mwy am fod yn gynrychiolydd iechyd a diogelwch undebol.

Llenwch y manylion isod i gofrestru a derbyn dolen ar gyfer ymuno.
 

Hygyrchedd

We want everyone attending TUC events to have a safe and enjoyable experience. If you require any adjustments or assistance to participate at this event, please let us know.