Digwyddiad Mis Hanes Pobl Ddu 2026
Noddwr: Shavanah Taj AS Aelod Etholaeth yn y Senedd, Caerdydd Ffynnon Taf
Siaradwyr:
Bydd y digwyddiad yn dathlu cyfraniad a llwyddiannau pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol ym mudiad yr Undebau Llafur a TUC Cymru.
Ymunwch â ni i glywed aelodau o’r Senedd ac ymgyrchwyr undebau llafur yn trafod eu profiadau a’u datblygiad nhw wrth weithredu yn y gwaith ac yn y gymuned.
Fel undebwyr llafur, rydym yn rhannu gwerthoedd gwrth-hiliaeth, tegwch a chyfiawnder cymdeithasol. Mae’n bwysig i ni ein bod yn ymgyrchu ac yn trefnu i wneud ein gweithleoedd a’n mannau cymunedol yn decach i bob un ohonom.
Yn ystod ein dathliadau Mis Hanes Pobl Ddu, byddwn yn edrych ar waith balch a phwerus yr undebau llafur yn herio hiliaeth a gwahaniaethu yn y gweithle, ac yn bwrw golwg ar eu cyfraniad pwysig at newid agweddau cymdeithas at gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Bydd y digwyddiad hwn yn tynnu sylw at gyfraniad hanesyddol yr undebau llafur, a’u cyfraniad nhw heddiw, wrth hyrwyddo cyfiawnder hiliol, cydraddoldeb ac undod ar draws pob sector.
Darperir cinio.
Mae’r cyfarfod hwn yn agored i bob cynrychiolydd, ymgyrchydd, swyddog ac aelod yng Nghymru
Pierhead Building
Maritime Road
Cardiff Bay
CF10 4PZ
Y Deyrnas Unedig
We want everyone attending TUC events to have a safe and enjoyable experience. If you require any adjustments or assistance to participate at this event, please let us know.