A hedgehog sits on top of a mossy log
i
kwasny221 (iStock)
TUC Cymru Y Rhwydwaith Gweithleoedd Gwyrddach
This event has ended
Manylion y digwyddiad
Dyddiad
Thu, 20 Apr 2023 - 10:00 to 11:45
Cost
Free
Trosolwg

Sut allwn ni helpu natur a gwneud gweithleoedd yn wyrddach ac iachach?

Lleoliad: Hybrid – ymunwch ar-lein drwy Teams neu wyneb yn wyneb yn swyddfa TUC Cymru yng Nghaerdydd

Cofrestrwch yn awr 

Mae hi’n argyfwng ar natur. Rydym yn wynebu ‘oes o ddifodiad’, gydag anifeiliaid a phlanhigion yn cael eu colli ar raddfa na welwyd ei thebyg o’r blaen. Yng Nghymru, mae cymaint ag un rhywogaeth mewn chwech mewn perygl. Ond er bod y sefyllfa’n un ddifrifol, mae llawer o bethau syml y gallwn eu gwneud i roi hwb positif i natur ac i greu gweithleoedd gwyrddach ac iachach.

Ymunwch â ni yn y rhwydwaith cyfeillgar hwn sy’n agored i holl swyddogion, cynrychiolwyr a gweithredwyr undebau llafur sydd â diddordeb mewn mynd i’r afael ag argyfyngau hinsawdd a natur. Dysgwch pa gamau mae undebau’n eu cymryd a sut y gallwch chi gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth. Byddwn yn edrych ar rai o’r ymgyrchoedd byd-eang a chenedlaethol sy’n galw am newidiadau ehangach i helpu natur, yn ogystal â chamau ymarferol y gallwch chi eu cymryd i wneud eich gweithle’n fwy caredig at fywyd gwyll ac yn well i iechyd pobl hefyd.

Bydd pynciau a gaiff sylw fel rhan o’r sesiwn yn cynnwys:

  • Dysgwch sut y gallwch fod yn rhan o ymgyrch newydd ‘natur bositif’ Climate Cymru
  • Dysgwch sut i wneud eich gweithle’n ‘Gyfeillgar i Wenyn’ gyda Chyfeillion y Ddaear Cymru
  • Gweithredu i fynd i’r afael â phethau sy’n berygl i’r amgylchedd ac i iechyd yn y gweithle ac sy’n niweidio i bobl a natur – fel glaswellt artiffisial, glyffosad a sylweddau gwenwynig eraill – adnoddau newydd gan yr Ymgyrch Peryglon
  • Rhannwch eich enghreifftiau a’ch syniadau eich hun ar gyfer camau positif yn y gweithle i helpu bywyd gwyllt a natur

Mi fyddwn hefyd yn edrych ymlaen ac yn cynllunio ar gyfer Diwrnod Aer Glân a’r Wythnos Werdd Fawr a fydd yn digwydd ym mis Mehefin, ac yn rhannu syniadau ar gyfer digwyddiadau yn y gweithle. Bydd cyfleoedd i ymuno â grwpiau trafod ac i rwydweithio â chynrychiolwyr eraill. Cofrestrwch yma.