Mae TUC Cymru yn cynnal y digwyddiad hwn i dynnu sylw at bwysigrwydd Cynrychiolwyr Dysgu Undebau yn ystod yr adferiad economaidd a sut y gall TUC Cymru gefnogi a chynorthwyo Undebau, Cynrychiolwyr a Chyflogwyr i wneud y gorau o botensial Cynrychiolwyr Dysgu a’u sgiliau.
Bydd cyflwyniadau byr gan y tîm a siaradwyr gwadd o Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid perthnasol, yn ogystal â chyfle i gyfrannu a rhannu arferion gorau.
Mae’r digwyddiad hwn ar agor i Gynrychiolwyr Dysgu Undebau, rheolwyr prosiectau WULF, Swyddogion Canghennau ac unrhyw un sy’n trefnu dysgu ar hyn o bryd neu sydd â diddordeb mewn cymryd rhan mewn Dysgu Undebau.
Ymholiadau i: wulr@tuc.org.uk
Mae’r TUC yn ymrwymedig i drefnu gweithgareddau lle y gall pawb gyfrannu ynddyn nhw mewn amgylchedd cynhwysol, parchus a diogel. Nid oes gan y TUC unrhyw oddefgarwch tuag at unrhyw fath o aflonyddu, gan gynnwys aflonyddu rhywiol. Ni fydd unrhyw ymddygiadau neu sylwadau ymosodol, sarhaus, bygythiol, amharchus neu annerbyniol yn cael eu goddef. Mae hyn yn cefnogi’r ymrwymiad a osodwyd yn rheolau’r TUC i hyrwyddo cydraddoldeb i bawb a chael gwared â phob ffurf o aflonyddu, gan gynnwys aflonyddu rhywiol, rhagfarn a gwahaniaethu annheg. Mae’r polisi hwn yn berthnasol i bob agwedd o gyfathrebu mewn digwyddiad neu mewn cysylltiad â digwyddiad, gan gynnwys postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol. Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynglŷn ag ymddygiad yr ydych chi’n dymuno eu trafod, cysylltwch â ni drwy e-bost os gwelwch yn dda: wtuc@tuc.org.uk