Negodi am Drawsnewid Cyfiawn - cwrs ar gyfer swyddogion proffesiynol undebau
This event has ended
Manylion y digwyddiad
Dyddiad
Mon, 02 Oct 2023 - 09:15 to
Fri, 20 Oct 2023 - 16:45
Cost
Am ddim
Trosolwg

Tiwtor: Graham Petersen

Hyd – 3 diwrnod o ddysgu – 1 diwrnod yr wythnos dros gyfnod o 3 wythnos olynol

Dyddiadau:  Dydd Llun 2, Dydd Gwener 13 a Dydd Gwener 20 Hydref 2023

Amser: 9.15 – 4.45

Lleoliad: Ar-lein

Cost: Am ddim

Cysylltu: jrees@tuc.org.uk 

Beth fydd y cwrs yn edrych arno?

Bydd y cwrs amserol a phwysig hwn yn eich helpu chi i ymateb yn strategol i’r her o roi llais i weithwyr ar drawsnewid i economi wyrddach. Bydd yn eich helpu chi i ddatblygu strategaethau negodi ar gynllunio sero net yn y gweithle a bydd yn edrych ar ddulliau yng nghyswllt cytundebau a thrafodaethau am ‘gytundeb newydd gwyrdd’ neu ‘drawsnewid cyfiawn’.

Bydd y cwrs hefyd yn datblygu dealltwriaeth o effaith ehangach y trawsnewid hinsawdd ar faterion fel sgiliau yn y gweithle, swyddi, cydraddoldeb ac iechyd a diogelwch.

Byddwn ni’n edrych ar y canlynol:

  1. Archwilio pam mae trawsnewid cyfiawn yn ganolog i strategaeth economaidd y dyfodol
  2. Adolygu polisïau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol ar newid hinsawdd
  3. Adolygu polisïau undebau llafur cenedlaethol a rhyngwladol
  4. Nodi polisïau economi werdd sector diwydiant
  5. Cael barn yr aelodau am flaenoriaethau trawsnewid cyfiawn
  6. Datblygu strategaethau negodi ar faterion blaenoriaeth yn y gweithle / gymuned

Ar gyfer pwy mae’r cwrs?

Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer swyddogion cangen, cynrychiolwyr undebau ac unrhyw gynrychiolwyr eraill sydd â diddordeb mewn cael gwybod mwy am negodi ar gyfer trawsnewid cyfiawn yn y gweithle.

Sut mae gwneud cais:

Gwnewch cais am le ar y cwrs

Ffôn: 029 2034 7010

Cyfeiriad e-bost: jrees@tuc.org.uk

Lleoliad: ar-lein

Oriau: 9.15am tan 4.45pm

Amser o'r gwaith i fynychu hyfforddiant:

Ceir canllawiau ar ryddhad gyda thâl ar dudalennau 6 - 7 o gyfeiriadur cyrsiau addysg TUC Cymru.

Mae canllawiau ACAS yn nodi ei bod yn arfer da i gyflogwyr gynnig amser o’r gwaith gyda thâl i gynrychiolwyr arbenigol fel cynrychiolwyr gwyrdd neu amgylcheddol fynychu hyfforddiant a chyflawni eu dyletswyddau.

Siaradwch â'ch undeb eich hun i gael cyngor am gael amser o'r gwaith ac am arweiniad ar unrhyw gytundebau/gweithdrefnau perthnasol y cytunwyd arnynt rhwng eich cyflogwr a'ch undeb.

Gwybodaeth am diwtoriaid y cwrs

Mae Graham Petersen yn diwtor addysg undeb llafur profiadol. Mae’n aelod o Undeb y Prifysgolion a’r Colegau, ac yn arfer bod yn Gydlynydd yr Amgylchedd yr undeb. Mae hefyd wedi cynrychioli Education International, ffederasiwn undebau byd-eang dros 30 miliwn o weithwyr yn y sector addysg, yn nigwyddiadau cynhadledd hinsawdd y Cenhedloedd Unedig.

Mae Graham yn aelod allweddol o’r Gynghrair Swyddi Gwyrdd sy’n gynghrair o gyrff anllywodraethol, undebau llafur a sefydliadau myfyrwyr, ac mae wedi ymgymryd â rôl ysgrifennydd a golygydd cylchlythyr y sefydliad. Mae’r Gynghrair Swyddi Gwyrdd wedi gweithio ar amrywiaeth o gynlluniau i hyrwyddo addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a swyddi.  

Mae Graham wedi ysgrifennu nifer o gyhoeddiadau’r TUC ar faterion amgylcheddol, ac yn ddiweddar roedd yn un o awduron Gweithleoedd gwyrddach ar gyfer trawsnewid cyfiawn - Pecyn cymorth gyda TUC Cymru. Rydym yn falch iawn bod Graham wedi gallu datblygu’r cwrs ‘Negodi ar gyfer Trawsnewid Cyfiawn’ newydd hwn ar gyfer Gwasanaeth Addysg TUC Cymru. Credwn y bydd yn rhan hanfodol o’n hyfforddiant ar yr hyn a fydd yn fater allweddol i’n mudiad dros y blynyddoedd nesaf.

Cod ymddygiad

Mae’r TUC wedi ymrwymo i drefnu gweithgareddau y gall pawb gymryd rhan ynddyn nhw mewn amgylchedd cynhwysol, parchus a diogel. Dydy'r TUC ddim yn goddef unrhyw fath o aflonyddu, gan gynnwys aflonyddu rhywiol. Ni fydd ymddygiad neu sylwadau ymosodol, bygythiol, amharchus neu annerbyniol yn cael eu goddef. Mae hyn yn cynnal yr ymrwymiad a nodir yn rheolau’r TUC i hyrwyddo cydraddoldeb i bawb ac i gael gwared ar bob math o aflonyddu, gan gynnwys aflonyddu rhywiol, rhagfarn a gwahaniaethu annheg. Mae’r polisi hwn yn berthnasol i bob agwedd ar gyfathrebu mewn digwyddiad neu mewn cysylltiad ag ef, gan gynnwys postiadau ar gyfryngau cymdeithasol.  Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynglŷn ag ymddygiad rydych chi eisiau ei godi yna cysylltwch â ni ar e-bost: wtuc@tuc.org.uk

 

Hygyrchedd

Hygyrchedd

Os oes gennych unrhyw anghenion hygyrchedd eraill mae angen i ni wybod amdanynt, cysylltwch â jrees@tuc.org.uk