Pa heriau sy'n wynebu gweithwyr hŷn yn y gweithle? Sut mae oedran yn effeithio ar yrfa, rhagolygon ac urddas rhywun yn y gwaith? Beth allwn ni ei wneud i ddileu rhagfarn oed a galluogi gweithwyr hŷn i gyflawni eu potensial?
Mae'r siaradwyr yn cynnwys Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru; Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru; a gweithwyr a chanddynt brofiad byw o'r problemau sy'n wynebu pobl hŷn.
Bydd capsiynau byw ar gael.
Mae’r TUC yn ymrwymedig i drefnu gweithgareddau lle y gall pawb gyfrannu ynddyn nhw mewn amgylchedd cynhwysol, parchus a diogel. Nid oes gan y TUC unrhyw oddefgarwch tuag at unrhyw fath o aflonyddu, gan gynnwys aflonyddu rhywiol. Ni fydd unrhyw ymddygiadau neu sylwadau ymosodol, sarhaus, bygythiol, amharchus neu annerbyniol yn cael eu goddef. Mae hyn yn cefnogi’r ymrwymiad a osodwyd yn rheolau’r TUC i hyrwyddo cydraddoldeb i bawb a chael gwared â phob ffurf o aflonyddu, gan gynnwys aflonyddu rhywiol, rhagfarn a gwahaniaethu annheg. Mae’r polisi hwn yn berthnasol i bob agwedd o gyfathrebu mewn digwyddiad neu mewn cysylltiad â digwyddiad, gan gynnwys postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol. Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynglŷn ag ymddygiad yr ydych chi’n dymuno eu trafod, cysylltwch â ni drwy e-bost os gwelwch yn dda: wtuc@tuc.org.uk