Cynrychiolwyr dysgu undebau rhan 1- 4 diwrnod
This event has ended
Manylion y digwyddiad
Dyddiad
Wed, 07 Oct 2020 - 09:15 to
Wed, 28 Oct 2020 - 16:45
Trosolwg

Os ydych yn Gynrychiolydd Dysgu Undebau newydd, mae’r cwrs hwn yn hanfodol. Bydd yn eich cyflenwi â’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i fod yn Gynrychiolydd Dysgu Undebau effeithiol. Mae llawer mwy i rôl Cynrychiolydd Dysgu Undebau na dim ond trefnu cyrsiau yn eich gweithle. Mae’n golygu gweithio yn eich cangen, gyda’ch cyflogwyr, darparwyr a chyllidwr i ehangu mynediad i ddysgu a sicrhau cyfle cyfartal yn eich gweithle.

Bydd y cwrs yn dysgu’r canlynol i chi:
➔ Rôl undebau llafur mewn cysylltiad â dysgu a sgiliau
➔ Rôl Cynrychiolydd Dysgu Undebau
➔ Dulliau undebau llafur o ran dysgu yn y gweithle a modelau arferion gorau perthnasol
➔ Polisïau a rhaglenni allweddol sy’n berthnasol i’r system sgiliau oedolion yng Nghymru
➔ Sut mae hyrwyddo dysgu yn eich gweithle
➔ Sut mae nodi anghenion dysgu
➔ Sut mae gweithio gyda’ch cangen a’ch cyflogwr i gael gwared ar y rhwystrau i ddysgu a datblygu
yn y gwaith

Cysylltwch â John James, Canolfan Astudiaethau Undebau Llafur, Coleg Gwent,
Ffôn: 07527 450276
E-bost: John.James@coleggwent.ac.uk 
Lleoliad: ar-lein