Cynhadledd Cynrychiolwyr Dysgu Undebau TUC Cymru 2022
This event has ended
Manylion y digwyddiad
Dyddiad
Thu, 24 Nov 2022 - 11:30 to
Fri, 25 Nov 2022 - 13:30
Cost
Free
Trosolwg

Mae’n bleser gennym wahodd pob Cynrychiolydd Dysgu Undeb i gofrestru ar gyfer Cynhadledd Cynrychiolwyr Dysgu Undebau 2022. Bydd y gynhadledd hon yn dechrau am 11.30 ar 24ain ac yn gorffen am 13.30 ar 25ain Tachwedd. Mae’r opsiynau ar gyfer cofrestru yn cynnwys Cinio gyda’r nos ar y 24ain a llety dros nos os oes angen.  

Dyma gynhadledd i Gynrychiolwyr Dysgu Undebau ddod i fwynhau agenda lawn o siaradwyr, cyflwyniadau a gweithdai wedi’u teilwra o amgylch y gwaith maen nhw’n ei wneud ac yn ei gynllunio ar gyfer eu gweithgareddau’r flwyddyn nesaf. 

Dim ond hyn a hyn o lefydd sydd ar gael, felly cofrestrwch nawr i wneud yn siŵr nad ydych chi’n colli’r cyfle. 

Agenda

Diwrnod un - 24 Tachwedd 2022

11.30 - Cyrraedd a chael bwffe i groesawu

12.00 - Cynhadledd Agored – Cadeirydd (Llywydd TUC Cymru, Brendan Kelly)

12.15 - Anerchiad y Siaradwr – Vaughan Gething AS

12.30 - 1.30 – Ehangu cyfranogiad, themâu a gwerthoedd, pwy sy’n elwa?

Cyflwyniad a gweithdy grŵp cyfan (Prifysgol Caerdydd – Uned Ehangu Cyfranogiad)

1.30  - 1.45 - Egwyl

1.45 – 2.45 Sgiliau gwyrdd, Trawsnewid Cyfiawn a'r Cynrychiolwyr Dysgu'r Undebau – Yr hyn y mae angen i Gynrychiolwyr Dysgu'r Undebau ei wybod

Cyflwyniad a gweithdy grŵp cyfan

2.45 - Gweithdai Grŵp x 3:

  • Cyfathrebu â gweithlu amrywiol
  • Mapio’r gweithle – Cynnal Arolwg Anghenion Dysgu
  • Gamblo Problemus

4.00 - Adborth o’r Gweithdai a Sesiwn Holi ac Ateb i’r panel

4.30 - Holi ni am unrhyw beth

5.00 - Cloi

7.30 - Swper


Agenda

Diwrnod dau - 25 Tachwedd 2022

9.30 - Croeso

9.40 - Anerchiad Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, Shavanah Taj

10.00 - Adolygiad Sgiliau Canol Oes – Gyrfa Cymru

Cyflwyniad a Gweithdy

10.45 - Rôl Cynrychiolydd Dysgu’r Undebau, Ailymweld

Cyflwyniad a gweithdy grŵp cyfan ar y prif swyddogaethau a chynllunio’r camau nesaf

11.45 - Break

12.00 - Cymorth TUC Cymru, fforymau a chyfathrebiadau Cynrychiolwyr Dysgu'r Undebau:

  • Adnoddau TUC Cymru
  • Sesiynau briffio/fforymau/digwyddiadau
  • Strategaethau cyfathrebu Cynrychiolwyr Dysgu'r Undebau
  • Gohebiaeth TUC Cymru gyda Chynrychiolwyr Dysgu'r Undebau

12.30 - Recriwtio ac ymgysylltu ag Ymgyrchwyr Ifanc

Cyflwyniad a gweithdy grŵp cyfan i gynnwys:

  • Adroddiad ar y Patrolau Stryd
  • Pwysigrwydd Ymgysylltu ag aelodau ifanc
  • Defnyddio Dysgu a threfnu fel cyfrwng recriwtio

1.00 - Ymarfer gwerthuso

1.30 - Cloi’r Gynhadledd