Ymunwch â ni yn ein cyfarfod rhwydwaith ar-lein rheolaidd lle rydym yn datblygu ar y cyd ein cymorth a'n hadnoddau gydag aelodau'r Rhwydwaith i gynorthwyo prif swyddogaethau Cynrychiolydd Dysgu Undebau.
Bydd y gwaith hwn yn arwain at greu ‘Ffolder Ddigidol’ gyfredol o adnoddau y gellir eu lawrlwytho sy’n cynnwys pwyntiau gweithredu clir a thempledi i gynorthwyo Cynrychiolwyr Dysgu Undebau yn eu gweithgareddau megis Mapio’r Gweithlu, Cytundebau Dysgu, Arolygon Recriwtio a Dysgu erbyn diwedd 2023.
Bydd yr holl adnoddau a deunyddiau yn cael eu datblygu a byddant ar gael ar ôl iddynt gael eu cytuno o fewn y Rhwydwaith. Mae'r rhwydwaith hwn yn darparu llwyfan ar gyfer rhannu profiad ac arferion gorau Cynrychiolwyr Dysgu Undebau gyda'r nod o adeiladu arferion gorau o ran annog a hwyluso dysgu dan arweiniad undebau a dysgu gydol oes ar draws y gweithleoedd yng Nghymru.
Anogir pob Cynrychiolydd Dysgu Undebau i fod yn rhan o'r Rhwydwaith a chyfrannu at fudiad llwyddiannus gyda'r nod o wella cydraddoldeb a mynediad i bawb i Ddysgu a Sgiliau yn y gweithle a'r gymuned.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ahalpin@tuc.org.uk
We want everyone attending TUC events to have a safe and enjoyable experience. If you require any adjustments or assistance to participate at this event, please let us know.