Mae’r gyfraith ailgylchu newydd i fod i ddod i rym ar 6 Ebrill 2024 ac mae’n berthnasol i bob gweithle yng Nghymru.
Mae'n golygu y bydd angen i bob gweithle fel busnesau, y sector cyhoeddus ac elusennau wahanu eu deunyddiau ailgylchadwy yn yr un ffordd ag y mae'r rhan fwyaf o gartrefi eisoes yn ei wneud.
Mae hefyd yn berthnasol i bob casglwr a phrosesydd gwastraff ac ailgylchu sy'n rheoli gwastraff tebyg i gartrefi o weithleoedd.
Ymunwch â ni yn y digwyddiad hwn, lle byddwn yn edrych ar y materion sy’n ymwneud â’r effaith y gallai’r gyfraith hon ei chael ar y gweithle, yn trafod sut i baratoi, beth mae hyn yn ei olygu i weithwyr a pham ei fod yn fater pwysig i undebau llafur.
I gadw lle, cofrestrwch gan ddefnyddio'r botwm Cofrestru Nawr. Bydd yn cymryd ychydig funudau i'w gwblhau. Sylwch fod y rhwydwaith gweithleoedd gwyrddach hwn yn agored i bob swyddog undeb llafur, cynrychiolydd ac actifydd.
Ar gyfer pob ymholiad am y cyfarfod hwn, cysylltwch â ahalpin@tuc.org.uk
Rydym am i bawb sy’n mynychu digwyddiadau’r TUC gael profiad diogel a phleserus. Os oes angen unrhyw addasiadau neu gymorth arnoch i gymryd rhan yn y digwyddiad hwn, rhowch wybod i ni.