Cydraddoldeb: Gwaith teg, hawliau’r Gymraeg yn y gweithle a’n cymunedau Cymraeg
This event has ended
Manylion y digwyddiad
Dyddiad
Thu, 10 Aug 2023 - 15:30 to 16:15
Cost
Am ddim (i ymwelwyr gyda tocynnau Eisteddfod)
Trosolwg

Mae TUC Cymru wedi trefnu trafodaeth yn yr Eisteddfod (Cymdeithasau 2) ar y pwnc ‘Cydraddoldeb: Gwaith teg, hawliau’r Gymraeg yn y gweithle a’n cymunedau Cymraeg’.

Bydd y drafodaeth yn canolbwyntio ar sut y gall undebau a chyflogwyr yng Nghymru gydweithio gydag eraill ar lefel strategol ac ymarferol i hyrwyddo hawliau’r Gymraeg yn y gweithle.

Mae Llywodraeth Cymru, TUC Cymru a chyflogwyr eisoes yn gweithio mewn ‘partneriaeth gymdeithasol’ i anelu tuag at greu Cymru ‘mwy cyfartal, teg a chyfiawn’, gyda gwaith teg yn rhan annatod ohoni (Llywodraeth Cymru). Mae’r iaith Gymraeg yn rhan sylfaenol o waith teg a chydraddoldeb yn y gweithle.

Mae ‘gwaith teg’ yn hyrwyddo amodau teg gweladwy a chynhwysol yn y gweithle ac yn rhoi parch i hawliau gweithwyr. Yn rhan o’r agenda cydraddoldeb mae hawliau’r Gymraeg yn y gweithle ynghlwm wrth egwyddorion cyfartalwch a chyfiawnder, ac mae’r rhyddid i gyfathrebu yn Gymraeg gydag unigolyn arall sy’n dymuno hynny yn hawl sifil sy’n perthyn i bawb – unigolion a gweithwyr - a dylid gallu gwneud hynny heb ymyrraeth na dioddef anfantais. Rhoddodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 y rhyddid i bawb ddefnyddio’r Gymraeg a statws swyddogol i’r Gymraeg yng Nghymru.

Ond, mae cymunedau iach yn ddibynnol ar gael gwaith cynaliadwy, cyflogau teg ac amodau byw rhesymol, sy'n cynnwys tai a bwyd, a dyma'r unig ffordd i'r Gymraeg ffynnu yn y tymor hir fel iaith naturiol. 

Beth fyddwn yn trafod?

Bydd aelodau’r panel yn trafod cydraddoldeb yng nghyd-destun gwaith teg, hawliau’r Gymraeg yn y gweithle a’n cymunedau Cymraeg ac yn mynegi barn ar:

  • Y sefyllfa bresennol
  • Pa agweddau sy’n creu pryder neu ddylid canolbwyntio arnynt i gryfhau a datblygu’r sefyllfa bresennol?
  • Pa agweddau sy’n bodloni ac sy'n gadarnhad o gynnydd cadarnhaol?
  • Beth ddylai’r prif flaenoriaethau fod o fewn y byd undebol, gweithleoedd, mudiadau neu sefydliadau i symud yr agenda Cymraeg yn y gweithle yn ei flaen

Mae croeso i aelodau’r gynulleidfa ymuno a chyfrannu i’r sgwrs hon.

I bwy mae'r digwyddiad?

Mae croeso i bawb sy'n ymweld â'r Eisteddfod i’n sgwrs fyw a chyffrous – gan gynnwys y rheiny sy’n ymgyrchu dros hawliau teg a chydraddoldeb i’r Gymraeg yn y gweithle ac effeithiau ar ein cymunedau Cymraeg, yn ogystal â’r rheiny sydd ganddynt ddiddordeb ehangach mewn gwaith teg, hawliau’r Gymraeg yn y gweithle a chymunedau Cymraeg.

Bydd cyfieithu ar y pryd i’w gael.

Siaradwyr 

Sian Gale Siân Gale. Mae Siân yn Llywydd Etholedig TUC Cymru, yn Gadeirydd Pwyllgor Cydraddoldeb TUC Cymru ac yn Rheolydd Sgiliau a Datblygiad i Prospect (sector Bectu).

Dechreuodd Sian ei gyrfa mewn darlledu a daeth yn Gynrychiolydd Undeb yn ei dauddegau. Bu’n Gadeirydd Cangen Llawrydd De Cymru Bectu am nifer o flynyddoedd. Ers 2008, mae wedi bod yn gweithio gyda’r undebau creadigol yn rheoli cynllun dysgu dwyieithog ar draws Cymru, ‘CULT Cymru’ (Undebau Creadigol yn Dysgu gyda’i gilydd) a ariennir yn bennaf gan Gronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF). Mae Siân hefyd yn Gyfarwyddwr Bwrdd Anweithreol gyda Cymru Greadigol. Bu’n aelod hirymaros o Gyngor Cyffredinol TUC Cymru lle y mae’n parhau i hyrwyddo achos gweithwyr llawrydd ac annodweddiadol Mae Siân yn angerddol dros gydraddoldeb, amrywiaeth, tegwch, yr iaith Gymraeg, sgiliau a gwaith teg.
Efa

Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg.

Drwy gydol ei gyrfa mae Efa wedi gwneud swyddi sydd wedi cyfuno ei diddordeb yn y celfyddydau ac yn y Gymraeg. Gweithiodd i Fwrdd yr Iaith Gymraeg a Chyngor Celfyddydau Cymru cyn cael ei phenodi yn Brif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru, mudiad ieuenctid mwyaf Cymru, yn 2004. Yn 2016, fe’i penodwyd yn Brif Weithredwr ar y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Cychwynnodd Efa fel Comisiynydd y Gymraeg yn 2023 a dywed Efa ei bod eisiau sicrhau bod y pwerau sydd gan y Comisiynydd yn cael eu defnyddio i’w llawn botensial, bod defnydd cynyddol yn cael ei wneud o’r iaith, a bod y Comisiynydd yn chwarae rhan allweddol yn yr ymdrechion i sicrhau dyfodol llewyrchus i’r Gymraeg.

Robat

Robat Idris Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith

Mae Robat yn Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith a chafodd ei ethol yng Nghyfarfod Cyffredinol y mudiad yn 2022. Dros y blynyddoedd mae wedi bod, ac yn parhau yn weithgar gyda nifer o fudiadau ac ymgyrchoedd cymunedol a chenedlaethol, gan gynnwys Pobl Atal Wylfa B, Cymdeithas y Cymod, Undod a SAIL. Mae Robat yn angerddol dros greu cymdeithas sy'n rhoi cyfleoedd i bawb gael bywydau sy'n rhydd o annhegwch, trais, tlodi, rhyfel a distryw amgylcheddol, ac yn yr amseroedd hyn, mae mwy o angen nag erioed i geisio gwireddu'r dyheadau hyn.

Ioan

Ioan Rhys Jones, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC

Mae Ioan yn Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC (Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru) ers 2022 - yr unig undeb llafur sydd yn gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg. Bu’n Swyddog Maes y Gogledd i’r Undeb am bedair mlynedd cyn hynny, a daeth i’r swydd honno wedi cyfnod o sawl blwyddyn yn addysgu Hanes a Gwleidyddiaeth yn Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam. Mae’n angerddol dros addysg Gymraeg, sicrhau amodau gwaith teg i athrawon a’r hawl i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg lle bo hynny’n bosibl.

Dyfrig

Dr Dyfrig Jones Llywydd Cangen Undeb Colegau a Phrifysgolion (UCU) Cymru ym Mhrifysgol Bangor, Aelod o Bwyllgor Gwaith UCU Prydain ac Uwch Ddarlithydd Ffilm, Prifysgol Bangor. .

Mae gan Dyfrig ddiddordeb arbennig yn y modd y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio llunio ffyrdd newydd o gydweithio rhwng yr undebau a’r cyflogwyr, ac yn awyddus i weld y model o bartneriaeth gymdeithasol yn cael ei ymestyn i faes addysg uwch.

Hygyrchedd

Bydd cyfieithu ar y pryd i’w gael.