Mae ein hawl i streicio dan fygythiad.
Mae angen stopio deddfwriaeth gwrth-undebol Rishi Sunak.
Mae’r gyfraith newydd yn golygu pan fydd gweithwyr yn pleidleisio’n ddemocrataidd i streicio y gellid eu gorfodi i weithio, a’u diswyddo os nad ydynt. Mae hynny’n annheg, yn anymarferol, ac yn sicr bron yn anghyfreithlon.
Byddai’r gyfraith newydd yn ymosodiad uniongyrchol ar hawl sylfaenol pobl sy’n gweithio i streicio er mwyn amddiffyn eu cyflog, eu telerau a’u hamodau.
Ymunwch â ni ar 1 Chwefror i anfon neges glir at Lywodraeth y DU – bydd gweithwyr yng Nghymru yn gwrthwynebu’r ddeddfwriaeth hon ac yn sefyll dros yr hawl i streicio.
Siaradwyr i'w cadarnhau