Mae’r pandemig coronafeirws wedi cynyddu’r pwysau a’r straen ar weithwyr gofal cymdeithasol. Mae undebau llafur yn cydnabod bod gweithwyr gofal ar draws Cymru yn gweithio’n galetach nag erioed i gadw pobl sy’n agored i niwed yn ddiogel ac yn iach.
Adnoddau Iechyd a Llesiant i weithwyr gofal cymdeithasol

Rydym yn gwybod bod swydd sydd eisoes yn gymhleth wedi dod yn fwy heriol fyth yn ddiweddar. Mae'n waith caled ac emosiynol.

Rydym yn adleisio galwadau gan y cyhoedd a gwleidyddion i drin gofal cymdeithasol fel gwasanaeth cyhoeddus allweddol.

Gall gweithio yn ystod y pandemig achosi gorbryder. Efallai eich bod yn poeni am eich swydd a'ch sicrwydd ariannol, am amgylchedd gwaith anniogel neu am eich iechyd a'ch llesiant eich hun. Serch hynny, fel gweithiwr gofal, mae’n rhaid i chi roi hyn i’r naill ochr i ganolbwyntio ar eich rôl o ofalu am y bobl sydd fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas.

Isod, fe welwch chi wybodaeth am y cymorth a’r adnoddau iechyd meddwl a llesiant sydd ar gael gan undebau llafur. Mae llu o gyrsiau, adnoddau a deunydd y gallwch gael mynediad iddyn nhw am ddim.

Mae’r pynciau yn amrywio o ymwybyddiaeth ofalgar, ymdopi â straen a gorbryder i gyflyrau penodol fel PTSD, galar a thrawma. Mae’r wybodaeth wedi’i threfnu fesul undeb. Mae’r cynnig hwn ar gael i bob gweithiwr gofal cymdeithasol yng Nghymru.

GMB - adnoddau iechyd meddwl i aelodau 

Mae undebau llafur yn gweithio mewn partneriaeth â Gofal Cymdeithasol Cymru i hyrwyddo llesiant ymhlith gweithwyr gofal mor eang â phosibl. Ewch i wefan Gofal Cymdeithasol Cymru i ddod o hyd i’w cymorth a’u hadnoddau.

Cyn bo hir, byddwn yn cynnal rhai digwyddiadau byw i weithwyr gofal. Cadwch lygad am gyhoeddiadau ar Twitter a Facebook neu ymunwch â’n rhestr bostio i dderbyn y cylchlythyr. Am fwy o wybodaeth, neu os hoffech help i gael mynediad at y cymorth hwn, cysylltwch â’ch undeb eich hun neu anfonwch e-bost atom wtuc@tuc.org.uk 

Bod mewn undeb yw’r ffordd orau o wneud yn siŵr eich bod yn cael eich gwarchod fel gweithiwr gofal. Os nad ydych yn aelod, gallwch ymuno ag undeb heddiw i gael mynediad at y buddion hyn a llawer mwy.

Gwyliwch ein sesiwn ymdopi â Covid ar youtube a darllenwch ein canllawiau cydraddoldeb Covid-19