Mae'r undebau sy’n aelodau o’r TUC yn cael llais wrth benderfynu ar holl waith datblygu polisi ac ymgyrchu’r TUC. Mae hyn yn digwydd yn ffurfiol drwy'r Gyngress a phwyllgorau a chynadleddau’r TUC, ac yn anffurfiol, drwy grwpiau gorchwyl bach a thrafodaethau gydag undebau sy’n gweithio mewn diwydiant neu sector penodol.
Beth mae’r TUC yn ei wneud i gefnogi undebau
Mae’r TUC yn briffio'r undebau sy’n aelodau ohono ar bolisi yn ymwneud â'r economi, cydraddoldebau, y gweithle a pholisi cymdeithasol, ac ynghylch tueddiadau yn y gweithle a'r economi. Rydym yn cysylltu â’r llywodraeth a phleidiau gwleidyddol wrth iddynt ddatblygu polisi, yn ymateb i ymgyngoriadau ac yn mynd i gyfarfodydd ar ran mudiad yr undebau. Ac rydym yn rhedeg ymgyrchoedd ar draws y mudiad ar faterion allweddol sy’n effeithio ar bob undeb - megis Deddf Undebau Llafur 2016.
Mae’r TUC yn cyd-drefnu cynrychiolaeth undebau ar gyrff cyhoeddus ac yn cefnogi trafodaethau ffurfiol parhaus gyda’r llywodraeth, er enghraifft y fforwm ar y cyd rhwng y llywodraeth ac undebau gydag aelodau sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus. Rydym hefyd yn cyd-drefnu dirprwyaeth undebau llafur y Deyrnas Unedig i’r ILO, corff sy’n perthyn i’r Cenhedloedd Unedig, ac i gyrff undebau llafur rhyngwladol ac Ewropeaidd . Rydym hefyd yn siarad ar ran y mudiad undebau ar y cyfryngau.
Bob blwyddyn, mae’r TUC yn hyfforddi miloedd o gynrychiolwyr undeb. Ac rydym yn rheoli arian gan y Llywodraeth i undebau i helpu’u haelodau i gael hyfforddiant drwy unionlearn.
Rydym yn cefnogi datblygiad proffesiynol staff sy'n gweithio i undebau, drwy hyfforddiant ffurfiol a thrwy ddigwyddiadau ymarfer gorau. Rydym yn cynnal nifer o rwydweithiau anffurfiol i staff undebau llafur mewn swyddi tebyg - er enghraifft, swyddogion cyfreithiol, swyddogion adnoddau dynol, staff gwleidyddol a chyfathrebwyr. Rydym hefyd yn cynnal gwobrau cyfathrebu blynyddol yr undebau llafur.
Rydym yn helpu undebau i dyfu, yn trefnu a chynnal hyfforddiant ac yn gweithio law yn llaw â’r undebau i ddatblygu’u strategaethau recriwtio a threfnu. Drwy ein gwefan Going to Work, rydym yn helpu undebau unigol i redeg ymgyrchoedd digidol yn targedu cwsmeriaid cwmnïau, i ategu’u gweithgarwch trefnu. Ac rydym yn rhedeg y rhaglen flaenllaw, Cyrraedd Gweithwyr Ifanc, ar ran y mudiad, gan fuddsoddi mewn arloesi a modelau newydd o undebaeth lafur er mwyn dod â gweithwyr ifanc yn y sector preifat i mewn i’n mudiad.
Rydym yn helpu’r undebau sy’n aelodau o’r TUC gyda’r dasg frys o ddatblygu capasiti digidol ac arweinyddiaeth, a moderneiddio er mwyn ateb heriau byd gwaith sy’n newid. Ac rydym yn helpu undebau i osgoi gwrthdaro â’i gilydd ac yn ceisio datrys anghydfodau (er enghraifft, lle mae dau undeb yn ceisio recriwtio’r un gweithwyr).
Anghydfodau, egwyddorion a gweithdrefnau’r TUC
Mae Cod Ymarfer y TUC, yn ymgorffori’r Egwyddorion sy’n rheoli’r cysylltiadau rhwng undebau, yn gosod y fframwaith er mwyn i undebau weithio gyda’i gilydd ac osgoi anghydfodau niweidiol, sy’n llyncu adnoddau.
Yn ôl y Cod diwygiedig, mae’n ofynnol i undebau roi gwybod i’r TUC am unrhyw geisiadau am gydnabyddiaeth statudol yn ogystal ag unrhyw gytundebau arfaethedig gan un undeb sy’n cael eu llunio ar sail wirfoddol. Mae’n ofynnol hefyd i undebau barchu’r hawliau i gynrychiolaeth sy’n bodoli’n barod mewn gweithleoedd wedi’u trefnu. Mae’r Cod yn caniatáu i'r TUC gymodi lle mae yna wahaniaethau rhwng undebau sy’n perthyn iddo ac, os metha hynny, i ddefnyddio proses fwy ffurfiol Pwyllgor Anghydfodau i ddatrys y mater.