Mae undebau’n chwarae rôl ddylanwadol o fewn y gweithle a thu hwnt iddo.
Mae undebau’n

Yn y gwaith

Pan fydd grŵp o weithwyr yn gweithredu ac yn siarad gyda’i gilydd, rhaid i’w cyflogwr wrando. Dyna sut mae undebau’n gwneud pethau’n well yn y gwaith.

Grwpiau o weithwyr wedi’u trefnu gyda’i gilydd er mwyn cael gwell bargen yn y gwaith yw undebau. Yn y rhan fwyaf o weithleoedd lle mae undebau’n weithredol, bydd yr aelodau’n dod ynghyd i siarad am yr hyn sy’n digwydd - ac am unrhyw broblemau maen nhw’n eu hwynebu. Y materion sy’n fwyaf tebygol o godi yw cyflogau, pensiynau, diogelwch yn y gwaith, triniaeth annheg, neu'r ffordd mae’r gwaith yn cael ei drefnu. Mae aelodau’r undeb yn ethol rhywun i siarad ar eu rhan, sy’n cael ei alw’n swyddog undeb. Gwirfoddolwyr yw’r rhain fel arfer. Mae’r swyddog undeb yn mynd â’u pryderon at y rheolwyr, ac yn helpu unigolion hefyd.

Mewn llawer o weithleoedd, mae’r undeb yn cael ei gydnabod yn gyfreithiol gan y cyflogwr. Yn y gweithleoedd hyn, mae gan y swyddogion undeb hawl i negodi’n ffurfiol gyda’r rheolwyr ynglŷn â thâl a thelerau ac amodau eraill. Bydd undeb yn cael ei gydnabod un ai pan fydd digon o aelodau wedi ymuno a bod y cyflogwr wedi cytuno i gydnabod yr undeb, neu pan fydd yr undeb wedi ennill pleidlais ymysg yr aelodau. Gallai gweithleoedd mwy fod â sawl undeb cydnabyddedig, yn cynrychioli gwahanol grwpiau o weithwyr. Gall swyddogion undeb mewn gweithleoedd mwy gael amser (y cytunwyd arno) oddi ar y gwaith (weithiau caiff ei alw’n amser cyfleuster) i gynrychioli aelodau’r undeb mewn trafodaethau gyda’r rheolwyr.

Mae’r rhan fwyaf o gyflogwyr synhwyrol yn croesawu cael undeb yn eu cwmni. Maen nhw’n deall ei bod yn well i weithwyr allu codi problemau a’u datrys, yn hytrach na’u bod yn gorfod goddef annhegwch neu driniaeth wael. A gall undebau helpu cwmnïau i gynllunio ar gyfer y dyfodol a rheoli newid - yn ogystal â gwneud yn siŵr fod gan weithwyr lais annibynnol os oes newidiadau mawr fel dileu swyddi neu gau safleoedd yn cael eu cynllunio.

Y tu hwnt i’r gweithle

Mae undebau’n tueddu i gael eu trefnu’n ganghennau ar gyfer swyddi tebyg neu ardal leol, gyda swyddogion gwirfoddol yn cael eu hethol. Bydd y canghennau hyn yn rhan o ranbarth neu wlad, ac yn aml o sector diwydiant neu broffesiwn o fewn eu hundeb.

Mae gan bob undeb bwyllgor cenedlaethol (sy’n cael ei alw’n bwyllgor gwaith yn aml) ac ysgrifennydd cyffredinol. Gyda’i gilydd, nhw sy’n arwain yr undeb. Mae’r pwyllgor gwaith a’r ysgrifennydd cyffredinol yn cael eu hethol gan aelodau unigol yr undeb. Bydd pob undeb yn cynnal cynadleddau rheolaidd, gyda chynrychiolwyr o’r canghennau’n bresennol. Y gynhadledd sy’n penderfynu ar flaenoriaethau’r undeb.

Mae gan undebau strwythurau hefyd i hybu ymwneud menywod, gweithwyr LGBT, gweithwyr o grwpiau duon a lleiafrifoedd ethnig, gweithwyr anabl a gweithwyr iau.

Mae’r rhan fwyaf o undebau hefyd yn cyflogi staff sy’n cael eu talu i helpu'r aelodau i negodi gyda chyflogwyr, i redeg yr undeb ac i drefnu’u hunain mewn gweithleoedd newydd. Efallai y byddant hefyd yn cyflogi cyfreithwyr, swyddogion y wasg ac ymgyrchwyr. Caiff undebau eu hariannu gan dâl aelodaeth yr aelodau.