Pan fydd grŵp o weithwyr yn gweithredu ac yn siarad gyda’i gilydd, rhaid i’w cyflogwr wrando. Dyna sut mae undebau’n gwneud pethau’n well yn y gwaith.
union members

Felly beth am ddarganfod pa undeb yw’r un iawn i chi, casglu grŵp o ffrindiau ynghyd yn eich gweithle, ac ymuno ag undeb?

Ar gyfartaledd, mae aelodau undeb yn cael mwy o dâl na’r rhai sydd ddim yn aelodau. Maen nhw hefyd yn debygol o gael gwell buddion salwch a phensiwn, mwy o wyliau gyda thâl a mwy o reolaeth dros bethau fel shifftiau ac oriau gwaith. Y rheswm am hynny yw bod y gweithwyr yn gweithio gyda’i gilydd i negodi tâl ac amodau yn hytrach na gadael i’r rheolwyr benderfynu.

Mae undebau’n gwneud yn siŵr fod pobl sy’n gweithio yn cael eu trin â pharch - er enghraifft, maen nhw’n gwrthwynebu pan fydd rheolwyr am gau cynlluniau pensiwn ac yn atal gweithwyr newydd rhag cael eu cyflogi ar delerau ac amodau gwaeth.

Mae undebau’n gwthio rheolwyr i wneud gweithleoedd yn fwy cynhwysol i fenywod, gweithwyr LGBT, gweithwyr o grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, gweithwyr hŷn a gweithwyr anabl. Lle mae yna undeb llafur cryf, mae menywod yn llawer llai tebygol o wynebu problemau yn y gwaith tra maent yn feichiog, ar absenoldeb mamolaeth neu pan fyddant yn dychwelyd i’r gwaith.

Mae gweithleoedd lle mae yna undebau yn weithleoedd mwy diogel. Bob blwyddyn, mae undebau’n hyfforddi 10,000 o gynrychiolwyr i sylwi ar arferion gwaith anniogel a gostwng cyfraddau damweiniau. Dyna pam mae’r cyfraddau anafiadau yn sylweddol is mewn gweithleoedd sydd â chynrychiolaeth undeb.

Os cewch chi broblemau yn y gwaith, bydd eich undeb yno i chi. Gall tîm cyfreithiol yr undeb wneud yn siŵr eich bod yn cael eich trin yn deg - heb orfod poeni am dalu. Bob blwyddyn, mae undebau’n ennill miliynau mewn iawndal i aelodau sy’n dioddef anafiadau neu’n cael eu trin yn annheg yn y gwaith.

Mae undebau’n helpu ein haelodau i wneud yn dda mewn bywyd. Bob blwyddyn, mae undebau’n helpu mwy na 200,000 o bobl sy’n gweithio i ennill y sgiliau gofynnol er mwyn cael swyddi sy’n talu’n well. Ac rydyn ni’n gwthio cyflogwyr i wneud yn siŵr fod cyfleoedd i bobl gyffredin sy’n gweithio i gael hyfforddiant a dyrchafiad.

Mae undebau’n gwneud yn siŵr fod gan bobl sy’n gweithio lais yn y gwaith. Mewn cwmnïau lle mae gweithwyr yn cael llais yn y penderfyniadau, mae’r cyfleoedd hyfforddi’n well, maen nhw’n cael cydnabyddiaeth deg ac maen nhw’n gallu helpu cwmnïau i oroesi drwy gyfnodau anodd.

Onid yw hi’n bryd i chi ymuno ag undeb?