Siarter Twf a gweithleoedd dwyieithog cynhwysol
Mae gwaith teg yn cynnwys defnydd teg o’r Gymraeg yn y gwaith. Mae Cyngres TUC Cymru heddiw (21 Mai) yn dathlu ac yn croesawu'r gweithleoedd cyntaf i arwyddo Siarter Twf - sef Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Gâr - gyda Llywodraeth Cymru a llawer o sefydliadau eraill yn cynllunio i’w fabwysiadu mewn gweithleoedd ar draws Cymru.
Mae gweithleoedd yn fannau strategol i ddefnyddio, hyrwyddo a hwyluso cyfleoedd cynyddol i weithwyr i ddefnyddio a dysgu Cymraeg yn y gwaith. Mae tyfu defnydd y Gymraeg mewn gweithleoedd at draws y sectorau i gyd yn flaenoriaeth allweddol yn strategaeth ‘Cymraeg 2050’ Llywodraeth Cymru. Mae gweithwyr, gan gynnwys gweithwyr sy’n siarad Cymraeg, mae gweithleoedd dwyieithog cynhwysol yn darparu cyfleoedd i ddefnyddio, dysgu a datblygu eu sgiliau Cymraeg yn y gwaith ac yn eu galluogi i weithio yn Gymraeg o ddydd i ddydd.
Dywedodd Gwawr Williams, Ysgrifennydd Cangen Unsain Gwynedd, Môn and Prifysgol Bangor:
“Rwy’n falch ein bod y gangen gyntaf i weithio gydag un o’n cyflogwyr, Cyngor Gwynedd, i fod yr Awdurdod Lleol cyntaf i arwyddo Siarter Twf TUC Cymru, ac rydym yn ei groesawi gyda breichiau agored.
“Ac rydym eisiau ysbrydoli eraill i wneud yr un peth. Rydym ni yn y symudiad undebau Cymreig wedi ei gofleidio ac mae gennym lawer o waith i wneud gyda’n gilydd yng Nghymru i ymsefydlu tegwch, ecwiti a chydraddoldeb wrth ddefnyddio a thyfu defnydd y Gymraeg yn y gwaith. Yn Unsain Gwynedd, rydym wedi creu rôl Cynrychiolydd y Gymraeg oherwydd gall llawer o ganghennau eraill gael budd o’r rôl yma wrth gefnogi eu haelodau eu hunain mewn undebau llafur ar draws Cymru. Rydym wedi gwneud hyn i’w hysbrydoli nhw.
“Mae’r Gymraeg yn rhan o’n hunaniaeth, diwylliant a’n hanes yng Nghymru ac rydym yn ei thrysori a’i mynwesu. Mae Siarter Twf yn fframwaith sy’n hyrwyddo, cefnogi a hwyluso cynnydd parhaol yn y defnydd o’r Gymraeg mewn gweithleoedd ar draws Cymru. Mae hyn yn fater o urddas a chyfrifoldeb i bob un ohonom.”
Dywedodd Dr Mandy James, Swyddog Cyfathrebu Dwyieithog TUC Cymru ac arweinydd polisi’r Gymraeg:
“Llongyfarchiadau i Gyngor Gwynedd a Chyngor Sir Gâr am fod y gweithleoedd cyntaf i arwyddo Siarter Twf. Mae’r digwyddiadau arwyddo yma yn dangos llwyddiant gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol. Maent yn barod yn cael eu gweld fel ‘cerrig milltir hanesyddol blaengar’ sy’n dangos ymroddiad a chefnogaeth ar y cyd i’ dyfu defnydd dyddiol ein hiaith yn ein gweithleoedd.
“Wedi’r cyfan, mae urddas, cydraddoldeb, ecwiti a thegwch yn y gwaith yn cynnwys cynnydd parhaol yn y defnydd o’r Gymraeg mewn gweithleoedd ar draws Cymru. Mae defnyddio’r Gymraeg yn sgil gwerthfawr, ymarferol ac yn drysor gall bob un ohonom ddathlu ac ymfalchïo ynddi - yn y gweithle ac yn ein bywydau. Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd.”
Ategodd Sian Boyles, Swyddog Cenedlaethol PCS:
“Mae PCS Cymru yn falch i gefnogi pob gweithle ar draws Cymru i fabwysiadu Siarter Twf. Rydym hefyd yn datblygu ein ‘Cynnig Cymraeg’ a’n ‘Polisi Datblygu’r Iaith Gymraeg.’
Clywodd mynchwyr y gynhadledd gan Jane Lancastle, Ysgrifennydd Cynorthwyol Undeb Prospect a dysgwr Cymraeg balch:
“Fel dysgwr Cymraeg, rwyf eisioes yn defnyddio ac yn hyrwyddo gwerth fy sgiliau dwyieithog, ac rwy’n gyffrous iawn ynghylch ein datblygiadau sy’n cynnwys ‘Polisi Datblygu’r Gymraeg’ a’n ‘Cynnig Cymraeg.”
Dysgu Cymraeg yn ein cymunedau
Clywodd mynychwyr y gynhadledd gan Richard Morse, Cyngor Undebau Torfaen, a uwcholeuodd y diffyg cyfleoedd dysgu Cymraeg mewn cymunedau lleol gyda dim ond hanner y dosbarthiadau wyneb yn wyneb ar gael nawr o’i gymharu â’r sefyllfa cyn Covid.
Mae TUC Cymru yn cefnogi hawl pob gweithiwr a dinesydd i siarad a defnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd, ac mae hyn yn cynnwys gweithio’n gynyddol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Ymroddiad undebau llafur i weithredu cynyddol drwy ddatblygu Polisïau Dwyieithog
Yn unol â Siarter Twf TUC Cymru, pwysleisiodd Siôn Amlyn, Cadeirydd Fforwm y Gymraeg TUC Cymru :
“Mae Siarter Twf, gyda’i weledigaeth gydweithredol, yn cynnig llwybr i undebau - ar lefel genedlaethol - ddangos eu hymrwymiad, cydnabyddiaeth, a’u cyfrifoldebau i gefnogi, ymateb, a mynd i’r afael â’r angen i gyflawni cyfiawnder ieithyddol ac amodau a thelerau teg er mwyn i weithwyr gallu defnyddio a dysgu Cymraeg yn y gwaith.”
O ganlyniad i hyn, cytunodd mynychwyr y gynhadledd y dylai pob undeb llafur yng Nghymru weithredu’n flaengar i ddatblygu eu Polisïau Dwyieithog yng Nghymru.
Am ragor o wybodaeth am Siarter Twf, ewch i www.tuc.org.uk/cy/Twf <http://www.tuc.org.uk/Twf>
Dywe
Nodiadau i olygyddion:
Digwyddiad: Mae Cyngres TUC Cymru yn digwydd yn Venue Cymru, Llandudno rhwng 19 a 21 Mai.
Llefarydd: Bydd Dr Mandy James, Swyddog Cyfathrebu Dwyieithog TUC Cymru, ar gael i siarad â'r cyfryngau yn Gymraeg neu yn Saesneg. mjames@tuc.org.uk 07800882418
Gwybodaeth am TUC Cymru: TUC Cymru yw llais Cymru yn y gwaith.
Rydym yn creu Cymru lle mae gan bawb lais drwy eu hundeb, ac incwm y gallant adeiladu bywyd arno. Rydym ni’n credu bod gan bob gweithiwr hawl i fod yn ddiogel, ac i gael ei werthfawrogi a’i barchu.
Pan fydd gweithwyr yn gweithredu ar y cyd, mae gennym y grym i greu newid cadarnhaol mewn cymdeithas. Rydym yn dod â gweithwyr at ei gilydd drwy 48 undeb i frwydro dros swyddi gwell a gwlad sy’n fwy cyfartal a ffyniannus.
Cyswllt:
Matt Hexter
mhexter@tuc.org.uk
07528170583