Mae CAF, sy’n gwneud trenau a thramiau ar gyfer systemau trafnidiaeth ar draws y byd, yn fusnes gymharol newydd yn y DU. Sefydlwyd CAF Rolling Stock UK Ltd a safle cydosod pwrpasol yng Nghasnewydd yn 2018. Ni chymerodd lawer o amser iddyn nhw sylweddoli manteision cael presenoldeb undeb.
Fe wnaeth CAF Rolling Stock UK ethol i ymrwymo i gytundeb cydnabod gwirfoddol gyda’r GMB nôl yn 2020. Maen nhw wedi cydweithio, flwyddyn ar ôl blwyddyn, i ddatblygu cydweithwyr ac i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd sy’n cael eu cynnig gan WULF (Cronfa Ddysgu Undebau Cymru).
“O weithio gyda’r undeb, gall cydweithwyr weld mai nid dim ond hyfforddiant at ddibenion CAF yw hyn, ond ar gyfer eu datblygiad personol eu hunain hefyd”
Chris Thompson, Rheolwr Hyfforddi a Chymhwysedd
Mae CAF a’r GMB yn rhannu angerdd cryf dros gynnal Iechyd a Diogelwch gweithwyr, felly roedd yn gwneud synnwyr i ddechrau gyda chyrsiau iechyd a diogelwch ar bob lefel.
Arweiniodd cytundeb cydnabod y GMB yn gyflym at sefydlu Pwyllgor Iechyd a Diogelwch newydd. Roedd yn cynnwys tua deg aelod o staff - o gynhyrchu, profi a rheoli. Fe wnaeth pawb yr hyfforddiant IOSH Rheoli'n Ddiogel a ariannwyd gan WULF. Erbyn hyn, mae’r grŵp yn cwrdd fel un tîm, unwaith y mis gyda'r bwriad o godi a datrys unrhyw faterion a nodwyd, yn gyflym ac yn effeithiol.
“Mae’r berthynas gyda’r GMB wedi bod yn ddefnyddiol iawn wrth gyflawni canlyniadau busnes gwych i'n pobl”
Jenny Buck, Pennaeth Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Cymorth
Mewn partneriaeth gymdeithasol go iawn, mae CAF Rolling Stock UK wedi gweld buddion buddsoddiad WULF ac wedi ymrwymo arian ychwanegol i gefnogi gweithwyr gyda’u datblygiad proffesiynol. Yn 2020 lansiwyd polisi nawdd proffesiynol newydd. Mae'r arian hwn yn golygu mynediad at Dystysgrifau Cenedlaethol Uwch (HNC), Diplomâu Cenedlaethol Uwch (HND) a graddau ar gyfer staff.
Mae nifer y gweithwyr sy'n gwneud cais am nawdd proffesiynol ac sy'n derbyn nawdd proffesiynol wedi cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae tua 10% o'r gweithlu ar hyn o bryd yn derbyn nawdd ar gyfer rhaglenni datblygu hirdymor.
Mae cyllid nawdd proffesiynol, a gefnogir gan WULF, wedi gweld CAF yn elwa o sgiliau ac arbenigedd newydd ei weithwyr. A chafwyd rhai straeon o lwyddiant personol gwych wrth i gydweithwyr CAF ddatblygu eu gyrfaoedd o fewn y busnes.
Mae'r Arweinwyr Tîm i gyd wedi symud ymlaen o rôl Cydosodydd Trenau ac mae rhai hyd yn oed wedi symud ymlaen i fod yn Arweinwyr Llinell, ar ôl datblygu drwy ddwy lefel yn y busnes ers i’r cwmni ddechrau (tua 5 mlynedd). Mae nifer wedi gallu cymryd y cam hwn gyda chefnogaeth eu gwybodaeth newydd drwy raglenni ILM Lefel 3, 4 a 5.
Mynegodd Chris Thompson, Rheolwr Hyfforddi a Chymhwysedd, ddiddordeb mewn iechyd meddwl. Dywedodd, “Byddwn yn mynd i’r llinell gynhyrchu ac efallai yn gweld rhywun oedd ddim yn ymddwyn fel y bydden nhw fel arfer.” Ond nid oedd yn teimlo ei fod yn gymwys i ofyn y cwestiynau iawn ac roedd yn gwybod efallai nad oedden nhw eisiau siarad.
Drwy brosiect WULF y GMB, hyfforddodd CAF 12 o Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl. Mae hyn yn golygu eu bod yn gallu adnabod problemau o fewn eu tîm os nad yw pethau’n gweithio fel y dylen nhw. Nawr, os ydyn nhw'n gweld aelodau o'u tîm a allai fod yn ei chael hi'n anodd, maen nhw'n gwybod beth i'w wneud.
Drwy gydweithio, mae tîm rheoli’r GMB a CAF Rolling Stock UK yn cydnabod yr angen i gynyddu’r wybodaeth ac ehangu i hyfforddiant Niwroamrywiaeth, i sicrhau bod y wybodaeth hon ar gael i'r boblogaeth ehangach o weithwyr.
“Mae hyfforddiant Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl wedi ein helpu i ddeall sut i adnabod a chefnogi rhywun sy’n cael trafferthion gydag iechyd meddwl a llesiant gwael”
Chris Thompson
O ganlyniad i’r hyfforddiant hwn, mae o leiaf pum o gydweithwyr CAF wedi dysgu digon amdanyn nhw eu hunain i fynd at yr arbenigwyr a cheisio cael diagnosis cywir ar gyfer niwroamrywiaeth. Mae'r gweithwyr bellach yn fwy abl i ddeall a chefnogi eu cydweithwyr ac i fynd â'u sgiliau newydd i'r gymuned ehangach.
Mae Chris yn awyddus i weld mwy o gynhwysiant a chydweithio ag undeb y GMB, ac i hyfforddi Cynrychiolwyr Dysgu’r Undeb ar y safle. Byddai Cynrychiolwyr Dysgu’r Undeb yn “cau'r cylch er mwyn galluogi eiriolwyr o bob rhan o'r busnes i godi ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd dysgu sydd ar gael i aelodau’r Undeb, drwy nawdd proffesiynol ac mewn partneriaeth â WULF.”
“Mae darparu arian gan Lywodraeth Cymru i WULF yn golygu gallu cynnig cyrsiau a hyfforddiant na fyddai gan bobl fynediad iddyn nhw fel arall. Maen nhw wedi bod yn glyfar iawn wrth ddefnyddio cynrychiolaeth undeb, gan agor y cyfan i greu partneriaeth o'r fath. Ni fyddai busnesau byth yn gallu cynnig hynny i gyd ar eu pen eu hunain”
Chris Thompson
Eisiau cyfle i ddysgu drwy eich undeb, fel gweithwyr CAF Rolling Stock UK?
Mae gan holl weithwyr Cymru y cyfle i gael mynediad at y gronfa i fanteisio ar y cymorth, y cyngor a’r arweiniad a’r cynigion hyfforddi sy’n cael eu cynnig drwy brosiectau WULF.
Edrychwch ar y rhestr gyfoes o brosiectau WULF
Hyd yn oed os nad ydych yn aelod, bydd yna undeb llafur (a phrosiect WULF fwy na thebyg) sy'n cwmpasu eich maes gwaith. Defnyddiwch ein hadnodd canfod undeb i weld pa undeb(au) sy’n gweithio yn eich sector.