Dyddiad cyhoeddi
Wrth ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru y gall tafarndai, caffis a bwytai gyda mannau eistedd awyr agored ddechrau ailagor o 13 Gorffennaf

dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, Shavanah Taj:

"Rydym yn croesawu dull gofalus Llywodraeth Cymru o ddechrau ailagor y sector hwn yn raddol ac yn araf. Mae'r sector yn cyflogi llawer o bobl, gan gynnwys gweithwyr ifanc. Mae ein safbwynt yn glir – mae iechyd a diogelwch gweithwyr yn hollbwysig. Ni ellir rhoi elw cwmni uwchben iechyd gweithiwr. Mae angen inni wneud popeth a allwn i gadw'r sector hwn yn fyw ac i gadw swyddi'n ddiogel, yn enwedig yng ngoleuni'r cynnydd yn nifer y diswyddiadau sy'n cael eu cyhoeddi yn y sector lletygarwch ehangach.

Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol gyda Llywodraeth Cymru, cyflogwyr a diwydiant i gadw pobl yn ddiogel yn y gwaith. Mae angen i ni sicrhau bod yr holl fesurau iechyd a diogelwch yn cael eu dilyn a'u gorfodi'n briodol, drwy asesiadau iechyd a diogelwch Covid-19 yn y gweithle.  Byddwn yn parhau i bwyso i gwmnïau i dalu tâl salwch priodol os bydd angen i weithiwr hunan-ynysu, gan nad yw Tâl Salwch Statudol o £95 yr wythnos yn ddewis ymarferol, yn enwedig mewn diwydiant lle mae cyflog isel yn parhau i fod yn broblem wirioneddol. "